Mae'r Swyddfa Credyd Treth yn ceisio darparu gwasanaeth o safon uchel i'w holl gwsmeriaid. Maent yn ceisio delio â'ch cais yn gyflym ac yn gywir, ac yn bwysicach oll, maent yno i helpu os aiff pethau o chwith.
Efallai y byddwch yn teimlo bod pethau wedi mynd o chwith os:
Eich hysbysiad dyfarniad
Pan fydd y Swyddfa Credyd Treth yn talu i chi am y tro cyntaf, neu'n newid eich taliadau credyd treth presennol, byddant yn anfon hysbysiad dyfarniad atoch. Bydd hwn yn dweud wrthych faint o arian a gewch ar sail y wybodaeth a roesoch iddynt.
Mae'n bwysig eich bod yn darllen yr hysbysiad dyfarniad pan fyddwch yn cael un. Defnyddiwch y rhestr wirio a ddarperir i ddweud wrth y Swyddfa Credyd Treth os oes unrhyw beth yn anghywir, ar goll neu'n anghyflawn, neu os nad ydych yn deall rhywbeth. Gallwch wneud hyn drwy ffonio'r Llinell Gymorth Credyd Treth ar 0845 300 3900 neu'r ffôn testun 0845 300 3909. Dylech wneud hyn o fewn mis ers ei gael.
Os byddwch yn rhoi gwybod i’r Swyddfa Credyd Treth bod camgymeriad ar eich hysbysiad dyfarniad, byddant yn ei gywiro ac yn anfon un newydd atoch.
Eich taliadau
Mae'n bwysig edrych faint o arian sy'n mynd i mewn i'ch cyfrif banc. Bydd eich hysbysiad dyfarniad yn dangos eich taliad cyntaf, yn ogystal â'r swm a delir bob wythnos neu bob pedair wythnos. Os bydd taliad nad yw'n cyfateb i'r swm ar eich hysbysiad dyfarniad ffoniwch y Llinell Gymorth Credyd Treth cyn gynted â phosibl ar 0845 300 3900 neu'r ffôn testun 0845 300 3909.
Bydd y Swyddfa Credyd Treth yn edrych i weld a ydynt wedi cyfrifo eich dyfarniad yn gywir ar sail y wybodaeth a roesoch iddynt. Os bydd eich taliadau wedi dod i ben yn llwyr, efallai mai'r rheswm am hyn yw:
I gael help er mwyn deall pam fod eich taliadau wedi dod i ben, ffoniwch y Llinell Gymorth Credyd Treth ar 0845 300 3900 neu'r ffôn testun 0845 300 3909.
Eich manylion personol
Bydd Swyddfa Credyd Treth yn cyfrifo faint o arian i'w roi i chi o'r hyn yr ydych yn ddweud wrthynt am eich incwm a'ch amgylchiadau teuluol, felly mae'n bwysig iawn eich bod yn rhoi gwybod iddynt am unrhyw newidiadau ar unwaith.
Mae rhai newidiadau y mae'n rhaid i chi ddweud wrth y Swyddfa Credyd Treth amdanynt o fewn mis. Bydd y rhestr wirio a ddaeth gyda'ch hysbysiad dyfarniad yn dweud wrthych ba rai. Mae hefyd yn syniad da rhoi gwybod i’r Swyddfa Credyd Treth am unrhyw newidiadau eraill ar unwaith er mwyn osgoi cael gordaliad.
Gallwch roi gwybod i’r Swyddfa Credyd Treth am unrhyw newidiadau mewn amgylchiadau drwy ffonio'r Llinell Gymorth Credyd Treth ar 0845 300 3900 neu'r ffôn testun 0845 300 3909.
Pan fyddwch yn cysylltu â’r Swyddfa Credyd Treth, byddant yn cofnodi'r hyn yr ydych wedi'i ddweud wrthynt ac yn anfon hysbysiad dyfarniad newydd atoch o fewn 30 diwrnod.
Efallai y bydd angen cymorth gan y Swyddfa Credyd Treth arnoch os:
Gordaliadau
Os nad ydych yn cytuno y dylech dalu gordaliad yn ôl, mae gennych yr hawl i wrthwynebu ein penderfyniad.
Os na allwch fforddio ad-dalu gordaliad ffoniwch y Llinell Gymorth Taliad Credyd Treth ar 0845 302 1429
Cosbau
Gall y Swyddfa Credyd Treth roi cosb i chi os:
Mae gennych hawl i apelio yn erbyn unrhyw gosb.
Archwiliadau credyd treth
Os bydd y Swyddfa Credyd Treth yn penderfynu edrych ar eich dyfarniad yn ystod ymholiad, byddant yn ysgrifennu atoch yn egluro beth fydd yn digwydd.
Byddant hefyd:
Os ydych yn poeni am hyn neu os nad oes gennych yr holl wybodaeth yr ydym wedi gofyn amdani, ffoniwch y Llinell Gymorth Credyd Treth ar 0845 300 3900 neu'r ffôn testun 0845 300 3909.
Apeliadau credydau treth
Gallwch apelio yn erbyn penderfyniad:
Mae bob amser yn werth siarad â’r Swyddfa Credyd Treth am y broblem cyn i chi apelio. Felly cysylltwch â nhw gyntaf i weld a allant ddatrys pethau. Ffoniwch y Llinell Gymorth Credydau Treth ar 0845 300 3900 neu'r ffôn testun 0845 300 3909.
Os nad ydych yn fodlon â gwasanaeth y Swyddfa Credyd Treth cysylltwch â nhw cyn gynted â phosibl. Bydd y Swyddfa Credyd Treth yn ceisio datrys pethau cyn gynted â phosibl.
Os ydych yn anfodlon o hyd, gofynnwch i'ch cwyn gael ei throsglwyddo i'r Rheolwr Cwynion.
Os hoffech gael cymorth a chyngor gallech siarad â sefydliad fel Cyngor ar Bopeth neu Cyngor Cyfreithiol Cymunedol. Gallwch ofyn iddynt siarad â’r Swyddfa Credyd Treth ar eich rhan.
Ond ni all y Swyddfa Credyd Treth siarad â neb heb eich caniatâd. Os byddwch yn gofyn i rywun weithredu ar eich rhan, ysgrifennwch at y Swyddfa Credyd Treth a dweud wrthynt:
Gallwch ysgrifennu at y Swyddfa Credyd Treth yn:
Tax Credit Office
Preston
PR1 0SB