Incwm trethadwy ac incwm anrhethadwy yn fras
Nid oes rhaid talu treth ar bob incwm. Gallwch hefyd dderbyn rhai mathau o incwm 'trethadwy' yn 'ddi-dreth'. Gall y rhestri isod eich helpu i gyfrifo pa incwm sy'n cael ei gyfrif yn 'drethadwy' ac yn 'anrhethadwy' - a pha incwm trethadwy y gallwch ei dderbyn yn ddi-dreth.
Incwm o hunangyflogaeth neu bartneriaeth
Elw'r ydych chi'n ei wneud wrth weithio drosoch eich hun neu fel masnachwr unigol neu bartner.
Incwm o bensiwn
- Pensiwn y Wladwriaeth
- pensiynau personol neu bensiynau cwmni
- Blwydd-dal ymddeol
Llog ar gynilion
- llog banc neu gymdeithas adeiladu - ac eithrio Cyfrifon Cynilo Cenedlaethol (ISAs) a Chynlluniau Ecwiti Personol (PEPs)
- Cyfrifon a bondiau Buddsoddiadau a Chynilion Cenedlaethol
Incwm buddsoddi
Difidendau - ac eithrio incwm difidend o ISAs a PEPs.
Budd-daliadau'r wladwriaeth
- Lwfans Gofalwr
- Lwfans Ceisio Gwaith
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth - yn seiliedig ar ‘gyfraniadau’ (os ydych chi wedi talu digon o Gyfraniadau Yswiriant Gwladol)
- Budd-dal Analluogrwydd - o wythnos 29
- Lwfans Profedigaeth Wythnosol
Incwm o renti
- gan breswyliwr os yw'n fwy na £4,250 y flwyddyn (£2,125 os caiff ei rannu ar y cyd)
- o ail ddarn o eiddo
Incwm trethadwy arall
- bondiau pensiynwyr
- incwm o ymddiriedolaethau
Beth sy'n incwm anhrethadwy?
Budd-daliadau'r wladwriaeth
- Lwfans Byw i’r Anabl
- Lwfans Gweini
- Taliadau Profedigaeth mewn un taliad
- Credyd Pensiwn
- Trwydded deledu am ddim i rai dros 75
- Taliadau Tanwydd y Gaeaf
- Budd-dal Tai
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth - yn seiliedig ar incwm (os nad ydych wedi talu digon o Gyfraniadau Yswiriant Gwladol)
- y 28 wythnos cyntaf o Fudd-dal Analluogrwydd
- Cymhorthdal Incwm - rhai taliadau penodol
- Budd-dal Plant
- Lwfans Gwarcheidwad
- Lwfans Mamolaeth
- Budd-dal Anafiadau Diwydiannol
- Lwfans Anabledd Difrifol
- Pensiwn Rhyfel Gŵr neu Wraig Weddw
- Lwfans Pontio Person Ifanc
Llog ar gynilion
- pob ISA a PEP
- Tystysgrifau Cynilo
Rhenti
- Y £4,250 cyntaf gan breswyliwr mewn blwyddyn - £2,125 os caiff ei rannu ar y cyd
Credydau Treth
- Credyd Treth Gwaith
- Credyd Treth Plant
Bondiau Premiwm
Nid oes rhaid talu Treth Incwm y DU na Threth Enillion Cyfalaf ar enillion o Fondiau Premiwm.
Os oes gennych incwm na ddangosir uchod
Os oes gennych incwm na ddangosir uchod, cysylltwch â'ch Swyddfa Dreth trwy ddilyn y ddolen isod.
Incwm trethadwy y gallwch ei dderbyn yn ddi-dreth
Mae gan bawb hawl i dderbyn rhywfaint o incwm trethadwy yn ddi-dreth yn ystod y flwyddyn dreth. Gelwir hyn yn Lwfans Personol, ac mae'n cynyddu ar ôl i chi gyrraedd 65 oed.
Os ydych chi'n cael eich cyfrif yn ddall a'ch bod ar gofrestr awdurdod lleol o bobl ddall, neu os ydych chi'n byw yn yr Alban neu yng Ngogledd Iwerddon ac na allwch wneud unrhyw waith lle mae gallu gweld yn hanfodol, gallwch hawlio Lwfans Person Dall. Fel y Lwfans Personol, dyma swm o incwm trethadwy y gallwch ei dderbyn yn ystod y flwyddyn dreth heb dalu treth.