Os ydych newydd roi'r gorau i weithio, efallai y gallwch hawlio rhywfaint o'r Dreth Incwm yr ydych wedi'i thalu yn ôl. Gallai hyn fod oherwydd eich bod wedi ymddeol, wedi dychwelyd i astudio neu oherwydd eich bod bellach yn ddi-waith.
Mae'r canllaw hwn yn egluro pryd y gallai ad-daliad Treth Incwm fod yn ddyledus i chi a sut mae hawlio ad-daliad os ydych wedi talu gormod o dreth.
Mae blwyddyn dreth yn mynd o'r 6 Ebrill i'r 5 Ebrill canlynol. Os byddwch yn rhoi'r gorau i weithio ran o'r ffordd drwy flwyddyn dreth, efallai y byddwch wedi talu gormod o dreth ar gyfer y flwyddyn honno.
Gall hyn ddigwydd os oeddech yn talu treth drwy'r cynllun PAYE (Talu Wrth Ennill) fel cyflogai ac:
Os ydych yn hunangyflogedig, mae'n rhaid i chi wneud 'taliadau ar gyfrif' o'ch bil treth ar gyfer y flwyddyn nesaf. Os ydych wedi gwneud taliadau ar gyfrif o'r dreth oedd yn ddyledus ar gyfer y flwyddyn y gwnaethoch roi'r gorau i weithio, efallai y byddwch wedi talu mwy nag oedd yn rhaid i chi ei wneud.
P'un a oeddech yn gyflogedig neu'n hunangyflogedig cyn i chi roi'r gorau i weithio, os ydych wedi talu gormod o dreth gallwch hawlio ad-daliad o'r swm yr ydych wedi'i or-dalu.
Os oeddech yn cael eich cyflogi cyn i chi roi'r gorau i weithio, byddwch wedi talu treth drwy PAYE. Os ydych yn credu eich bod wedi talu gormod o dreth drwy PAYE, mae'r ffordd y cewch hawlio'r ad-daliad yn dibynnu ar eich amgylchiadau.
Os ydych yn hawlio Lwfans Ceisio Gwaith neu Fudd-dal Analluogrwydd trethadwy
Os ydych yn hawlio Lwfans Ceisio Gwaith neu Fudd-dal Analluogrwydd trethadwy, ni fyddwch yn gallu hawlio ad-daliad treth ar unwaith. Y rheswm am hyn yw oherwydd bod y budd-daliadau hyn yn drethadwy ac yn effeithio ar unrhyw ad-daliad y gallwch ei hawlio.
Bydd angen i chi roi Rhannau 2 a 3 o'r ffurflen P45 i'r Swyddfa Budd-daliadau er mwyn sicrhau y cewch unrhyw dreth sy'n ddyledus i chi - chi fydd yn cadw Rhan 1 A ar gyfer eich cofnodion.
Os ydych yn cael Lwfans Ceisio Gwaith, bydd y Swyddfa Budd-daliadau yn talu unrhyw ad-daliadau y mae gennych yr hawl eu cael ar ôl diwedd y flwyddyn dreth. Os byddwch yn rhoi'r gorau i hawlio'r Lwfans Ceisio Gwaith cyn diwedd y flwyddyn dreth, bydd y Swyddfa Budd-daliadau yn talu unrhyw ad-daliad y mae gennych yr hawl ei gael i chi ar ôl i chi roi'r gorau i hawlio.
Os ydych yn cael Budd-dal Analluogrwydd, byddwch yn cael unrhyw ad-daliad y mae gennych yr hawl ei gael ar ôl diwedd y flwyddyn dreth.
Os byddwch yn cael swydd newydd o fewn pedair wythnos
Os byddwch yn dechrau swydd newydd o fewn pedair wythnos ers rhoi'r gorau i'ch swydd arall, bydd eich cyflogwr yn talu unrhyw ad-daliad y mae gennych yr hawl ei gael gyda chyflog eich swydd newydd.
Bydd angen i chi roi Rhannau 2 a 3 o'ch ffurflen P45 i'ch cyflogwr newydd a sicrhau eich bod yn cael unrhyw ad-daliad treth y mae gennych yr hawl ei gael - chi fydd yn cadw Rhan 1A ar gyfer eich cofnodion.
Os ydych wedi bod yn ddi-waith am o leiaf pedair wythnos neu os ydych yn ymddeol neu'n dychwelyd i astudio
Os ydych yn credu eich bod wedi talu gormod o dreth, bydd angen i chi hawlio ad-daliad treth gan Gyllid a Thollau EM os bydd unrhyw un o'r canlynol yn berthnasol i chi:
Gallwch hawlio ad-daliad treth drwy lenwi ffurflen P50 Hawlio treth yn ôl pan ydych wedi rhoi'r gorau i weithio. Dylech anfon hon at eich Swyddfa Dreth, ynghyd â Rhannau 2 a 3 o'ch ffurflen P45 - a dylech gadw Rhan 1A ar gyfer eich cofnodion. Bydd Cyllid a Thollau EM yn anfon ad-daliad o'r dreth y mae gennych yr hawl ei chael drwy'r post, byddant hefyd yn anfon ffurflen P45 newydd atoch, Rhannau 1A, 2 a 3, os oes angen.
Os byddwch yn ymddeol ac yn cael pensiwn gan eich cyn gyflogwr, byddwch yn cael unrhyw ad-daliad y mae gennych yr hawl ei gael gyda'ch taliadau pensiwn. Ni fydd angen i chi hawlio ad-daliad treth gan ddefnyddio ffurflen P50.
Os ydych wedi rhoi'r gorau i fod yn hunangyflogedig, gallwch hawlio ad-daliad treth drwy gwblhau'r tudalennau priodol o'ch ffurflen dreth Hunanasesiad.
Bydd Cyllid a Thollau EM yn ad-dalu unrhyw dreth yr ydych wedi'i gordalu, ynghyd ag unrhyw log y mae gennych yr hawl i'w gael. Bydd angen i chi hefyd roi manylion sut yr hoffech gael yr ad-daliad iddynt. Gellir ei dalu:
Os byddwch yn llenwi eich ffurflen dreth ar-lein, caiff y ffigurau eu cyfrifo i chi'n awtomatig. Cewch wybod ar unwaith faint o dreth a gewch yn ôl.