Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Cymorth gyda'r pecyn adnewyddu credydau treth

Bydd angen i chi adnewyddu eich cais am gredydau treth bob blwyddyn. Mae hyn yn galluogi’r Swyddfa Credyd Treth i sicrhau eich bod wedi cael y swm cywir yn ystod y flwyddyn a ddaeth i ben, a bod eich taliadau'n gywir i fwrw ymlaen â hwy.

Sut i adnewyddu

Anfonir pecyn adnewyddu atoch rhwng mis Ebrill a mis Mehefin ac mae'n rhaid i chi ymateb iddo. Nid oes rhaid i chi gwblhau unrhyw waith papur os nad ydych am wneud hynny, gallwch adnewyddu dros y ffôn.

Mae'r pecyn adnewyddu'n cynnwys hysbysiad Adolygiad Blynyddol sy'n dweud wrthych beth i'w wneud er mwyn adnewyddu eich credydau treth. Bydd y rhan fwyaf o bobl hefyd yn cael ffurflen Datganiad Blynyddol yn eu pecyn.

Eich hysbysiad Adolygiad Blynyddol

Yn ogystal â rhoi gwybod i chi sut i adnewyddu eich credydau treth, mae'r hysbysiad Adolygiad Blynyddol yn rhoi manylion am y credydau treth a gawsoch yn ystod y flwyddyn. Mae'n rhestru:

  • yr hyn a ddywedasoch wrth y Swyddfa Credyd Treth am eich amgylchiadau personol pan wnaethoch y cais
  • unrhyw newidiadau y rhoesoch wybod i’r Swyddfa Credyd Treth am eich amgylchiadau personol yn ystod y flwyddyn

Bydd angen i chi:

  • gwirio'r wybodaeth yn ofalus
  • rhowch wybod i’r Swyddfa Credyd Treth ar unwaith os bydd unrhyw beth wedi newid, neu os bydd unrhyw beth yn anghywir, ar goll neu'n anghyflawn

Efallai y gofynnir i chi hefyd roi manylion am eich incwm yn ystod y flwyddyn dreth ddiwethaf ar y ffurflen Datganiad Blynyddol (os anfonwyd un atoch). Neu os yw'n well gennych, gallwch ffonio’r Swyddfa Credyd Treth gyda'r wybodaeth hon.

Bydd angen i chi roi gwybod i’r Swyddfa Credyd Treth ar unwaith os bydd unrhyw newidiadau. Oni fyddwch yn gwneud hyn efallai na fyddwch yn cael yr holl arian y mae gennych yr hawl i'w gael, neu efallai eich bod yn cael gormod (gordaliad) a bydd yn rhaid i chi ei dalu'n ôl.

Eich Datganiad Blynyddol

Yn ogystal â hysbysiad o Ddyfarniad Blynyddol, mae'n debygol y byddwch yn cael ffurflen Datganiad Blynyddol yn eich pecyn adnewyddu. Diben hyn yw fel y gallwch roi gwybod i’r Swyddfa Credyd Treth beth oedd eich incwm yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Mae angen y wybodaeth hon ar y Swyddfa Credyd Treth fel y gallant sicrhau eich bod wedi cael yr holl arian oedd yn ddyledus i chi yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, a sicrhau bod eich taliadau'n dal i fwrw yn eu blaen.

Peidiwch â phoeni os nad ydych wedi cael ffurflen Datganiad Blynyddol yn eich pecyn. Os mai dim ond elfen deuluol y Credyd Treth Plant yr ydych yn ei gael, neu os gwnaethoch hawlio credydau treth ond na chawsoch hwy oherwydd bod eich incwm yn rhy uchel (dim dyfarniad), dim ond hysbysiad o Adolygiad Blynyddol fel rhan o'ch pecyn y byddwch yn ei gael.

Ceir nodiadau yn y pecyn adnewyddu sy'n dweud wrthych sut i gyfrifo eich incwm. Os ydych chi'n gyflogedig, dylech gael ffurflen P60 gan eich cyflogwr ar ddiwedd y flwyddyn, yn dangos faint yr ydych wedi'i ennill. Bydd angen i chi hefyd ddweud wrth y Swyddfa Credyd Treth am unrhyw fudd-daliadau trethadwy a gawsoch gan y swydd, ac am unrhyw arian arall a gawsoch er enghraifft o stociau a chyfranddaliadau neu log gan y banc.

Oni chawsoch ffurflen P60, bydd eich slip cyflog mis Mawrth yn dangos faint a gawsoch yn y flwyddyn dreth ddiwethaf. Os nad oes gennych y naill na'r llall, bydd angen i chi amcangyfrif faint wnaethoch ei ennill. Os oedd fwy neu lai yr un fath bob wythnos neu fis, lluoswch hyn gyda:

  • 52 - os cewch eich talu bob wythnos
  • 12 - os cewch eich talu bob mis
  • 13 - os cewch eich talu bob pedair wythnos

Os nad oeddech yn cael yr un cyflog bob tro y cawsoch eich talu, bydd angen i chi adio'r holl arian a gawsoch yn ystod y flwyddyn.

Os ydych yn hunangyflogedig, yr elw a wnaethoch yw eich incwm, a dylech ddefnyddio'r swm oddi ar eich ffurflen dreth. Os nad ydych wedi anfon eich ffurflen dreth at y Swyddfa Credyd Treth, bydd angen i chi wneud amcangyfrif o'ch elw, sef y gwahaniaeth rhwng yr holl arian a wnaethoch wrth weithio neu werthu nwyddau a'r gost o wneud y busnes hwnnw.

Pwy fydd yn cael pecyn adnewyddu?

Byddwch yn cael pecyn adnewyddu hyd yn oed os bu i chi wneud cais am gredydau treth ond na chawsoch hwy oherwydd bod eich incwm yn rhy uchel (dim dyfarniad), a hyd yn oed os mai dim ond am ran o'r flwyddyn y cawsoch gredydau treth.

Os ydych wedi gwneud mwy nag un cais am gredydau treth yn ystod y flwyddyn, anfonir pecyn adnewyddu ar wahân i chi am bob cais. Mae'n rhaid i chi lenwi bob un ar wahân.

Dyddiadau cau ar gyfer adnewyddu

Y dyddiad cau ar gyfer dychwelyd y ffurflen neu ffonio Swyddfa Credyd Treth gyda'r wybodaeth yw 31 Gorffennaf fel arfer, ond os yw'n wahanol i hyn dangosir hynny ar flaen eich pecyn adnewyddu. Mae'n bwysig adnewyddu eich credydau treth cyn gynted â phosibl.

Os byddwch yn oedi efallai na gewch yr holl arian y mae gennych hawl i'w gael neu os byddwch wedi cael gormod o arian, mae'n bosibl y bydd yn rhaid i chi dalu unrhyw ordaliad o'r flwyddyn flaenorol yn ogystal ag unrhyw arian a dalwyd i chi ers 6 Ebrill.

Felly peidiwch ag aros tan y dyddiad cau - gorau po gyntaf y byddwch yn gwirio eich manylion ac yn rhoi gwybod i Swyddfa Credyd Treth am unrhyw newidiadau, fel y gallant sicrhau eich bod yn cael yr arian y mae gennych hawl i'w gael.

Os cawsoch ffurflen Datganiad Blynyddol yn ogystal â hysbysiad o Adolygiad Blynyddol yn eich pecyn, gallwch lenwi'r ffurflen Datganiad a'i dychwelyd at y Swyddfa Credyd Treth.

Gallwch adnewyddu dros y ffôn os yw'n well gennych drwy ffonio'r Llinell Gymorth Credyd Treth. Mae'n rhaid i chi wneud hyn erbyn y dyddiad a ddangosir - sef 31 Gorffennaf fel arfer. Oni wnewch hyn bydd eich taliadau'n dod i ben a bydd yn rhaid i chi dalu unrhyw ordaliad o'r flwyddyn flaenorol yn ôl yn ogystal ag unrhyw arian a dalwyd i chi ers 6 Ebrill.

Os mai Adolygiad Blynyddol yn unig y cawsoch yn eich pecyn, ac y mae angen i chi roi gwybod i’r Swyddfa Credyd Treth ynghylch newid yn eich amgylchiadau neu fod eich incwm yn uwch neu’n is na’r swm a ddangosir, mae’n rhaid i chi ffonio Llinell Gymorth Credyd Treth.

Os nad ydynt yn clywed wrthoch chi erbyn 31 Gorffennaf, byddant yn trin y wybodaeth sydd yn eich Adroddiad Blynyddol fel yn gywir ac yn adnewyddu eich gwobr yn awtomatig.

Beth sy’n digwydd ar ôl i chi adnewyddu?

Os mai dim ond hysbysiad o Adolygiad Blynyddol a gawsoch yn eich pecyn, ond nad ydych wedi ymateb oherwydd:

  • nid oes unrhyw beth wedi newid yn eich sefyllfa bersonol
  • mae eich incwm yn dal o fewn y terfynau a ddangosir yn yr hysbysiad
  • nid oes camgymeriadau neu fanylion ar goll yn yr hysbysiad

Bydd eich credydau treth yn cael eu hadnewyddu'n awtomatig.

Os ydych wedi ffonio’r Swyddfa Credyd Treth i roi gwybod am newid mewn amgylchiadau, anfonir hysbysiad o ddyfarniad diwygiedig atoch, a bydd yn rhaid i chi edrych arno ac ymateb o fewn mis os oes unrhyw beth yn anghywir, ar goll neu'n anghyflawn.

Os cawsoch Ddatganiad Blynyddol yn eich pecyn, bydd y Swyddfa Credyd Treth yn sicrhau eich bod wedi cael y swm cywir o daliadau credyd treth yn y flwyddyn a ddaeth i ben (at 5 Ebrill).

Bydd y Swyddfa Credyd Treth yn anfon hysbysiad dyfarniad atoch gyda'r penderfyniad terfynol ar gyfer y flwyddyn yn cadarnhau hyn. Ar yr un pryd, bydd y Swyddfa Credyd Treth yn gwirio eich credydau treth ar gyfer y flwyddyn gyfredol (o 6 Ebrill), a byddant yn anfon hysbysiad dyfarniad arall atoch yn dangos y bydd eich taliadau'n mynd rhagddynt. Bydd eich hysbysiadau dyfarniad yn dangos unrhyw ordaliadau neu dandaliadau.

Cysylltu â Chyllid a Thollau EM

Gallwch gysylltu â'r Llinell Gymorth Credydau Treth ar 0845 300 3900 neu ffôn testun 0845 300 3909 (ar agor rhwng 8.00 am a 8.00 pm, saith diwrnod yr wythnos ac eithrio ar Ddydd Nadolig, Gŵyl San Steffan, a Dydd Calan).

Os ydych yn ffonio o'r tu allan i'r DU gallwch gysylltu â’r Swyddfa Credyd Treth ar +44 289 053 8192.

Allweddumynediad llywodraeth y DU