Mae'n bwysig iawn eich bod yn rhoi gwybod i Gyllid a Thollau EM ar unwaith am unrhyw newidiadau mewn amgylchiadau a allai effeithio ar eich credydau treth. Os na wnewch chi hyn, efallai y gallwch gael gormod o arian ac y bydd yn rhaid i chi ei dalu'n ôl, neu efallai na chewch yr holl arian sy'n ddyledus i chi.
Mae'n rhaid i chi roi gwybod i Gyllid a Thollau EM am y newidiadau canlynol o fewn mis oherwydd gallant olygu y bydd eich taliadau credyd treth yn mynd yn is. Os na wnewch chi hyn efallai y bydd yn rhaid i chi dalu dirwy o hyd at £300. Bydd y gostyngiad yn eich taliadau'n cael eu hôl-ddyddio i'r dyddiad y digwyddodd y newid:
Mae'n rhaid i chi ddweud wrthynt os gwnaethoch hawlio credydau treth am y tro cyntaf:
Bydd angen i chi ddweud wrthynt hefyd os byddwch chi neu'ch partner:
Os byddwch yn gweithio llai o oriau
Mae'n rhaid i chi roi gwybod i Gyllid a Thollau EM os byddwch yn rhoi'r gorau i weithio. Hyd yn oed os ydych yn hunangyflogedig neu os ydych yn gweithio i rywun arall.
Dywedwch wrthynt hefyd os ydych:
Newidiadau i'r plant yr ydych yn gyfrifol amdanynt
Mae'n rhaid i chi roi gwybod i Gyllid a Thollau EM os bydd un o'ch plant yn gadael cartref i fynd i fyw at rywun arall. Mae hyn yn cynnwys plentyn:
Hefyd bydd yn rhaid i chi ddweud wrth Gyllid a Thollau EM os bydd plentyn neu berson ifanc:
Mae eich costau gofal plant yn gostwng
Os ydych wedi hawlio costau gofal plant mae'n rhaid i chi ddweud wrth Gyllid a Thollau EM os byddwch yn rhoi'r gorau i dalu am ofal plant.
Mae'n rhaid i chi roi gwybod i Gyllid a Thollau EM hefyd os:
Mae hefyd yn syniad da rhoi gwybod i Gyllid a Thollau EM am unrhyw newidiadau a allai olygu y bydd eich taliadau credyd treth yn codi. Er nad oes angen i chi wneud hynny o fewn mis - byddai'n syniad da ei wneud ar unwaith oherwydd dim ond am hyd at dri mis y gellir ôl-ddyddio taliadau.
Newidiadau i nifer y plant yr ydych yn gyfrifol amdanynt
Dylech ddweud wrth Gyllid a Thollau EM os bydd nifer y plant yr ydych yn gyfrifol amdanynt yn newid. Er enghraifft, os:
Newidiadau yn amgylchiadau'r plentyn neu berson ifanc yr ydych yn gyfrifol amdano
Dywedwch wrth Gyllid a Thollau EM os yw'r plentyn neu'r person ifanc yr ydych yn gyfrifol amdano:
Dylech ddweud wrth Gyllid a Thollau EM os:
Newid yn eich cyflogaeth
Dywedwch wrth Gyllid a Thollau EM os byddwch yn newid eich swydd. Os ydych yn cael Credyd Treth Gwaith byddwch yn dal i'w gael ar yr amod nad yw'r bwlch rhwng gorffen un swydd a dechrau'r swydd newydd yn fwy na chwe diwrnod a'ch bod yn gymwys i gael credydau treth yn eich swydd newydd.
Newidiadau i'ch incwm
Mae'n bwysig dweud wrth Gyllid a Thollau EM ar unwaith os bydd eich incwm yn codi neu'n lleihau. Mae faint o gredydau treth y byddwch yn ei gael yn dibynnu ar faint o incwm sydd gennych yn dod i mewn.
Os disgwylir i'ch incwm ar gyfer y flwyddyn dreth bresennol fod yn is na'r llynedd, efallai y bydd gennych hawl cael credydau treth ychwanegol.
Os disgwylir i'ch incwm ar gyfer y flwyddyn dreth bresennol fod £25,000 yn uwch na'ch incwm ar gyfer y llynedd, efallai y cewch lai o gredydau treth.
Os nad ydych yn disgwyl i'ch incwm ar gyfer y flwyddyn bresennol fod yn fwy na £25,000 yn uwch na'ch incwm y llynedd, ni fydd yn gwneud gwahaniaeth i faint o gredydau treth y byddwch yn eu cael ar gyfer y flwyddyn bresennol. Fodd bynnag, mae'n dal yn syniad da rhoi gwybod i Gyllid a Thollau EM am y newid oherwydd bydd y cynnydd yn eich incwm yn cael ei ystyried:
Os na fyddwch yn dweud wrth Gyllid a Thollau EM nes byddwch wedi adnewyddu eich credydau treth ar ôl diwedd y flwyddyn, efallai y byddant yn gofyn i chi dalu'r arian y maent wedi'i ordalu i chi yn ôl
Os bydd aelod o'ch teulu'n cael ei roi yn y carchar
Dylech ddweud wrth Gyllid a Thollau EM ar unwaith os byddwch chi neu'ch partner yn cael eich dedfrydu i garchar.
Cysylltwch â Chyllid a Thollau EM hefyd os byddwch:
Mae'n bwysig iawn dweud wrth Gyllid a Thollau EM am unrhyw newidiadau ar unwaith. Os na wnewch chi hyn, efallai:
Os bydd Cyllid a Thollau EM wedi talu gormod i chi, byddant naill ai:
Mae'n bosibl hefyd y bydd yn rhaid i chi dalu dirwy o hyd at £300.
Gallwch ddweud wrth Gyllid a Thollau EM am unrhyw newid mewn amgylchiadau drwy gysylltu â'r Llinell Gymorth Credydau Treth ar 0845 300 3900 neu ffôn testun 0845 300 3909 (ar agor rhwng 8.00 am a 8.00 pm, saith diwrnod yr wythnos ac eithrio ar Ddydd Nadolig, Gŵyl San Steffan, a Dydd Calan).
Os ydych dramor gallwch hefyd gysylltu â Chyllid a Thollau EM ar +44 02890 538 192