Os byddwch yn gymwys i gael credydau treth, bydd Cyllid a Thollau EM yn anfon hysbysiad dyfarniad atoch yn rhoi gwybod i chi faint y byddwch yn ei gael - ar sail y wybodaeth a roesoch i Gyllid a Thollau EM yn eich ffurflen hawlio. Bydd angen i chi edrych ar yr hysbysiad dyfarniad yn ofalus a rhoi gwybod i Gyllid a Thollau EM o fewn mis os oes unrhyw beth yn anghywir, ar goll neu'n anghyflawn.
Mae tair rhan i'r hysbysiad dyfarniad:
Mae'n rhoi gwybod i chi:
Byddwch yn cael rhestr wirio gyda'ch hysbysiad dyfarniad a fydd yn dweud wrthych pa wybodaeth y mae'n rhaid i chi ei gwirio a sut i roi gwybod i ni am unrhyw newidiadau.
Dylech gadw'r hysbysiad dyfarniad mewn lle diogel.
Eich hysbysiad dyfarniad cyntaf
Bydd Cyllid a Thollau EM yn anfon hysbysiad dyfarniad atoch ar ôl i chi wneud cais am gredydau treth. Mae'r taliadau credydau treth yr ydych yn eu cael drwy gydol y flwyddyn yn rhai dros dro. Golyga hyn y cânt eu talu i chi drwy gydol y flwyddyn ar sail eich amgylchiadau presennol a'ch incwm o'r llynedd. Rhwng mis Ebrill a mis Mehefin bob blwyddyn bydd Cyllid a Thollau EM yn gofyn i chi adnewyddu eich cais, sy'n eu helpu i weld a yw'r taliadau y maent yn eu rhoi i chi'n gywir.
Hysbysiad dyfarniad diwygiedig
Bydd angen i chi roi gwybod i Gyllid a Thollau EM am unrhyw newidiadau yn eich amgylchiadau yn ystod y flwyddyn fel na fyddwch yn cael gormod o arian neu ddim digon mewn credydau treth. Er enghraifft, bydd angen i chi roi gwybod i Gyllid a Thollau EM os bydd eich perthynas â'ch partner yn dod i ben, neu os byddwch yn dechrau gweithio llai o oriau. Pan fyddwch yn gwneud hyn, neu pan fydd newidiadau eraill, bydd Cyllid a Thollau EM yn anfon hysbysiad dyfarniad credydau treth diwygiedig atoch. Byddant yn ceisio gwneud hyn o fewn 30 diwrnod ers i chi roi gwybod iddynt am y newid. Oni fyddwch yn cael un o fewn 30 diwrnod, dywedwch wrth Gyllid a Thollau EM cyn gynted â phosibl.
Hysbysiad dyfarniad terfynol
Ar ôl diwedd y flwyddyn bydd angen i chi adnewyddu eich cais am gredydau treth. Mae hyn yn helpu Cyllid a Thollau EM i weld a yw'r taliadau y maent wedi'u rhoi i chi yn gywir ar sail eich amgylchiadau gwirioneddol. Weithiau bydd Cyllid a Thollau EM wedi talu gormod i chi neu ddim digon. Os bydd hyn yn digwydd byddant naill ai'n addasu eich taliadau, neu os ydych wedi cael gormod o arian ond nad ydych yn cael credydau treth bellach, byddant yn gofyn i chi wneud taliad uniongyrchol - un taliad ar gyfer y swm llawn.
Pan fyddwch wedi adnewyddu eich cais am gredydau treth, bydd Cyllid a Thollau EM yn anfon hysbysiad dyfarniad atoch gyda'r penderfyniad terfynol ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 5 Ebrill. Er bod y penderfyniad yn derfynol, mae'n rhaid i chi ddarllen yr hysbysiad dyfarniad yn ofalus o hyd a rhoi gwybod i Gyllid a Thollau EM os oes unrhyw beth ar goll, yn anghywir neu'n anghyflawn.
Anfonir hysbysiad dyfarniad ar wahân atoch hefyd, yn rhoi gwybod i chi y bydd eich taliadau yn mynd rhagddynt.
Mewn rhai achosion ni fydd yn rhaid i chi ymateb i'ch pecyn adnewyddu oherwydd:
Yn yr achosion hyn, caiff eich credydau treth eu hadnewyddu'n awtomatig, a dangosir eich penderfyniad terfynol ar hysbysiad yr Adolygiad Blynyddol a oedd yn eich pecyn adnewyddu. Ni fyddwch yn cael rhagor o hysbysiadau dyfarniad oni fydd eich amgylchiadau'n newid.
Cyfrifoldeb Cyllid a Thollau EM yw rhoi'r wybodaeth gywir ar eich hysbysiad dyfarniad ar sail y wybodaeth a roesoch iddynt. Mae'n bwysig eich bod yn darllen yr hysbysiad dyfarniad pan fyddwch yn cael un. Defnyddiwch y rhestr wirio a ddaeth gydag ef i ddweud wrth Gyllid a Thollau EM os oes unrhyw beth yn anghywir, ar goll neu'n anghyflawn, neu os nad ydych yn deall rhywbeth. Gallwch wneud hyn drwy ffonio'r Llinell Gymorth Credyd Treth. Dylech wneud hyn o fewn mis ers cael hysbysiad dyfarniad.
Os byddwch yn aros cyn rhoi gwybod i Gyllid a Thollau EM os oes rhywbeth o'i le, gall olygu nad ydych yn cael yr holl arian y mae gennych yr hawl i'w gael, neu gallech fod yn cronni gordaliad y bydd yn rhaid i chi ei dalu'n ôl.
Cysylltwch â'r Llinell Gymorth Credyd Treth os oes angen help arnoch gyda'ch hysbysiad dyfarniad, er enghraifft:
Mae hefyd yn bwysig sicrhau faint o arian sy'n mynd i mewn i'ch cyfrif banc. Bydd Rhan o'ch hysbysiad dyfarniad - Dyddiadau taliadau a symiau - yn dangos eich taliad cyntaf, yn ogystal â'r swm fydd yn cael ei dalu bob wythnos neu bob pedair wythnos. Os na fydd eich taliad yn cyd-fynd â'r swm ar eich hysbysiad dyfarniad, ffoniwch y Llinell Gymorth Credyd Treth cyn gynted â phosibl.
Gallwch gysylltu â'r Llinell Gymorth Credydau Treth ar 0845 300 3900 neu ffôn testun 0845 300 3909 (ar agor rhwng 8.00 am a 8.00 pm, saith diwrnod yr wythnos ac eithrio ar Ddydd Nadolig, Gŵyl San Steffan, a Dydd Calan