Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Sut i hawlio credydau treth

Gallwch hawlio credydau treth drwy'r post neu wyneb yn wyneb - ac mae digon o help ar gael i chi os oes ei angen arnoch

Sut mae hawlio

Mae'n rhaid i chi lenwi ffurflen hawlio i gael credydau treth. Gallwch archebu pecyn hawlio credydau treth drwy ffonio'r Llinell Gymorth Credydau Treth ar 0845 300 3900 neu ffôn testun 0845 300 3909.

Mae'r llinell gymorth ar agor o 8.00 am tan 8.00 pm bob dydd ac eithrio Dydd Nadolig, Gŵyl San Steffan a Dydd Calan.

Gallwch lenwi'r ffurflen eich hun a'i hanfon yn ôl drwy'r post. Os bydd angen unrhyw gymorth arnoch i gwblhau'r ffurflen gallwch ffonio'r Llinell Gymorth Credyd Treth a fydd yn fwy na pharod i roi rhagor o gyngor i chi.

Os byddwch yn hawlio budd-daliadau eraill, er enghraifft Cymhorthdal Incwm neu Lwfans Ceisio Gwaith, bydd eich Canolfan Byd Gwaith - neu swyddfa Nawdd Cymdeithasol yng Ngogledd Iwerddon - yn eich helpu gyda'r ffurflen hawlio credydau

Pwy ddylai hawlio?

Os ydych yn byw gyda rhywun fel cwpl mae'n rhaid i chi wneud cais am gredydau treth ar y cyd - ni allwch benderfynu hawlio fel person sengl. Bydd yn rhaid i chi nodi gwybodaeth am y ddau ohonoch ar y ffurflen hawlio a byddwch yn rhannu'r cyfrifoldeb dros sicrhau bod y wybodaeth yn gywir.

Pryd i hawlio

Gwnewch gais am gredydau treth cyn gynted ag y credwch eich bod yn gymwys. Os byddwch yn oedi cyn hawlio gallech golli arian oherwydd fel arfer dim ond hyd at dri mis y gellir ôl-ddyddio credydau treth o'r dyddiad y bydd Cyllid a Thollau EM yn cael eich ffurflen hawlio. Er enghraifft, os byddwch yn cael babi ar 12 Mehefin ond na fydd Cyllid a Thollau EM yn cael eich ffurflen hawlio tan 12 Hydref, dim ond at 12 Gorffennaf y byddant yn ôl-ddyddio eich taliadau.

Weithiau gall fod yn ddefnyddiol hawlio hyd yn oed os ydych yn credu bod eich incwm yn rhy uchel i gael unrhyw arian ar hyn o bryd. Mae'n bosibl y byddwch am wneud hyn os ydych yn disgwyl i'ch incwm ostwng yn ddiweddarach yn ystod y flwyddyn, oherwydd eich bod yn colli'ch swydd efallai.

Yn yr un modd, dylech roi gwybod i Gyllid a Thollau EM os ydych yn gwneud cais am fudd-dal salwch neu anabledd a fyddai'n golygu y byddwch yn cael taliadau credydau treth ychwanegol. Os dywedir wrthych yn ddiweddarach bod gennych hawl i gael y budd-dal, caiff eich taliadau credydau treth ychwanegol eu hôl-ddyddio at y dyddiad cynharaf posibl.

Y wybodaeth sydd ei hangen arnoch i hawlio

Pan fyddwch yn hawlio bydd angen i chi roi manylion eich incwm ar gyfer y flwyddyn dreth ddiwethaf i Gyllid a Thollau EM. Mae blwyddyn dreth yn mynd o'r 6 Ebrill un flwyddyn i'r 5 Ebrill y flwyddyn ganlynol.

Er mwyn gwneud eich cais efallai y bydd angen i chi gael y wybodaeth ganlynol wrth law:

  • eich rhif Yswiriant Gwladol
  • rhif cyfeirnod eich Budd-dal Plant
  • eich ffurflen P60 neu slipiau cyflog ar gyfer y flwyddyn dreth ddiwethaf os oeddech yn gyflogedig
  • manylion eich incwm ar gyfer y flwyddyn dreth ddiwethaf a'ch rhif cyfeirnod treth unigryw (UTR) os oeddech yn hunangyflogedig
  • manylion unrhyw fudd-daliadau yr ydych yn eu cael er enghraifft y Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar Gyfraniadau neu'r Lwfans Gofalwr
  • manylion unrhyw incwm arall yr ydych yn ei gael er enghraifft llog cynilion, pensiynau neu rent
  • manylion unrhyw daliadau gofal plant yr ydych yn eu gwneud os ydych yn defnyddio darparwr cofrestredig neu gymeradwy, gan gynnwys, er enghraifft, clwb y tu allan i oriau ysgol ar safle'r ysgol
  • manylion y cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu yr ydych am i ni dalu eich credydau treth i mewn iddo

Byddwch yn cael cyfres o nodiadau gyda'ch ffurflen hawlio a fydd yn eich helpu i'w llenwi. Os bydd angen rhagor o gymorth arnoch, gallwch ffonio'r Llinell Gymorth Credyd Treth ar 0845 300 3900 neu ffôn testun 0845 300 3909.

Cysylltu â Chyllid a Thollau EM

Gallwch gysylltu â'r Llinell Gymorth Credydau Treth ar 0845 300 3900 neu ffôn testun 0845 300 3909 (ar agor rhwng 8.00 am a 8.00 pm, saith diwrnod yr wythnos ac eithrio ar Ddydd Nadolig, Gŵyl San Steffan, a Dydd Calan).

Neu gallwch ysgrifennu at Gyllid a Thollau EM yn:
Tax Credit Office
Preston
PR1 0SB

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU