Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Sut mae cywiro camgymeriadau yn eich treth

Os ydych yn credu eich bod wedi talu'r swm anghywir o Dreth Incwm, neu wedi gwneud camgymeriad ar eich ffurflen dreth Hunanasesu, rhowch wybod i Gyllid a Thollau EM cyn gynted â phosibl. Fel arfer mae'n eithaf rhwydd cywiro pethau drwy ddilyn rhywfaint o gamau syml.

Pam y gallech fod wedi talu gormod o dreth, neu heb dalu digon

Gallech fod wedi talu'r swm treth anghywir oherwydd:

  • bod eich cyflogwr wedi defnyddio'r cod treth anghywir
  • bod gennych god treth brys
  • eich bod yn gyflogedig am ran o'r flwyddyn yn unig
  • bod gennych fwy nag un swydd ar yr un pryd
  • na wnaethoch ddweud wrth Gyllid a Thollau EM am y buddion yr oeddech yn eu cael drwy eich gwaith
  • bod eich amgylchiadau wedi newid - efallai y cawsoch eich diswyddo
  • eich bod yn hunangyflogedig
  • bod gennych incwm arall fel buddsoddiadau neu incwm rhent
  • eich bod wedi gwneud camgymeriad ar eich ffurflen dreth
  • eich bod ar incwm isel ond wedi talu treth ar eich cynilion
  • bod Cyllid a Thollau EM wedi gwneud camgymeriad gyda'ch treth

Gall yr holl bethau hyn a mwy olygu eich bod yn talu gormod o dreth, neu'ch bod heb dalu digon.

Wedi talu gormod o dreth drwy eich swydd neu bensiwn cwmni

Gallwch hawlio treth ychwanegol yn ôl. Mae Cyllid a Thollau EM yn galw unrhyw arian a delir yn ôl yn 'ad-daliad'.

Hawlio ad-daliadau ar gyfer y flwyddyn dreth gyfredol

Dywedwch wrth eich Swyddfa Dreth pam y credwch eich bod wedi talu gormod. Os oes angen rhagor o wybodaeth ar Gyllid a Thollau EM, byddant yn dweud wrthych pa waith papur i'w anfon.

Efallai y cewch god treth newydd, sy'n golygu y caiff unrhyw ad-daliad ei ychwanegu at eich cyflog neu'ch pensiwn.

Hawlio ad-daliadau ar gyfer blynyddoedd treth blaenorol

Gallwch hawlio ad-daliad hyd at 31 Ionawr bum mlynedd ar ôl diwedd y flwyddyn dreth (5 Ebrill) pan dalwyd gormod o dreth. Er enghraifft, rhaid cyflwyno hawliad ar gyfer blwyddyn dreth 2003-04 a ddaeth i ben ar 5 Ebrill 2003, erbyn 31 Ionawr 2010.

Bydd angen i chi ysgrifennu at eich Swyddfa Dreth er mwyn cael unrhyw ad-daliad dyledus. Dylech gynnwys y gwaith papur ynghylch eich enillion yn ystod y flwyddyn dreth yr ydych yn hawlio ar ei chyfer, er enghraifft:

  • slipiau talu
  • ffurflenni P60 a P45
  • manylion am eich cyflogaeth - gan gynnwys unrhyw fudd-daliadau gweithwyr a gawsoch

Bydd Cyllid a Thollau EM yn cyfrifo faint o dreth sy'n ddyledus i chi ac yn anfon ad-daliad atoch yn y post neu drwy drosglwyddiad banc.i chi ac yn anfon ad-daliad atoch yn y post neu drwy drosglwyddiad banc.

Wedi talu gormod ar ôl llenwi ffurflen dreth Hunanasesiad

Ceir dwy ffordd o hawlio ad-daliad, sy'n dibynnu ar y flwyddyn dreth yr ydych yn hawlio ar ei chyfer.

Hawlio am y flwyddyn dreth ddiwethaf

Os ydych wedi gwneud camgymeriad ar eich ffurflen dreth, mae gennych 12 mis o ddyddiad olaf derbyn y ffurflen i'w gywiro. Gelwir hyn yn 'ddiwygiad'.

Ysgrifennwch at eich Swyddfa Dreth, gan roi gwybod iddynt pa gywiriadau sydd angen eu gwneud i ba flychau ar y ffurflen.

Hawlio ar gyfer blynyddoedd treth blaenorol

Fel arfer mae'n rhaid i chi wneud hyn o fewn pum mlynedd ar ôl 31 Ionawr ar ôl diwedd y flwyddyn dreth (5 Ebrill) yr ydych yn ei hawlio ar ei chyfer. Ond os mai Cyllid a Thollau EM sydd wedi gwneud camgymeriad gallwch gael amser ychwanegol.

Os na wnaethoch lenwi ffurflen dreth ar gyfer y flwyddyn dan sylw, ysgrifennwch at eich Swyddfa Dreth a rhoi gwybod iddynt pam eich bod yn hawlio. Os gwnaethoch lenwi un, ysgrifennwch atynt a gofynnwch am gael hawlio 'ad-daliad oherwydd camgymeriad neu wall'un, ysgrifennwch atynt a gofynnwch am gael hawlio 'ad-daliad oherwydd camgymeriad neu wall'.

Ad-daliad treth yn ddyledus ar gynilion neu incwm buddsoddi

Caiff treth ei thynnu oddi ar log eich cynilion ac oddi ar incwm blwydd-daliadau yn awtomatig ar gyfradd o:

  • 20 y cant ar gynilion banc a chymdeithas adeiladu
  • 22 y cant ar flwydd-daliadau

Os ydych ar incwm isel, gallech gael rhywfaint o'r dreth yr ydych wedi'i thalu yn ôl. Bydd rhaid i chi lenwi ffurflen hawlio.

Os ydych eisiau ad-hawlio, rhaid i chi wneud hynny cyn 31 Ionawr bum mlynedd ar ôl diwedd y flwyddyn dreth (5 Ebrill) pan dalwyd gormod o dreth. Er enghraifft, rhaid cyflwyno hawliad ar gyfer blwyddyn dreth 2003-04 a ddaeth i ben ar 5 Ebrill 2003, erbyn 31 Ionawr 2010.

Os nad ydych wedi talu digon o dreth

Gelwir hyn yn 'dandaliad'. Bydd Cyllid a Thollau EM fel arfer yn ysgrifennu atoch yn egluro pam fod hyn wedi digwydd a sut y byddant yn casglu'r dreth ychwanegol sy'n ddyledus gennych. Mae'n bosibl y bydd yn rhaid i chi dalu rywfaint o log ar y dreth hefyd.

Tandaliadau o lai na £2,000

Fel arfer, bydd Cyllid a Thollau EM yn rhoi cod treth newydd i chi ac yn gofyn i chi dalu'r dreth sy'n ddyledus gennych yn ôl mewn blwyddyn.

Os yw'n well gennych, gallwch ei dalu'n ôl yn syth mewn un taliad mawr. Gelwir hyn yn 'daliad gwirfoddol'. Ffoniwch y rhif ffôn ar y llythyr a gawsoch a gofynnwch am slip talu.

Tandaliadau o £2,000 neu fwy

Bydd Cyllid a Thollau EM yn gofyn i chi dalu'r arian yn ôl o fewn un mis, neu erbyn 31 Ionawr yn dilyn diwedd y flwyddyn dreth a dandalwyd - pa un bynnag sydd hwyraf. Llenwch y slip talu a anfonwyd atoch gyda'r llythyr, a dychwelwch ef gyda'ch taliad.

Weithiau gall Cyllid a Thollau EM drefnu i chi dalu'r dreth yn ôl drwy'r system Hunanasesiad.

Os na allwch fforddio talu'r arian sy'n ddyledus gennych yn ôl

Ysgrifennwch at y Swyddfa Dreth a ofynnodd i chi am y taliad a dywedwch wrthynt pam na allwch fforddio talu. Bydd yn rhaid i chi roi ffigurau bras o'ch incwm, gwariant, cynilion ac asedau eraill. Mae'n bosibl y byddant yn caniatáu i chi ledaenu'r taliadau dros fwy na blwyddyn.

Sut mae cywiro 'gordaliad o ad-daliadau'

Os gwnaethoch hawlio ad-daliad a bod Cyllid a Thollau EM wedi talu gormod yn ôl i chi gelwir hynny yn 'ordaliad o ad-daliad'. Os bydd hyn yn digwydd byddant yn ysgrifennu atoch yn egluro pam a sut y byddant yn casglu'r arian yn ôl.

Allweddumynediad llywodraeth y DU