Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Treth Incwm

Treth ar incwm yw Treth Incwm. Does dim rhaid talu treth ar bob incwm - a dim ond ar 'incwm trethadwy' uwchben lefel arbennig y cewch eich trethu. Ac wedyn hyd yn oed, mae rhai gostyngiadau a lwfansau ar gael sy'n gallu lleihau eich bil Treth Incwm - ac mewn rhai achosion efallai na fydd gennych unrhyw dreth i'w thalu.

Beth sy'n 'incwm trethadwy'?

Mae incwm trethadwy'n cynnwys:

  • enillion o weithio
  • enillion o hunangyflogaeth
  • y rhan fwyaf o incwm pensiynau (pensiynau'r Wladwriaeth, pensiynau cwmni a phersonol)
  • llog ar y rhan fwyaf o gynilion
  • incwm o gyfranddaliadau (difidendau)
  • incwm rhent
  • incwm a delir i chi o ymddiriedolaeth

Incwm anhrethadwy

Mae rhai mathau o incwm nad ydych byth yn talu treth arnynt. Mae'r rhain yn cynnwys rhai budd-daliadau, pensiynau arbennig ac incwm o gyfrifon di-dreth. Anwybyddir y rhain pan gyfrifir faint o Dreth Incwm y bydd yn rhaid i chi ei thalu.

Lwfansau di-dreth

Mae gan bawb sy'n byw yn y DU at ddibenion treth 'lwfans personol', sef swm o incwm trethadwy y gallwch ei ennill neu ei dderbyn bob blwyddyn yn ddi-dreth.

Yn y flwyddyn dreth gyfredol (2008-2009), y lwfans personol sylfaenol - neu'r swm di-dreth - yw £5,435. Efallai bod hawl gennych i lwfans personol uwch os ydych yn 65 oed a throsodd.

Os ydych wedi'ch cofrestru'n ddall, neu yn methu â gwneud unrhyw waith y mae gallu gweld yn hanfodol ar ei gyfer, gallwch hefyd hawlio'r lwfans person dall di-dreth.

Dim ond ar yr incwm trethadwy sydd ar ben eich lwfansau di-dreth y mae Treth Incwm yn ddyledus.

Gostyngiadau a lwfansau y gellir eu didynnu sy'n gallu lleihau eich bil Treth Incwm

Os ydych yn gorfod talu Treth Incwm, mae 'na nifer o lwfansau a gostyngiadau y gellir eu didynnu sy'n gallu lleihau eich bil treth. Mae’r rhain yn cynnwys, er enghraifft:

  • y lwfans pâr priod (rhaid i'r gŵr, y wraig neu'r partner sifil fod wedi'u geni cyn 6 Ebrill 1935)
  • gostyngiad ar daliad cynhaliaeth (rhaid i chi neu eich cyn-briod neu bartner sifil fod wedi'u geni cyn 6 Ebrill 1935)
  • gostyngiad yn y dreth ar gyfraniadau pensiwn
  • rhoddion i elusennau dan 'cymorth rhodd' neu 'roi drwy'r gyflogres'

Yn wahanol i lwfansau di-dreth, nid symiau o incwm y gallwch eu derbyn yn ddi-dreth mo'r rhain. Yn hytrach, symiau ydynt sy'n gallu gostwng eich bil treth.

Faint o Dreth Incwm y byddwch yn ei thalu

Unwaith y bydd eich lwfans di-dreth (ac unrhyw lwfansau a gostyngiadau y gellir eu didynnu) wedi'u hystyried, cyfrifir faint o dreth y byddwch yn ei thalu trwy ddefnyddio gwahanol gyfraddau treth a chyfres o fandiau treth.

Cyfraddau Treth Incwm 2008-2009 yn ôl band treth ac yn ôl incwm

Band Treth Incwm Cyfradd Treth Incwm ar incwm a enillwyd (gweler nodyn) Cyfradd Treth Incwm ar gynilion Cyfradd Treth Incwm ar ddifidendau

£1 i £2,320

Cyfradd ddechreuol:
Ddim ar gael 10%*

£1 i £36,000

Cyfradd sylfaenol:
20% 20% 10%

£36,001 ac uwch

Cyfradd uwch:
40% 40% 32.5%

Os yw'r incwm yr ydych wedi ei ennill yn llai na chyfradd ddechreuol y terfyn cynilo (£2,320), fe drethir eich incwm cynilion ar y gyfradd ddechreuol o 10 y cant hyd at y terfyn, yn hytrach na'r gyfradd sylfaenol o 20 y cant. Mae terfyn y gyfradd ddechreuol ar gyfer cynilion yn creu band treth gwahanol; nid yw'n ychwanegiad at derfyn y gyfradd sylfaenol.

Cofiwch: pennir y band treth ar ôl ystyried unrhyw lwfansau treth a gostyngiadau; nid ydych yn cael eich trethu ar eich holl incwm.

Mae 'incwm a enillwyd' yn cynnwys incwm o gyflogaeth neu hunangyflogaeth, y rhan fwyaf o incwm pensiwn ac incwm rhent.

Mae 'difidendau' yn golygu incwm o gyfranddaliadau mewn cwmnïau yn y DU.

Mae incwm o ddifidendau a chynilion yn cael ei ychwanegu at eich incwm trethadwy arall a'u trethu'n olaf. Golyga hyn eich bod yn talu treth ar y mathau hyn o incwm yn ôl eich band Treth Incwm uchaf.

Sut ydych yn talu Treth Incwm

Os ydych yn gweithio neu'n derbyn pensiwn cwmni

Os ydych yn gweithio, bydd eich cyflogwr yn didynnu Treth Incwm o'ch cyflog ar hyd y flwyddyn a'i hanfon at Gyllid a Thollau EM. Os ydych yn derbyn pensiwn, bydd y darparwr pensiwn yn didynnu treth yn yr un ffordd. Talu Wrth Ennill (Pay As You Earn - PAYE) yw'r enw ar y system hon o gasglu Treth Incwm.

Os yw eich materion treth yn gymhleth, efallai y bydd yn rhaid i chi lenwi ffurflen Hunanasesu treth hefyd (gweler isod).

Os ydych chi’n hunangyflogedig

Os ydych chi'n hunangyflogedig bydd angen ichi lenwi ffurflen Hunanasesu (ffurflen bapur neu ar-lein) a thalu unrhyw Dreth Incwm sy'n ddyledus ddwywaith y flwyddyn.

Os oes gennych faterion treth cymhleth

Os oes gennych faterion treth cymhleth (er enghraifft, os ydych yn ennill arian o renti neu fuddsoddiadau uwchben lefel benodol) efallai y bydd yn rhaid i chi lenwi ffurflen dreth, hyd yn oed os ydych ar PAYE. Ond os ydych ar PAYE, efallai y gall Cyllid a Thollau EM gasglu rhywfaint neu'r cyfan o'ch Treth Incwm yn y ffordd hon o hyd.

I gael manylion llawn y rhai y mae angen iddynt lenwi ffurflen dreth, darllenwch ein herthygl berthnasol 'Oes angen i chi lenwi ffurflen dreth'.

Treth Incwm a ddidynnir 'yn y ffynhonnell' o incwm cynilion

Mae 20 y cant yn cael ei ddidynnu o'r llog ar y rhan fwyaf o gynilion cyn i chi ei dderbyn. Os ydych yn talu treth ar y gyfradd sylfaenol, does dim rhagor o dreth i'w thalu. Os ydych yn talu treth ar y gyfradd ddechreuol neu ddim yn talu treth, efallai y gallwch hawlio treth yn ôl. Os ydych yn talu treth ar y gyfradd uwch, bydd rhaid i chi dalu rhagor o dreth.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU