Hawlio credydau treth
Os ydych chi'n gymwys i gael credydau treth, mae'n hawdd gwneud cais, boed hynny drosoch chi'ch hun neu dros rywun arall. Cewch wneud cais drwy'r post fel arfer.
Gwneud cais am gredydau treth - y gwaith papur y bydd ei angen
Wrth wneud cais am gredydau treth, gofynnir i chi am wybodaeth amdanoch chi'ch hun (neu'r sawl rydych chi'n gwneud cais drosto/i) ac am eich incwm. Os ydych chi'n gwpwl, bydd rhaid i chi roi manylion am eich partner hefyd.
Gwybodaeth am y flwyddyn dreth ddiwethaf fydd ei hangen (mae blwyddyn dreth yn dechrau ar 6 Ebrill mewn un flwyddyn ac yn gorffen ar 5 Ebrill y flwyddyn wedyn). Felly, os gwnewch chi gais am gredydau treth ar gyfer blwyddyn dreth 2008-2009, rhaid i chi roi gwybodaeth am flwyddyn dreth 2007-2008.
Er mwyn gwneud eich cais, bydd angen i chi gael y wybodaeth ganlynol wrth law:
- os oeddech chi'n gyflogedig, eich P60 (a gawsoch chi ar ddiwedd y flwyddyn dreth gan eich cyflogwr) neu'ch papurau cyflog
- eich rhif Yswiriant Gwladol (NI) - bydd hwn ar eich papur cyflog ar eich P60 neu ar lythyrau gan Gyllid a Thollau EM neu'r Adran gwaith a Phensiynau
- os oeddech chi'n hunangyflogedig, manylion eich incwm a'ch Cyfeirnod Treth Unigryw (UTR) - edrychwch ar eich ffurflen dreth Hunan Asesu, eich datganiadau a'ch dogfennau am eich treth, neu lythyrau gan Gyllid a Thollau EM.
- manylion unrhyw fudd-daliadau a gewch chi, megis Lwfans Ceisio Gwaith, Cymhorthdal Incwm, Lwfans Gofalwyr a Budd-dal Analluogrwydd.
- rhif cyfeirnod eich Budd-dal Plant - bydd hwn i'w weld ar lythyrau am Fudd-dal Plant, ar eich datganiadau banc os telir Budd-dal Plant yn syth i'ch cyfrif neu yn eich llyfr Budd-dal Plant.
- manylion taliadau gofal plant os ydych chi'n defnyddio gofalwr cymeradwy
- rhif eich cyfrif banc neu gyfrif cymdeithas adeiladu, cod didoli, neu'r rhif cyfeirnod
- manylion unrhyw incwm arall, megis cynilion, pensiynau neu incwm o rent
Dros y ffôn a thrwy'r post
Gallwch:
- hawlio Credyd Treth Plant neu Gredyd Treth Gwaith drwy'r post
- rhoi gwybod am newid mewn amgylchiadau dros y ffôn neu drwy'r post
- adnewyddu eich credydau treth dros y ffôn neu drwy'r post (unwaith yr anfonir y ffurflen i chi yn ystod Ebrill neu Mai)
Gallwch archebu pecyn hawlio dros y ffôn drwy ffonio un o'r llinellau cymorth canlynol.
Ffoniwch 0845 300 3900, ffôn testun 0845 300 3909.
Mae'r llinellau ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 8.00 am a 8.00 pm yn cynnwys penwythnosau (ac eithrio dydd Nadolig, dydd San Steffan, dydd Calan a Sul y Pasg).
Ar ôl i chi wneud eich cais cychwynnol, gallwch ffonio'r llinell gymorth i ddweud am unrhyw newid yn eich amgylchiadau ond bydd angen i chi adnewyddu'ch cais trwy lythyr.