Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Cymorth gyda chostau gofal plant - ydych chi'n gymwys?

Os ydych yn gweithio ac yn talu am ofal plant efallai y gallwch gael credydau treth i'ch helpu gyda'r costau. Mae'n rhaid i chi weithio o leiaf 16 awr yr wythnos i fod yn gymwys. Efallai y byddwch yn gymwys o hyd os ydych wedi gweithio 16 awr neu fwy cyn cymryd absenoldeb mamolaeth, tadolaeth, mabwysiadu neu salwch.

Faint o arian allwch chi ei gael?

Gallwch gael hyd at 80 y cant o'r hyn rydych yn ei dalu mewn gofal plant, at uchafswm o:

  • £175 yr wythnos ar gyfer un plentyn
  • £300 yr wythnos ar gyfer dau o blant neu fwy

Bydd y swm a gewch yn dibynnu ar eich incwm. Os bydd eich incwm yn isel, byddwch yn cael mwy o gredydau treth.

Pa ofal plant sy'n gymwys?

Mae'n rhaid i chi ddefnyddio gofal plant cofrestredig neu gymeradwy y gellir ei ddarparu gan:

  • warchodwr plant, meithrinfa, cynllun chwarae neu glwb sydd wedi'i gofrestru i ddarparu gofal plant
  • rhywun a gymeradwywyd dan y Cynllun Cymeradwyo Gofal Plant yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon sy'n darparu gofal plant yng nghartref eich plentyn neu mewn eiddo domestig
  • ysgol, y tu allan i oriau ysgol ac ar dir ysgol - ond mae trefniadau arbennig yn berthnasol yn Lloegr ac eglurir y rhain isod
  • gweithiwr gofal neu nyrs o asiantaeth sydd wedi'i chofrestru i ddarparu gofal yn y cartref, er enghraifft, gweithiwr gofal cartref
  • gofalwr maeth cymeradwy, cyn belled nad rhiant maeth y plentyn yw'r gofalwr maeth

Rhaid i chi sicrhau bod eich darparwr gofal plant yn un gofrestredig neu gymeradwy.

Beth yw gofal plant cofrestredig?

Bydd yn rhaid i'ch darparwr gofal plant fod wedi'i gofrestru gan un o'r canlynol:

  • Ofsted yn Lloegr - ond ceir trefniadau cofrestru gwahanol ac eglurir y rhain isod
  • yr Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol yng Nghymru
  • y Comisiwn Rheoleiddio Gofal yn yr Alban
  • Bwrdd neu Ymddiriedolaeth Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yng Ngogledd Iwerddon

Bydd yn rhaid i ddarparwyr gofal plant cofrestredig Ofsted fod wedi'u cofrestru fel a ganlyn:

  • os yw eich plentyn o dan 5 oed, mae'n rhaid i'r darparwr gofal plant fod wedi'i gofrestru ar y Gofrestr Blynyddoedd Cynnar
  • os yw eich plentyn rhwng 5 a 7 oed, mae'n rhaid i'r darparwr fod wedi'i gofrestru ar ran orfodol y Gofrestr Gofal Plant Cyffredinol
  • os yw eich plentyn yn 8 oed neu hŷn, mae'n rhaid i'r darparwr fod wedi'i gofrestru ar ran wirfoddol y Gofrestr Gofal Plant Cyffredinol

Bydd rhai darparwyr yn Lloegr na fydd angen iddynt gofrestru ar y Gofrestr Blynyddoedd Cynnar na'r rhan orfodol o'r Gofrestr Gofal Plant Cyffredinol. Er enghraifft, gofal plant sy'n seiliedig ar weithgareddau megis clybiau chwaraeon, neu nanis gan eu bod yn darparu gofal yng nghartref y plentyn. Mae'n rhaid iddynt gofrestru ar ran wirfoddol y Gofrestr Gofal Plant Cyffredinol os ydynt am fod yn ddarparwyr gofal plant cymwys ar gyfer credydau treth.

Dylech sicrhau bod eich darparwr wedi'i gofrestru ar y Gofrestr Gofal Plant cywir.

Os mai perthynas sy'n gofalu am eich plentyn

Fel arfer ni allwch hawlio credydau treth ar gyfer gofal plant a ddarperir gan berthnasau hyd yn oed os ydynt wedi'u cofrestru neu wedi'u cymeradwyo. Gall perthynas fod yn un o'r canlynol i'ch plentyn:

  • rhiant
  • nain neu daid
  • modryb neu ewythr
  • brawd neu chwaer
  • llys-riant

Yr eithriad i'r rheol hon yw pan fydd eich plentyn yn cael gofal gan berthynas sydd naill ai:

  • yn warchodwr plant cofrestredig neu gymeradwy ac yn gofalu am eich plentyn y tu allan i gartref y plentyn
  • neu'n ddarparwr gofal plant, wedi'i gymeradwyo o dan Gynllun Cymeradwyo Darparwyr Gofal Plant yn y Cartref yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, sy'n gofalu am eich plentyn y tu allan i gartref y plentyn a'u bod hefyd yn gofalu am o leiaf un plentyn arall nad yw'n perthyn iddynt

Gofal plant a ddarperir gan ysgol yn Lloegr

Cewch hawlio credydau treth i helpu gyda chostau gofal plant a ddarperir gan ysgol os oes unrhyw un o'r canlynol yn berthnasol:

  • mae eich plentyn yn 3 neu'n 4 oed a darperir y gofal gan gorff llywodraethu'r ysgol neu dan ei gyfarwyddyd. Gall hyn fod naill ai ar dir yr ysgol neu mewn adeiladau eraill a gaiff eu cynnwys mewn unrhyw arolygiad Ofsted o'r ysgol gyfan
  • mae eich plentyn rhwng 5 ac 15 oed, neu'n 16 oed ac yn anabl, ac y darperir y gofal y tu allan i oriau ysgol neu dan gyfarwyddyd corff llywodraethu'r ysgol. Mae'n rhaid gofalu am y plentyn naill ai ar dir yr ysgol neu mewn adeiladau eraill, er enghraifft neuadd bentref, a gaiff eu cynnwys mewn unrhyw arolygiad Ofsted o'r ysgol gyfan
  • mae ysgol eich plentyn yn defnyddio darparwr gofal plant allanol, ar yr amod eu bod wedi cofrestru ar y Gofrestr Blynyddoedd Cynnar os yw eich plentyn dan 5 oed, ar ran gorfodol y Gofrestr Gofal Plant Cyffredinol os yw eich plentyn rhwng 5 a 7 oed, neu ar ran gwirfoddol y Gofrestr Gofal Plant Cyffredinol os yw eich plentyn yn 8 oed neu'n hŷn. Dylech sicrhau bod y darparwr gofal plant ar y Gofrestr gywir

Sut i gael gwybod os yw eich darparwr gofal plant wedi'i gofrestru neu wedi'i gymeradwyo

Dylech ofyn am gael gweld eu tystysgrif cofrestru neu dystysgrif gymeradwyaeth.

Gellir cael rhagor o wybodaeth am ofal plant cofrestredig a chymeradwy yn y daflen 'Cymorth gyda chostau gofal plant'.

Talebau gofal plant

Ni allwch wneud cais am gymorth gyda chostau gofal plant:

  • yr ydych yn eu talu gyda thalebau y mae eich cyflogwr yn eu rhoi i chi tuag at gost eich gofal plant
  • y mae eich cyflogwr yn eu talu
  • y mae eich awdurdod addysg lleol yn talu amdanynt fel sesiynau cyn-ysgol

Os yw eich cyflogwr yn cynnig talebau gofal plant i chi ac yr hoffech wybod a fyddai'n fanteisiol i chi gael y talebau neu wneud cais am gymorth gyda chostau gofal plant drwy gredydau treth, gallwch ddefnyddio'r gyfrifiannell ar wefan Cyllid a Thollau EM. Ni fydd y canlyniadau'n hollol gywir bob amser, ond dylent roi syniad bras i chi p'un ai a fyddai'n fanteisiol i chi gyda'r talebau ai peidio.

A allwch hawlio os nad ydych yn gweithio 16 awr yr wythnos?

Os ydych yn rhiant unigol

Os ydych yn rhiant sengl mae'n rhaid i chi weithio 16 awr neu fwy yr wythnos i wneud cais am gymorth gyda chostau gofal plant.

Os ydych yn rhan o gwpl

Yn gyffredinol mae'n rhaid i chi a'ch partner weithio 16 awr neu fwy yr wythnos i wneud cais am gymorth. Dim ond un ohonoch sy'n gorfod gweithio 16 awr neu fwy os oes un ohonoch:

  • yn sâl neu'n anabl ac yn hawlio budd-daliadau anabledd
  • yn yr ysbyty
  • yn y carchar - ar ganol dedfryd o garchar neu wedi'ch cadw mewn carchar yn aros prawf neu ddedfryd

Os ydych chi ar absenoldeb mamolaeth, tadolaeth neu absenoldeb mabwysiadu

Gallwch wneud cais am gymorth gyda chostau gofal plant os ydych ar absenoldeb mamolaeth neu fabwysiadu am 39 wythnos neu lai a'ch bod yn arfer gweithio 16 awr yr wythnos neu fwy cyn mynd ar yr absenoldeb.

Oni fyddwch yn dychwelyd i weithio ar ôl 39 wythnos ni fyddwch yn gymwys mwyach. Mae'n bwysig eich bod yn dweud wrth Gyllid a Thollau EM oni fyddwch yn mynd yn ôl i weithio ar ôl 39 wythnos.

Gallwch hefyd wneud cais am gymorth gyda chostau gofal plant am y pythefnos y byddwch ar absenoldeb tadolaeth.

Os ydych yn absennol oherwydd salwch

Gallwch wneud cais am gymorth gyda chostau gofal plant os ydych yn absennol oherwydd salwch am 28 wythnos neu lai. Ond mae'n rhaid i chi fod wedi gweithio am o leiaf 16 awr yr wythnos cyn i chi fod yn absennol. Oni fyddwch yn dychwelyd i weithio ar ôl 28 wythnos ni fyddwch yn gymwys mwyach. Mae'n bwysig eich bod yn dweud wrth Gyllid a Thollau EM oni fyddwch yn mynd yn ôl i weithio ar ôl 28 wythnos

Sut i wneud cais am gymorth gyda chostau gofal plant1

Dim ond os ydych eisoes wedi trefnu eich gofal plant y gallwch wneud cais am gymorth gyda chostau gofal plant. Ni chewch hawlio ymlaen llaw.

Os ydych yn gwneud cais newydd

Os ydych yn gwneud cais newydd am help gyda chostau gofal plant bydd angen i chi lenwi tudalen pedwar o'r ffurflen hawlio credydau treth.

Os ydych eisoes yn cael credydau treth

Efallai bydd eich amgylchiadau'n newid ac yn caniatáu i chi wneud cais am gymorth gyda chostau gofal plant. Er enghraifft, cewch:

  • ddychwelyd i weithio a dechrau talu am ofal plant
  • newid eich darparwr gofal plant i un sydd wedi'i gymeradwyo neu wedi'i gofrestru

Ffoniwch Gyllid a Thollau EM i roi gwybod iddynt os bydd hyn yn digwydd.

Cysylltu â Chyllid a Thollau EM

Gallwch gysylltu â'r Llinell Gymorth Credydau Treth ar 0845 300 3900 neu ffôn testun 0845 300 3909 (ar agor rhwng 8.00 am a 8.00 pm, saith niwrnod yr wythnos ac eithrio ar Ddydd Nadolig, Gŵyl San Steffan a Dydd Calan).

Allweddumynediad llywodraeth y DU