Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Adnewyddu eich dyfarniad credydau treth

Os ydych chi'n cael Credyd Treth Plant a/neu Gredyd Treth Gwaith, bydd rhaid i chi adnewyddu'ch dyfarniad bob blwyddyn drwy gysylltu â Chyllid a Thollau EM. Os na fyddwch chi'n gwneud hyn, dim ond am gyfnod penodol ar ôl diwedd y flwyddyn dreth y cewch chi daliadau. Byddwch chi hefyd yn gorfod ad-dalu unrhyw ordaliadau.

Adnewyddu credydau treth - beth mae'n rhaid i chi ei wneud

Gan amlaf, bydd rhaid i chi adnewyddu eich hawliad bob blwyddyn drwy gadarnhau beth yw eich amgylchiadau a'ch incwm. Bydd Cyllid a Thollau EM yn anfon pecyn adnewyddu atoch rhwng mis Ebrill a mis Gorffennaf. Bydd hwn yn dangos sut y cyfrifwyd eich credydau treth y flwyddyn ddiwethaf.

Rhaid i chi:

  • sicrhau bod y wybodaeth yn gywir
  • dweud wrth Gyllid a Thollau EM os oes unrhyw newid wedi bod
  • rhoi manylion eich incwm yn y flwyddyn dreth ddiwethaf (mae amcangyfrif yn dderbyniol dan rai amgylchiadau)

Pa waith papur y bydd ei angen

Bydd angen i chi gael eich P60 (bydd eich cyflogwr yn rhoi hwn i chi ar ddiwedd pob blwyddyn dreth), neu eich ffurflen dreth os ydych chi'n hunangyflogedig. Hefyd, bydd angen i chi gael manylion eich cynilion, eich budd-daliadau ac unrhyw incwm arall gewch chi. Defnyddir y wybodaeth a rowch chi er mwyn gweld:

  • a gawsoch chi'r credydau treth cywir y llynedd
  • faint ddylech chi eu cael y flwyddyn nesaf
  • a oes angen addasu taliadau'r dyfodol
  • a fydd angen gwneud unrhyw ad-daliadau

Dan rai amgylchiadau mae'n bosib y cewch chi lythyr 'adnewyddu awtomatig' yn lle hyn. Os cewch chi lythyr fel hyn ac nad oes dim byd wedi newid, y cyfan y bydd angen i chi ei wneud yw ei ffeilio.

Adnewyddu eich hawliad - y dewisiadau a'r dyddiad cau

Gallwch adnewyddu eich cais drwy ei bostio. Y dyddiad cau ar gyfer adnewyddu yw 31 Awst.

Adnewyddu dros y ffôn neu drwy'r post

Gallwch adnewyddu eich credydau treth dros y ffôn neu drwy'r post (unwaith yr anfonir y ffurflen atoch yn ystod Ebrill neu Mai).

Beth os byddwch chi'n rhy hwyr?

Nes bod eich cais am adnewyddu wedi'i brosesu, fe gewch daliadau amodol sydd wedi'u seilio ar ddyfarniad y flwyddyn gynt. Ond os na fyddwch chi wedi adnewyddu'ch hawliad cyn y dyddiad cau, sef 31 Awst, bydd y taliadau hyn yn dod i ben a bydd eich dyfarniad yn cael ei ganslo.

Os bydd eich dyfarniad yn cael ei ganslo byddwch yn cael gwybod am hynny gan Gyllid a Thollau EM. Yna, bydd rhaid i chi dalu'n ôl y taliadau amodol yr ydych eisoes wedi'u derbyn, a dechrau o'r dechrau eto os byddwch am wneud cais arall am gredydau treth.

Ond fe gewch chi gyfle olaf. Bydd Cyllid a Thollau EM yn adfer eich dyfarniad os dowch yn ôl atynt o fewn 30 diwrnod i'r dyddiad pan gafodd eich taliadau eu stopio. Ar ôl hynny efallai y byddant yn dal yn fodlon adfer eich taliadau, ond rhaid i chi roi esgus rhesymol iddynt dros fethu'r dyddiad cau

Beth os nad wyf yn gwybod eto beth oedd fy incwm am y flwyddyn ddiwethaf? (Er enghraifft, rwy'n hunangyflogedig)

Rhaid i chi ddychwelyd y ffurflen o hyd erbyn 31 Awst gan roi amcangyfrif o'ch incwm i Gyllid a Thollau EM. Os na fyddwch yn gwneud hynny, bydd eich taliadau'n dod i ben ac efallai y bydd eich dyfarniad yn cael ei ganslo. Cewch tan 31 Ionawr i roi swm gwirioneddol eich incwm i Gyllid a Thollau EM os ydych wedi rhoi amcangyfrif o'r blaen.

Os bydd eich amgylchiadau'n newid yng nghanol y flwyddyn

Rhaid i chi ddweud wrth Gyllid a Thollau EM am unrhyw newid a allai effeithio ar eich credydau treth. Os byddwch chi'n disgwyl tan y dyddiad adnewyddu nesaf, mae'n bosib y bydd rhaid i chi dalu cosb. Cofiwch ddweud wrthyn nhw am unrhyw newid i'r canlynol:

  • eich incwm neu'ch budd-daliadau
  • faint o blant rydych chi'n gofalu amdanyn nhw
  • eich trefniadau gofal plant
  • faint o oriau rydych chi’n gweithio os ydych chi’n dechrau gweithio llai na 16 awr

Hefyd, rhaid i chi ddweud wrth Gyllid a Thollau EM os ydy nifer y bobl sy'n byw gyda chi'n newid neu os ewch chi dramor am fwy nag wyth wythnos. Gall hyn gael ei estyn i 12 wythnos os yr ydych yn mynd dramor oherwydd bod chi neu aelod agos o’ch teulu yn sâl, neu os bod aelod agos o’ch teulu wedi marw.

Mae sawl ffordd o ddweud wrthyn nhw am newidiadau:

  • ffonio'r llinell gymorth Credydau Treth (Cymru, Lloegr a'r Alban) 0845 300 3900, ffôn testun 0845 300 3909 neu (Gogledd Iwerddon) 0845 603 2000, ffôn testun 0845 607 6078. Mae'r llinellau ar agor bob dydd rhwng 8.00 am a 8.00 pm yn cynnwys penwythnosau (ac eithrio ar ddydd Nadolig, dydd San Steffan, dydd Calan a Sul y Pasg)
  • ysgrifennu at Swyddfa Credydau Treth Cyllid a Thollau EM, Preston PR1 0SB 

Os byddwch chi'n hawlio credydau treth ar ran rhywun arall

Os ydych chi wedi'ch penodi i hawlio budd-daliadau ar ran rhywun arall, dylech allu gwneud cais am gredyd treth ar eu rhan ac adnewyddu'r cais hwnnw.

Gwybodaeth bellach

Gallwch ffonio'r llinell gymorth credydau treth ar:

(Cymru, Lloegr a'r Alban ) 0845 300 3900, ffôn testun 0845 300 3909

(Gogledd Iwerddon) 0845 603 2000, ffôn testun 0845 607 6078.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU