Bydd Cyllid a Thollau EM (HMRC) yn archwilio miloedd o ddyfarniadau credyd treth bob blwyddyn. Pwrpas hyn yn sicrhau bod pobl yn cael y swm iawn o gredyd treth.
Mae'n bosib i unrhyw un sy'n cael credydau treth gael archwilio'u hawliad. Mae'n bosib y bydd Cyllid a Thollau EM yn archwilio'ch dyfarniad credyd treth er mwyn sicrhau eich bod yn cael y swm iawn ar sail eich incwm a'ch amgylchiadau. Er mwyn archwilio'ch credyd, fel arfer, byddan nhw'n gofyn am gopïau o bethau fel:
Mae'n bosib hefyd y bydd Cyllid a Thollau EM yn gofyn i bobl eraill, megis eich cyflogwr neu'ch darparwr gofal plant, am wybodaeth am eich incwm neu'ch costau.
Mae'n well rhoi'r holl wybodaeth mae Cyllid a Thollau EM yn gofyn amdani cyn gynted ag y gallwch chi. Os na wnewch chi hynny, mae'n bosib y gostyngir eich taliadau credyd treth, neu y byddan nhw'n dod i ben yn llwyr.
Mae'n ddoeth hefyd i chi gydweithredu gymaint ag y bo modd pan fydd eich credyd treth yn cael ei archwilio - os na wnewch chi hynny, mae'n bosib y cewch chi'ch cosbi'n ariannol.
Os oes gennych unrhyw gwestiwn am yr archwiliad, ffoniwch y swyddfa sy'n gwneud y gwaith.
Os ydych chi'n poeni am archwiliad credyd treth, gofynnwch i rywun am help. Mae help a chyngor am ddim ar gael gan y Ganolfan Cyngor ar Bopeth, neu gan Taxaid (elusen sy'n helpu pobl â phroblemau treth os na allan nhw fforddio talu am gyngor) neu gan y Gwasanaeth Cyfreithiol Cymunedol.
Neu gofynnwch i ffrind neu gynghorydd proffesiynol am help.
Bydd angen yr un wybodaeth sydd ei hangen ar Gyllid a Thollau EM ar bwy bynnag fydd yn eich helpu.
Os bydd archwiliad credyd treth yn dangos eich bod yn cael gormod o gredyd treth, neu nad oes gennych yr hawl i gael credydau treth, mae'n bosib y bydd Cyllid a Thollau EM yn penderfynu gostwng neu atal eich taliadau ac fe all fod rhaid i chi ad-dalu unrhyw arian gawsoch chi a chithau heb hawl iddo.
Os ydych chi'n cael gormod oherwydd eich bod yn ddiofal neu'n anonest wrth wneud cais am gredydau treth, mae'n bosib y bydd rhaid i chi dalu cosb ariannol hefyd. (Edrychwch ar 'Pryd mae'n rhaid talu cosb? " isod.)
Os nad ydych chi'n cael digon o gredyd treth, mae'n bosib y cynyddir eich taliadau.
Os bydd eich dyfarniad credyd treth yn cael ei archwilio, dyma'ch hawliau:
Dim ond dan yr amodau canlynol y ceir rhoi cosb ariannol i chi am hawlio gormod o gredyd treth:
Gall Cyllid a Thollau EM roi cosb o hyd at £300 i chi os na fyddwch chi'n eu hysbysu am newid yn eich amgylchiadau. Ac mae cosb ariannol hyd at £3,000 ar gyfer pob hawliad os nad ydych wedi dweud y gwir neu os ydych chi wedi bod yn ddiofal wrth roi gwybodaeth.
Bwriad y cosbau yw:
Os rhoddir cosb ariannol i chi, bydd Cyllid a Thollau EM yn ystyried:
Gallwch apelio yn erbyn unrhyw gosb ariannol ac yn erbyn y swm a roddir i chi yn eich credyd treth