Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Apelio yn erbyn penderfyniad credyd treth

Os byddwch chi'n anghytuno â phenderfyniad ynghylch eich hawl i gael credyd treth, bydd gennych yr hawl i apelio. Bydd eich hawliau a'r camau y bydd rhaid i chi eu cymryd yr un fath, os ydych chi'n hawlio am y tro cyntaf neu wedi hysbysu'r adran bod eich amgylchiadau wedi newid a'ch bod bellach yn anghytuno â'r newid yn eich credyd.

Pryd ga'i apelio yn erbyn penderfyniad am gredyd treth?

Gallwch apelio yn erbyn y penderfyniad:

  • os gwrthodir eich cais am gredydau treth
  • os cewch chi lai na'r disgwyl
  • os nad yw eich dyfarniad yn adlewyrchu newid yn eich amgylchiadau
  • os yw eich credyd yn llai neu os caiff ei atal yn llwyr
  • os ydych chi'n anghytuno â chosb ariannol
  • os codwyd llog arnoch am ordaliadau

Cyn i chi apelio

Mae wastad yn syniad da ceisio taro cytundeb gyda Chyllid a Thollau EM cyn apelio.

Gofynnwch i Gyllid a Thollau EM

Ffoniwch y llinell gymorth Credydau Treth yn gyntaf:

Os ydych yn byw yng Nghymru, Lloegr neu'r Alban ffoniwch 0845 300 3900, ffôn testun 0845 300 3909.

Os ydych chi'n byw yng Ngogledd Iwerddon, ffoniwch 0845 603 2000, ffôn testun 0845 607 6078.

Mae'r llinellau ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 8.00 am a 8.00 pm.

Os oes Swyddog Cydymffurfiad Hawlwyr wedi edrych ar eich cais

Dylech gysylltu â nhw, nid y llinell gymorth - bydd eu manylion ar y llythyr gawsoch chi ganddyn nhw. Os ydyn nhw'n cytuno bod hwnnw'n anghywir, fe drefnan nhw i'w newid. Os nad oes modd ei newid byddan nhw'n egluro pam. Os ydych chi'n dal i fod yn anhapus â'r canlyniad, gallwch apelio.

Mynnwch gyngor annibynnol

Os ydych chi am gael ail farn am ddim, gallech gysylltu â'r Ganolfan Cyngor ar Bopeth, eich undeb llafur, y Gwasanaeth Cyfreithiol Cymunedol neu Taxaid.

Gall y Gwasanaeth Cyfreithiol Cymunedol roi cyngor am ddim i chi hefyd am eich hawliau ac a oes gennych reswm dros apelio ai peidio. Gallan nhw eich helpu i lenwi'r ffurflen hefyd os penderfynwch chi fwrw ymlaen ag apêl.

Fe allwch chi ffonio llinell gymorth y Gwasanaeth Cyfreithiol Cymunedol ar 0845 345 4345 rhwng 9.00 am a 5.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener. (Os byddwch chi'n ffonio y tu allan i oriau'r swyddfa, gadewch neges ac fe wnân nhw'ch ffonio chi'n ôl.

Mae Taxaid yn cynnig gwasanaeth tebyg - ewch i'w gwefan i gael rhagor o fanylion.

Gallwch gael cyngor gan dwrnai neu gyfrifydd hefyd, ond bydd rhaid i chi dalu am hyn.

Apelio

Os na lwyddoch chi i daro cytundeb â Chyllid a Thollau EM, gallwch ofyn iddyn nhw edrych eto ar eu penderfyniad.

Pryd y dylech chi apelio

Rhaid apelio o fewn 30 diwrnod i'r dyddiad a ddangosir ar y nodyn penderfyniad. Bydd gennych hawl i dynnu'r apêl yn ôl unrhyw bryd drwy ysgrifennu at y cyfeiriad ar yr hysbysiad, ffonio'r llinell gymorth credydau treth neu ysgrifennu at y Tribiwnlys Apeliadau (os aiff pethau mor bell â hynny).

Pwy sy'n cael apelio

Gallwch lenwi'r ffurflen eich hun, neu benodi rhywun fel cynghorydd proffesiynol i wneud hyn drosoch chi. Os ydych chi'n hawlio credydau treth ar ran rhywun arall, gallwch hefyd apelio drostyn nhw.

Sut mae apelio

Rhaid i chi gyflwyno'ch apêl ar bapur. Cewch ofyn am ffurflen apelio gan y llinell gymorth credydau treth, neu lwytho un oddi ar y we.

Neu gallwch ysgrifennu i'r cyfeiriad ar y nodyn penderfyniad yn esbonio pam eich bod yn meddwl bod y penderfyniad yn anghywir. Cofiwch roi eich enw a'ch rhif Yswiriant Gwladol, a llofnodi'r llythyr.

Beth sy'n digwydd nesaf

Bydd Cyllid a Thollau EM yn ystyried eich apêl ac yn ysgrifennu atoch gyda'i gasgliadau, gan roi manylion unrhyw newid i'ch credyd. Os ydych chi'n fodlon ar y penderfyniad, does dim rhaid i chi wneud dim byd.

Os nad ydych chi'n cytuno â phenderfyniad yr apêl?

Os ydych chi'n dal i fod yn anhapus, neu os newidiwch chi'ch meddwl am dderbyn penderfyniad Cyllid a Thollau EM, rhaid i chi ysgrifennu'n ôl atyn nhw o fynd 30 diwrnod iddo'ch cyrraedd. Byddan nhw'n dal i ailystyried eich achos a byddan nhw wastad yn ceisio taro cytundeb â chi.

Os na allwch chi gytuno wedyn, bydd tribiwnlys apêl annibynnol yn ystyried eich achos. Mae'r tribiwnlys ar wahân i Gyllid a Thollau EM. Ni fydd rhaid i chi dalu am yr apêl, ac yn y cyfamser byddwch chi'n dal i gael yr un faint o gredyd treth ag yr oeddech chi'n ei gael yn barod.

Os na fyddwch chi'n fodlon ar ôl i'r tribiwnlys benderfynu, gallwch apelio i'r Comisiynwyr Nawdd Cymdeithasol. Ond dim ond os ydych chi'n meddwl bod y tribiwnlys apêl wedi gwneud camgymeriad cyfreithiol y cewch chi wneud hyn.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU