Defnyddir cod treth gan eich cyflogwr neu ddarparwr pensiwn i gyfrifo faint o dreth i'w thynnu o'ch cyflog neu bensiwn. Os yw'ch cod treth yn anghywir, gallech dalu gormod neu ddim digon o dreth.
Column 4
Fel arfer mae cod treth yn cynnwys un llythyren a sawl rhif, er enghraifft: 117L neu K497.
| Cod | Rheswm dros ei ddefnyddio |
|---|---|
| L | i'r rhai hynny sy'n gymwys i dderbyn y lwfans personol sylfaenol (fe'i defnyddir hefyd ar gyfer codau treth brys - darllenwch fwy yn yr adran 'Cod treth brys') |
| P | ar gyfer pobl rhwng 65 a 74 oed sy'n gymwys ar gyfer y lwfans personol llawn |
| V | ar gyfer pobl rhwng 65 a 74 oed sy'n gymwys ar gyfer y lwfans personol llawn a'r lwfans pâr priod llawn (ar gyfer y rhai a aned cyn 6 Ebrill 1935 ac sydd o dan 75 oed) ac yr amcangyfrifir eu bod yn atebol ar y gyfradd dreth sylfaenol |
| Y | ar gyfer pobl 75 oed a throsodd sy'n gymwys ar gyfer y lwfans personol llawn |
| T | os oes unrhyw eitemau eraill y mae angen i Gyllid a Thollau EM eu hadolygu yn eich cod treth |
| K | pan fydd cyfanswm eich lwfansau yn llai na chyfanswm eich 'didyniadau' - darllenwch fwy yn 'Sut mae codau treth yn cael eu cyfrifo' |
Os oes gan eich cod treth ddwy lythyren ond dim rhif, neu os dilynir y llythyren 'D' gan sero, mae'n dangos fel arfer fod gennych ddwy neu fwy o ffynonellau incwm a bod eich holl lwfansau wedi cael eu cynnwys yn y cod treth a'ch incwm o'ch prif swydd.
| Cod | Rheswm dros ei ddefnyddio |
|---|---|
| BR | Fe'i defnyddir pan drethir eich holl incwm ar y gyfradd sylfaenol - 22% ar hyn o bryd. O 06/04/2008 ymlaen, 20% yw'r gyfradd sylfaenol (fe'i defnyddir gan amlaf ar gyfer ail swydd) |
| D0 | Fe'i defnyddir pan drethir eich holl incwm ar y gyfradd dreth uwch - 40% ar hyn o bryd (fe'i defnyddir fel arfer ar gyfer ail swydd) |
| NT | Fe'i defnyddir pan nad oes unrhyw dreth i'w thynnu o'ch incwm neu bensiwn |
Os oes gennych ddwy swydd, mae'n debyg y bydd y cyfan o'ch ail incwm yn cael ei drethu ar y gyfradd sylfaenol neu uwch - yn dibynnu ar faint yr ydych yn ei ennill. Mae hyn oherwydd y bydd eich holl lwfansau wedi'u defnyddio yn erbyn yr incwm o'ch prif swydd.
Bydd eich cyflogwr yn defnyddio cod treth brys:
Defnyddir cod treth brys hefyd mewn rhai achosion arbennig, er enghraifft os byddwch yn rhoi P45 i'ch cyflogwr ond ei bod yn ddilys ar gyfer y flwyddyn flaenorol.
Os byddwch wedi talu gormod o dreth dan y cod dros dro hwn, byddwch yn cael ad-daliad.
Mae'ch cod treth ar eich P45 (a roddir i chi gan eich cyflogwr pan fyddwch yn rhoi'r gorau i weithio iddynt). Dyna pam ei bod yn bwysig iawn rhoi hwn i'ch cyflogwr newydd pan fyddwch yn newid swyddi.
Os ydych wedi colli'ch P45 ac am gael gwybod beth yw'ch cod treth, cysylltwch â'ch Swyddfa Dreth a rhoi eich rhif Yswiriant Gwladol iddynt a rhif cyfeirnod treth.
Os ydych yn dechrau ar eich swydd gyntaf a heb P45, bydd eich cyflogwr yn rhoi P46 i chi i'w llenwi a'i llofnodi. Bydd eich cyflogwr yn rhoi cod treth i chi ac yn cyfrifo'r dreth sy'n daladwy. Bydd Cyllid a Thollau EM yn prosesu eich P46, a lle bo angen, yn newid eich cod treth.
Os byddwch wedi talu gormod o dreth, bydd eich cyflogwr yn ad-dalu'r swm gofynnol. (Os bydd y flwyddyn dreth wedi dod i ben cyn y cyfrifir hwn, adran Cyllid a Thollau EM fydd yn gwneud yr ad-daliad.) Os nad ydych wedi talu digon o dreth, gellir newid y cod treth i gasglu'r dreth nad oedd wedi'i thalu.
Bydd eich cod treth ar eich 'hysbysiad cod' a anfonir atoch gan eich Swyddfa Dreth ar ôl dechrau pob blwyddyn dreth (ac ar adegau eraill os bydd eich cod treth yn newid). Mae eich cod treth hefyd ar hysbysiadau a slipiau talu a gewch gan eich darparwr pensiwn.
Rhaid i chi ddweud wrth Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi os bydd eich amgylchiadau'n newid, er enghraifft:
Oni wnewch hyn, gallech dalu'r swm anghywir o dreth.
Os bydd adran Cyllid a Thollau EM yn newid eich cod treth, dylech dderbyn 'hysbysiad cod' gan eich Swyddfa Dreth. Cadwch bob llythyr hysbysiad cod ar gyfer cyfeirio atynt rhag ofn y bydd gennych gwestiynau neu y byddwch am wybod a ydych yn talu'r swm cywir o dreth.