Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Sut y cyfrifir eich taliadau credyd treth

Mae eich taliadau credyd treth yn seiliedig ar eich amgylchiadau personol presennol a'ch incwm blynyddol o'r flwyddyn dreth a ddaeth i ben ar 5 Ebrill 2008. Os bydd eich incwm yn isel, byddwch yn cael mwy o gredydau treth.

Faint gewch chi

Mae credydau treth wedi'u ffurfio o sawl elfen, neu daliadau. Pan fydd Cyllid a Thollau EM yn derbyn eich ffurflen hawlio byddant yn edrych ar eich amgylchiadau teuluol er mwyn gweld pa elfennau yr ydych yn gymwys ar eu cyfer. Byddant hefyd yn edrych ar y wybodaeth yr ydych wedi'i rhoi iddynt am gyfanswm incwm eich cartref er mwyn penderfynu a fyddwch yn cael y credydau treth yn llawn - yr uchafswm, neu gyfradd is. Os bydd eich incwm yn uwch, byddwch yn debygol o gael llai o gredydau treth. get.

Elfennau o'r Credyd Treth Plant

Uchafswm ar gyfer 2008-2009

Elfen deuluol - yr elfen sylfaenol ar gyfer teuluoedd sy'n gyfrifol am un plentyn neu fwy

 £545

Yr elfen deuluol a delir i deuluoedd a chanddynt un plentyn neu fwy o dan flwydd. Dim ond un taliad faint bynnag o blant sydd o dan flwydd

 £545

Elfen plentyn - un ar gyfer pob plentyn neu berson ifanc yr ydych yn gyfrifol amdano

 £2,085

Elfen anabledd - un ar gyfer pob plentyn yr ydych yn gyfrifol amdano os ydych yn cael Lwfans Byw i'r Anabl ar gyfer y plentyn, neu os yw'r plentyn wedi'i gofrestru'n ddall neu wedi'i dynnu oddi ar y gofrestr dall yn ystod y 28 wythnos cyn dyddiad y cais

 £2540

Elfen anabledd difrifol - un ar gyfer pob plentyn yr ydych yn gyfrifol amdano neu os ydych yn cael Cyfradd Uchaf yr Elfen Ofal o'r Lwfans Byw i'r Anabl ar gyfer y plentyn

 £1,020

 

Elfennau Credyd Treth Gwaith

Uchafswm ar gyfer 2008-2009

Elfen sylfaenol - fe'i telir i unrhyw un sy'n gweithio ac sy'n gymwys

 £1,800

Elfen cyplau a rhieni unigol

 £1,770

Elfen 30 awr - i bobl sy'n gweithio o leiaf 30 awr yr wythnos. Gall cyplau a chanddynt o leiaf un plentyn hawlio'r elfen 30 awr os ydynt yn gweithio o leiaf 30 awr yr wythnos rhyngddynt ar yr amod bod o leiaf un ohonynt yn gweithio 16 awr neu fwy yr wythnos

 £735

Elfen anabledd - ar gyfer pobl anabl sy'n gweithio

 £2,405

Elfen anabledd difrifol - ar gyfer pob person sy'n cael Cyfradd Uchaf yr Elfen Ofal o'r Lwfans Byw i'r Anabl neu'r Gyfradd Uchaf o'r Lwfans Gweini

 £1,020

Taliad dychwelyd i'r gwaith i bobl 50 a hŷn (16-29 awr) ar gyfer pobl sy'n dychwelyd i'r gwaith ar ôl cyfnod o fod ar fudd-daliadau

 £1,235

Taliad dychwelyd i'r gwaith i bobl 50 a hŷn (30 awr a mwy) ar gyfer pobl sy'n dychwelyd i'r gwaith ar ôl cyfnod o fod ar fudd-daliadau

 £1,840

A childcare element, where you can get back up to 80 per cent of your costs for eligible childcare

uchafswm cost gymwys o £175 yr wythnos os ydych chi'n talu am un plentyn, uchafswm cost gymwys o £300 yr wythnos os ydych chi'n talu am ddau blentyn neu fwy

Eich taliadau credyd treth

Os byddwch yn gwneud cais ac yn gymwys i gael credydau treth anfonir hysbysiad dyfarniad atoch. Bydd hyn yn dweud wrthych faint o arian a gewch ar sail y wybodaeth a roesoch i Gyllid a Thollau EM. Mae'n bwysig eich bod yn gwirio eich hysbysiad dyfarniad. Defnyddiwch y rhestr wirio a ddarperir i ddweud wrth Gyllid a Thollau EM os oes unrhyw beth yn anghywir, ar goll neu'n anghyflawn, neu os oes unrhyw beth nad ydych yn ei ddeall.
Gallwch wneud hyn drwy ffonio'r Llinell Gymorth Credydau Treth ar 0845 300 3900 neu'r ffôn testun 0845 300 3909. Dylech wneud hyn o fewn mis ers ei gael.

Mae hefyd yn bwysig sicrhau faint o arian sy'n mynd i mewn i'ch cyfrif banc. Bydd eich hysbysiad dyfarniad yn dangos eich taliad cyntaf, yn ogystal â'r swm a delir bob wythnos neu bob pedair wythnos. Os bydd taliad nad yw'n cyfateb i'r swm ar eich hysbysiad dyfarniad ffoniwch y Llinell Gymorth Credyd Treth ar 0845 300 3900 (ffôn testun 0845 300 3909).

Os ydych chi'n anghytuno â'ch penderfyniad ar gredyd treth - gallwch apelio. Mae gennych 30 diwrnod i apelio o ddyddiad penderfyniad y dyfarniad.

Cysylltu â Chyllid a Thollau EM

Os hoffech gael syniad faint o arian y byddwch yn ei gael, gallwch gysylltu â'r Llinell Gymorth Credydau Treth ar 0845 300 3900 neu ffôn testun 0845 300 3909 (ar agor rhwng 8.00 am a 8.00 pm, saith diwrnod yr wythnos ac eithrio ar Ddydd Nadolig, Gŵyl San Steffan, a Dydd Calan).

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU