Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Lwfansau personol a lwfansau treth

Mae gan bawb sy'n byw yn y DU hawl i lwfans personol ar gyfer Treth Incwm. Dyma'r incwm a gewch bob blwyddyn heb orfod talu treth arno. Yn ddibynnol ar eich amgylchiadau, efallai y gallwch hawlio rhai lwfansau eraill.

Lefelau'r lwfans personol

Mae maint eich lwfans personol yn dibynnu ar:

  • eich oedran ar 5 Ebrill 2008
  • cyfanswm eich incwm (os ydych dros 65 oed)

Mae cyfanswm incwm yn cynnwys popeth yr ydych yn ei dderbyn o ffynonellau trethadwy. Mae'n rhaid i chi felly gynnwys pethau megis pensiynau a llog ar eich cynilion mewn cymdeithas adeiladu cyn y didynnir y dreth.

Ceir tair lefel o lwfans personol


Lwfans personol

Blwyddyn dreth 2008-2009

Terfyn incwm (gweler y nodyn)
Cyfradd sylfaenol £5,435 dim
65 - 74 oed £9,030 £21,800
75 a throsodd £9,180 £21,800

Os cewch eich pen-blwydd yn 65 neu 75 oed yn ystod y flwyddyn hyd at 5 Ebrill 2009, mae gennych hawl i'r lwfans ar gyfer y grwp oedran hwnnw.

Nodyn: Os yw'ch incwm dros y 'terfyn incwm', mae'r lwfans ar sail oed yn lleihau o hanner y swm (£1 am bob £2) sydd gennych dros y terfyn hwnnw, hyd nes y cyrhaeddir y lwfans cyfradd sylfaenol (cewch y lwfans sylfaenol bob tro, beth bynnag yw lefel eich incwm).

Felly, er enghraifft, os ydych yn 66 oed a chydag incwm o £22,300 (£500 dros y terfyn), byddai eich lwfans ar sail oed yn gostwng £250 i £8,780.

Mae’r Canghellor wedi cyhoeddi’n ddiweddar bydd cyfradd sylfaenol y Lwfans Personol yn cael ei gynyddu gan £600 o £5,435 i £6, 035. Bydd y newid yn cymryd lle ym mis Medi 2008 a bydd y Lwfans Personol cynyddol yn cael ei ôl ddyddio i 6 Ebrill 2008.

Sut ydych chi'n cael y lwfans personol?

Os yw Cyllid a Thollau EM yn gwybod eich oedran, dylech gael y lwfans personol yn awtomatig. Ond cofiwch na fyddant yn gwybod eich oedran onid ydych wedi dweud wrthynt neu wedi dangos eich dyddiad geni ar ffurflen dreth neu ffurflen hawlio treth. Os nad ydych wedi gwneud hyn yn barod ac os ydych yn 65 oed a throsodd, bydd angen i chi gysylltu â'ch Swyddfa Dreth.

Os ydych yn teimlo eich bod wedi talu gormod o dreth

Os ydych eisiau hawlio ad-daliad treth oherwydd nad ydych wedi defnyddio'ch lwfans personol (neu am unrhyw reswm arall), bydd angen i chi wneud hynny o fewn pum mlynedd o 31 Ionawr yn dilyn diwedd y flwyddyn dreth dan sylw.

Bydd blwyddyn dreth yn dechrau ar y 6 Ebrill ac yn gorffen ar y 5 Ebrill canlynol. Felly, ar gyfer y flwyddyn dreth a ddaeth i ben ar 5 Ebrill 2004, bydd angen i chi gysylltu â'ch Swyddfa Dreth erbyn 31 Ionawr 2011.

Lwfansau eraill y gallech eu derbyn

Lwfans person dall

Os ydych wedi'ch cofrestru'n ddall, neu yn methu â gwneud unrhyw waith y mae gallu gweld yn hanfodol ar ei gyfer, gallwch hawlio'r lwfans person dall. Mae hwn eto'n swm o arian y gallwch ei gael heb dalu treth. Os ydych yn briod neu mewn partneriaeth sifil a heb allu defnyddio'r cyfan o'ch lwfans, gallwch roi y rhan heb ei ddefnyddio i'ch cymar neu bartner sifil.

Y lwfans person dall ar gyfer blwyddyn dreth 2008-2009 yw £1,800 - does dim cyfyngiadau oed nac incwm.

Lwfans pâr priod (ar gael hefyd i bartneriaid sifil)

Mae'n rhaid eich bod yn talu treth i allu hawlio'r lwfans hwn, gan ei fod yn cael ei dynnu o'ch bil treth.

Gallwch hawlio'r lwfans pâr priod:

  • os ydych wedi priodi neu mewn partneriaeth sifil
  • os ydych yn drethdalwr
  • os ganed chi neu eich priod neu bartner sifil cyn 6 Ebrill 1935

Gosodir isafswm ac uchafswm ar gyfer y LPP bob blwyddyn dreth - a didynnir 10 y cant o'r swm yr ydych yn gymwys i'w dderbyn o'ch bil treth.

Gallwch ddysgu mwy am sut y rhoddir y lwfans pâr priod a phwy sy'n gwneud yr hawliad yn ein herthygl gysylltiedig ar lwfansau treth ar ôl ymddeol.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU