Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Talwyd gormod o gredydau treth i chi – sut y digwyddodd hyn?

Mae'r Swyddfa Credyd Treth yn cyfrifo faint i'w dalu i chi o'r hyn yr ydych yn ei ddweud wrthynt am eich incwm a'ch amgylchiadau teuluol. Weithiau byddant yn talu gormod o arian i chi, sef gordaliad. Gall hyn ddigwydd am amrywiaeth o resymau.

Pam y cawsoch ordaliad?

Gallech fod wedi cronni gordaliad:

  • os na wnaethoch ddweud wrth y Swyddfa Credyd Treth am unrhyw newid i'ch amgylchiadau sy'n effeithio ar eich taliadau - fel plentyn yn gadael addysg llawn amser
  • os oedd eich taliadau'n seiliedig ar wybodaeth anghywir am eich sefyllfa bersonol
  • os na wnaethoch adnewyddu eich credydau treth mewn pryd
  • os gwnaeth y Swyddfa Credyd Treth gamgymeriad wrth gofnodi'r wybodaeth a roesoch iddynt
  • os na weithredodd y Swyddfa Credyd Treth ar yr wybodaeth a roesoch iddynt

Os ydych wedi cael gordaliad, bydd hyn yn cael ei ddangos ar eich hysbysiad dyfarniad.

Ni roesoch wybod i'r Swyddfa Credyd Treth am newid mewn amgylchiadau

Mae credydau treth yn hyblyg ac yn newid pan fydd eich bywyd yn newid. Mae peidio â dweud wrth y Swyddfa Credyd Treth am newid mewn amgylchiadau yn un o'r prif resymau pam fod pobl yn cael gormod o gredydau treth ac yn gorfod talu'r arian yn ôl.

Pan fyddwch yn rhoi gwybod i'r Swyddfa Credyd Treth am newid yn eich amgylchiadau, rhaid iddynt ail-gyfrifo'r swm a gewch. Efallai y caiff eich swm ei ail-gyfrifo ar gyfer:

  • y flwyddyn dreth gyfan - sy'n mynd o 6 Ebrill mewn un flwyddyn i 5 Ebrill yn y flwyddyn ganlynol
  • y cyfnod o pan wnaethoch chi'r hawliad hyd at ddiwedd y flwyddyn dreth
  • y cyfnod o pan roesoch wybod iddynt am y newid hyd at ddiwedd y flwyddyn

Yna, bydd y Swyddfa Credyd Treth yn anfon hysbysiad dyfarniad atoch sy'n dweud wrthych pryd y bydd eich taliad newydd yn dechrau.

Os na fyddwch yn dweud wrthynt am newid sy'n effeithio ar eich credydau treth, er enghraifft, os byddwch chi a'ch partner yn gwahanu, ni fyddant yn gwybod am y peth nes byddwch yn cadarnhau eich amgylchiadau go iawn pan fyddwch yn adnewyddu eich credydau treth ar ddiwedd y flwyddyn.

Bryd hyn byddant yn edrych i weld a yw'r arian a gawsoch yn cyfateb i'ch incwm a'ch amgylchiadau. Efallai na fyddwch wedi cael yr holl arian y dylech fod wedi'i gael - gelwir hyn yn dandaliad. Neu, os ydych chi wedi cael gormod o arian, gelwir hynny'n ordaliad.

Os ydych chi'n dal yn gymwys, caiff eich taliadau credydau treth cyfredol eu lleihau er mwyn ad-dalu'r arian.

Mae'n rhaid rhoi gwybod i'r Swyddfa Credyd Treth am unrhyw newid mewn amgylchiadau a allai olygu y bydd eich taliadau credydau treth yn gostwng, er enghraifft os bydd plentyn yn gadael addysg llawn amser, a hynny o fewn mis neu gallech gael gordaliad a dirwy o hyd at £300.

Mae'n rhaid rhoi gwybod i'r Swyddfa Credyd Treth am unrhyw newid mewn amgylchiadau - cael babi, er enghraifft - a allai olygu bod eich taliadau credyd treth yn codi. Mae'n well gwneud hyn ar unwaith gan na ellir ôl-ddyddio'r cynnydd mewn taliadau yn hwy na thri mis.

Bydd y rhestr wirio a ddaeth gyda'ch hysbysiad dyfarniad yn dweud wrthych pa newidiadau y dylech roi gwybod amdanynt o fewn mis.

Mae hefyd yn syniad da rhoi gwybod am unrhyw newidiadau eraill ar unwaith er mwyn osgoi cael gordaliad.

Gallwch roi gwybod am unrhyw newidiadau mewn amgylchiadau drwy ffonio'r Llinell Gymorth Credyd Treth ar 0845 300 3900 neu'r ffôn testun 0845 300 3909.

Roedd eich taliadau'n seiliedig ar y manylion anghywir

Mae eich credydau treth yn seiliedig ar eich amgylchiadau personol. Dyma bethau fel:

  • p'un a ydych yn sengl neu'n rhan o gwpl
  • faint o blant sydd gennych
  • faint o oriau yr wythnos yr ydych yn eu gweithio
  • os oes gennych anabledd penodol a'ch bod wedi bod yn cael budd-daliadau anabledd neu fudd-daliadau salwch

Felly mae'n bwysig eich bod yn rhoi'r manylion cywir am eich amgylchiadau ar eich ffurflen hawlio i'r Swyddfa Credyd Treth.

Ni wnaethoch adnewyddu eich credydau treth mewn pryd

Os ydych yn cael credydau treth, bydd y Swyddfa Credyd Treth yn anfon pecyn adnewyddu atoch rhwng mis Ebrill a mis Mehefin bob blwyddyn. Byddwch yn defnyddio hwn i ddweud wrthynt os yw eich amgylchiadau neu'ch incwm wedi newid. Yna gallant gyfrifo a wnaethant dalu'r swm cywir o gredydau treth i chi y llynedd ai peidio, ac a ddylent barhau i dalu'r un faint o gredydau treth i chi eleni.

Dangosir y dyddiad cau ar gyfer pob ymateb i'r adolygiad blynyddol ar eich ffurflen Adolygiad Blynyddol - 31 Gorffennaf fydd hwn fel arfer. Gorau po gyntaf y byddwch yn gwirio eich manylion ac yn rhoi gwybod i'r Swyddfa Credyd Treth am unrhyw newidiadau, gan y gallant sicrhau mewn pryd eich bod yn cael yr arian yr ydych yn gymwys i'w gael.

Oni fyddwch yn adnewyddu eich credydau treth, efallai mai dim ond taliadau ar gyfer cyfnod cyfyngedig ar ddiwedd y flwyddyn dreth y byddwch yn eu cael a bydd yn rhaid i chi ad-dalu unrhyw ordaliad.

Gwnaeth y Swyddfa Credyd Treth gamgymeriad ar eich hysbysiad dyfarniad

Pan fyddwch yn gwneud cais am gredydau treth am y tro cyntaf, neu'n rhoi gwybod i'r Swyddfa Credyd Treth am unrhyw newid mewn amgylchiadau, byddant yn anfon hysbysiad dyfarniad atoch. Nhw sy'n gyfrifol am roi'r wybodaeth gywir ar eich hysbysiad dyfarniad ar sail yr wybodaeth a roesoch iddynt.

Mae'n bwysig eich bod yn edrych ar yr hysbysiad dyfarniad yn ofalus gan ddefnyddio'r rhestr wirio sy'n dod gydag ef. Os bydd y Swyddfa Credyd Treth wedi gwneud camgymeriad gallai olygu nad ydych yn cael yr holl arian sy'n ddyledus i chi, neu gallech fod yn cronni gordaliad.

Mae'n rhaid i chi ddweud wrth y Swyddfa Credyd Treth o fewn mis os oes unrhyw beth yn anghywir, ar goll neu'n anghyflawn, yna byddant yn cywiro'r camgymeriad ac yn anfon hysbysiad dyfarniad newydd atoch. Os bydd hyn yn digwydd, efallai na fydd yn rhaid i chi dalu eich gordaliad i gyd yn ôl.

Os oes unrhyw beth ar eich hysbysiad dyfarniad nad ydych yn ei ddeall, neu os nad ydych yn siŵr a yw'r Swyddfa Credyd Treth wedi gwneud camgymeriad, ffoniwch y Llinell Gymorth Credyd Treth ar 0845 300 3900, neu'r ffôn testun ar 0845 300 3909.

Ni weithredodd y Swyddfa Credyd Treth ar yr wybodaeth a roesoch iddynt

Pan fyddwch yn cysylltu â'r Swyddfa Credyd Treth i ddweud wrthynt am unrhyw newid mewn amgylchiadau, nhw sy'n gyfrifol am gofnodi'r wybodaeth ac anfon hysbysiad dyfarniad atoch o fewn 30 diwrnod. Os na chewch hysbysiad dyfarniad o fewn 30 diwrnod, dylech roi gwybod iddynt ar unwaith. Os bydd hyn yn digwydd, efallai na fydd yn rhaid i chi dalu eich gordaliad i gyd yn ôl.

Cysylltu â'r Swyddfa Credyd Treth

Gallwch gysylltu â'r Llinell Gymorth Credyd Treth ar 0845 300 3900 neu ffôn testun 0845 300 3909 (ar agor rhwng 8.00 am ac 8.00 pm, saith diwrnod yr wythnos ac eithrio Dydd Nadolig, Gŵyl San Steffan a Dydd Calan).

Os ydych yn ffonio o dramor gallwch hefyd gysylltu â'r Swyddfa Credyd Treth ar +44 289 053 8192.

Allweddumynediad llywodraeth y DU