Y Dreth Stamp yw'r dreth y byddwch yn ei thalu pan fyddwch yn prynu eiddo neu gyfranddaliadau. Rydych yn talu 'Treth Stamp ar Dir' pan fyddwch yn prynu eiddo a naill ai 'Treth Stamp' neu 'Treth Stamp Wrth Gefn' pan fyddwch yn prynu cyfranddaliadau.
Mae'r trothwyon newydd a gyflwynwyd ar 3 Medi 2008 yn golygu, os ydych chi'n prynu eiddo a bod y pris prynu yn £175,000 neu lai, does dim rhaid i chi dalu unrhyw Dreth Stamp ar Dir.
Os yw'r pris yn fwy na £175,000, rydych yn talu rhwng un a phedwar y cant o'r pris prynu llawn. Bydd y trothwy o £175,000 ( i fyny o £125,000) yn aros mewn grym hyd at 2 Medi 2009, gan gynnwys y dyddiad hwnnw.
| Eiddo preswyl - y pris prynu | Cyfradd y Dreth Stamp ar Dir |
|---|---|
| hyd at £175,000 (tan 2 Medi 2009 gan gynnwys y dyddiad hwnnw) | 0% |
| £175,001 - £250,000 | 1% |
| £250,001 - £500,000 | 3% |
| £500,001 neu fwy | 4% |
Yn hanesyddol, bu eiddo a brynwyd mewn ardaloedd yr oedd y llywodraeth wedi'u dynodi'n 'ddifreintiedig' yn gymwys am Ostyngiad Ardaloedd Difreintiedig (lle'r oedd y trothwy Treth Stamp ar Dir yn uwch nag ar gyfer eiddo preswyl arall). Ni fydd y gostyngiad hwn yn berthnasol ar gyfer prynu eiddo rhwng 3 Medi 2008 a 2 Medi 2009, gan gynnwys y dyddiadau hynny.
Yn lle hynny, bydd trothwy Treth Stamp ar Dir yr un fath ag ar gyfer pob eiddo arall fel y dangosir uchod. Mae'r trothwy newydd yn uwch na'r trothwy Gostyngiad Ardaloedd Difreintiedig blaenorol, sef £150,000.
I gael rhagor o wybodaeth am y Dreth Stamp ar Dir, gan gynnwys sut i'w thalu a dolen i gyfrifydd Treth Stamp ar Dir Adran Cyllid a Thollau EM, darllenwch ein herthygl 'Treth ar brynu eiddo'.
Byddwch yn talu Treth Stamp neu Dreth Stamp Wrth Gefn ar gyfradd o 0.5 y cant pan fyddwch yn prynu cyfranddaliadau:
Rydych yn talu cyfradd uwch o 1.5 y cant pan fyddwch yn trosglwyddo cyfranddaliadau i 'gynllun derbynebau ar gyfer adneuon' neu 'wasanaeth clirio'. Trefniadau arbennig yw'r rhain lle mae'r cyfranddaliadau'n cael eu cadw gan drydydd parti.
I gael manylion llawn, gan gynnwys sut yr ydych yn talu a dolen i gyfrifydd Treth Stamp ar Dir Cyllid a Thollau EM, darllenwch ein herthygl gysylltiedig 'Treth ar brynu cyfranddaliadau'.