Treth Enillion Cyfalaf (TEC)
Treth ar 'enillion' cyfalaf yw'r Dreth Enillion Cyfalaf. Pan fyddwch yn gwerthu neu'n rhoi ased i ffwrdd, os bydd ei werth wedi codi, mae'n bosibl y bydd yn rhaid i chi dalu treth ar yr 'enillion' (elw). Nid yw hyn yn berthnasol pan fyddwch yn gwerthu eiddo personol gwerth £6,000 neu lai, neu yn y rhan fwyaf o achosion, eich prif gartref.
Efallai y bydd rhaid i chi dalu TEC, er enghraifft:
Does dim rhaid i chi dalu TEC ar:
Dyma ambell bwynt i'w gofio:
Cyfrifir TEC am bob blwyddyn dreth (sy'n mynd o 6 Ebrill mewn un flwyddyn i 5 Ebrill yn y flwyddyn ddilynol). Caiff ei chodi ar eich holl enillion trethadwy, ar ôl ystyried:
y swm eithriedig (di-dreth) blynyddol - sef £9,200 ar gyfer pob unigolyn yn y flwyddyn dreth 2007-2008 a £10,100 ar gyfer pob unigolyn yn 2009-2010
Y bwriad am 2008-2009 a 2009-2010 yw fydd cyfradd sengl o Dreth Enillion Cyfalaf o 18 y cant am oedolion, ymddiriedolwyr a chynrychiolyddion personol ar enillion trethadwy.
Os ydych wedi derbyn ffurflen Hunanasesu treth incwm, dilynwch y canllawiau i benderfynu a oes angen i chi lenwi'r tudalennau enillion cyfalaf. Mae'r ffurflen yn dweud wrthych sut i gael y tudalennau hyn os oes eu hangen arnoch.
Os nad ydych yn llenwi ffurflen dreth fel arfer, ond am roi gwybod am enillion neu golledion, cysylltwch â'ch Swyddfa Dreth leol a gofyn iddynt anfon ffurflen atoch a'r tudalennau perthnasol. Os oes gennych Dreth Enillion Cyfalaf i'w thalu, rhaid i chi hysbysu'r swyddfa dreth erbyn 5 Hydref yn dilyn y flwyddyn dreth. Mae terfyn amser ar gyfer hawlio colledion.
Darparwyd gan HM Revenue and Customs