Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Credyd Treth Gwaith

Mae'r Credyd Treth Gwaith yn daliad i ychwanegu at enillion pobl sy'n gweithio ar gyflog isel (boed hynny'n gyflogedig neu'n hunangyflogedig), gan gynnwys y rheiny sydd heb blant. Mae'r Credyd Treth Gwaith yn helpu i wneud gwaith yn werth chweil i weithwyr ar incwm isel.

Ydych chi'n gymwys?

I hawlio Credyd Treth Gwaith, rhaid i chi fod yn 25 oed neu'n hŷn ac fel arfer yn gweithio o leiaf 30 awr yr wythnos.

Mae’r rheolau yn wahanol os ydych chi’n perthyn i un o’r grwpiau canlynol:

  • pobl anabl – os oes gennych anabledd sy'n eich rhoi dan anfantais wrth geisio cael swydd rhaid i chi fod yn 16 oed neu’n hŷn ac yn gweithio 16 awr yr wythnos neu fwy
  • pobl dros 50 – os ydych chi’n 50 oed neu'n hŷn ac yn dychwelyd i waith ar ôl cyfnod ar fudd-dal rhaid i chi weithio 16 awr yr wythnos neu fwy
  • rhieni – os ydych chi’n gyfrifol am blentyn rhaid i chi fod yn 16 oed neu'n hŷn ac yn gweithio 16 awr yr wythnos neu fwy

Seilir credydau treth ar incwm ac amgylchiadau eich cartref, felly rhaid i chi roi gwybodaeth i Gyllid a Thollau EM am:

  • eich incwm yn y flwyddyn dreth diwethaf a nifer yr oriau y byddwch chi'n arfer eu gweithio bob wythnos
  • incwm eich partner neu'ch partner sifil yn y flwyddyn dreth diwethaf (os oes gennych un) a nifer yr oriau y byddant yn arfer eu gweithio bob wythnos
  • unrhyw fudd-daliadau yr ydych yn eu cael
  • nifer y plant sydd yn eich teulu a'u hoedran
  • faint y byddwch yn ei wario ar ofal plant bob wythnos (h.y. cofrestredig neu gymeradwy)

Faint o arian allech chi ei gael?

Bydd faint gewch chi'n dibynnu ar sawl peth, gan gynnwys eich incwm blynyddol. Mae'r taliad yn cynnwys gwahanol elfennau:

Elfennau Credyd Treth Gwaith

Y swm uchaf ar gyfer blwyddyn dreth 2007-2008

Elfen sylfaenol a delir i bawb sydd â'r hawl i gael Credyd Treth Gwaith

£1,800

Elfen ail oedolyn

£1,770

Elfen rhiant unigol

£1,770

Elfen sy'n daladwy os byddwch chi'n gweithio (rhyngoch os oes gennych un neu fwy o blant) 30 awr yr wythnos neu fwy

£735

Elfen anabledd

£2,405

Elfen anabledd difrifol

£1,020

Elfen sy'n daladwy os ydych chi'n 50 oed neu'n hŷn ac yn dychwelyd i weithio ar ôl cyfnod ar fudd-dal

£1,235 (os ydych chi'n gweithio rhwng 16 a 29 awr yr wythnos)

£1,840 (os ydych chi'n gweithio dros 30 awr yr wythnos neu fwy)

Elfen gofal plant, sy'n golygu y gallwch gael hyd at 80 y cant o'ch costau yn ôl ar gyfer gofal plant cymwys

mwyafswm cost gymwys o £175 yr wythnos os ydych chi'n talu am un plentyn

mwyafswm cost gymwys o £300 yr wythnos os ydych chi'n talu am ddau blentyn neu fwy

Os ydych chi'n gyfrifol am blentyn neu berson ifanc cymwys mewn addysg amser llawn ac eithrio addysg uwch, mae'n bosibl bod gennych hawl i gael Credyd Treth Plant.

Sut i hawlio

Gallwch wneud y canlynol:

  • hawlio Credyd Treth Gwaith drwy'r post
  • rhoi gwybod am newid mewn amgylchiadau dros y ffôn neu drwy'r post
  • adnewyddu eich credydau treth dros y ffôn neu drwy'r post (unwaith yr anfonir y ffurflen i chi yn ystod Ebrill neu Mai)

Gallwch archebu pecyn hawlio dros y ffôn drwy ffonio'r llinell gymorth ar 0845 300 3900, ffôn testun 0845 300 3909.

Mae'r llinellau ar agor o 8.00 am tan 8.00 pm bob dydd (ac eithrio ar ddydd Nadolig, dydd San Steffan, dydd Calan a Sul y Pasg).

Pan fyddwch yn ffonio'r llinell gymorth, gwnewch yn siŵr bod gennych eich rhif Yswiriant Gwladol wrth law oherwydd bydd angen i chi ei ddatgan er mwyn profi pwy ydych chi.

Sut mae'n cael ei dalu

Bydd Cyllid a Thollau EM yn talu Credyd Treth Gwaith drwy Daliad Uniongyrchol i'ch banc, cymdeithas adeiladu, Swyddfa'r Post® neu Gynilion Cenedlaethol.

Os ydych chi'n un o gwpwl neu bartneriaeth sifil a bod y ddau ohonoch yn gweithio o leiaf 16 neu 30 awr yr wythnos, fe gewch chi benderfynu pwy gaiff y taliadau Credyd Treth Gwaith.

Bydd Cyllid a Thollau EM yn talu elfen gofal plant y Credyd Treth Gwaith yn syth i'r sawl sy'n bennaf gyfrifol am ofalu am holl blant y teulu, a hynny gyda'r Credyd Treth Plant.

Os bydd eich amgylchiadau'n newid

Os ydych chi'n derbyn y Credyd Treth Gwaith, dywedwch wrth Gyllid a Thollau EM os bydd eich amgylchiadau'n newid. Os na wnewch chi hyn, mae'n bosibl na chewch chi'r holl arian y mae gennych hawl iddo, neu os telir gormod i chi, efallai y bydd rhaid i chi dalu rhywfaint yn ôl.

Beth os bydd gennych broblem neu gŵyn

Mae taflen am y drefn gwyno ar gael drwy ffonio'r llinell gymorth Credydau Treth:

  • ffoniwch 0845 300 3900, ffôn testun 0845 300 3909.

Os ydych chi'n anghytuno â phenderfyniad am gredyd treth, gallwch apelio.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU