Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Ddylech chi fod yn talu Treth Incwm?

Does dim rhaid talu treth ar bob incwm - a dim ond ar incwm uwchben lefel arbennig y cewch eich trethu. Os yw eich incwm trethadwy yn fwy na'ch lwfansau di-dreth, rhaid ichi gysylltu â Chyllid a Thollau EM os nad ydych eisoes yn talu treth. Os yw'n llai na'ch lwfansau, neu'n hafal iddynt, ni ddylech fod yn talu treth ac efallai bod ad-daliad yn ddyledus i chi.

Cyfrifo a ydych yn drethdalwr ai peidio

I ganfod a ydych yn drethdalwr, dilynwch y tri cham hyn:

  • cyfrifo'ch holl incwm trethadwy
  • cyfrifo'ch lwfansau di-dreth
  • tynnu'ch lwfansau di-dreth o'ch incwm trethadwy

Cam un - cyfrifo'ch incwm trethadwy

Mae rhai mathau o incwm yn drethadwy ac ni threthir mathau eraill byth. Er mwyn gweld a ydych chi'n drethdalwr, yn gyntaf dylech gyfrifo'ch holl incwm trethadwy mewn blwyddyn dreth (6 Ebrill tan 5 Ebrill) - gallwch anwybyddu'ch incwm anhrethadwy. Er mwyn gweld neu argraffu rhestr o incwm trethadwy ac anhrethadwy, cliciwch ar y ddolen isod.

Cam dau - cyfrifo'ch lwfansau di-dreth

Lwfansau di-dreth yw symiau o incwm a gewch heb orfod talu treth arnynt. Maent yn cynnwys y Lwfans Personol a'r Lwfans Person Dall.

Lwfans Personol

Mae pawb yn cael y Lwfans Personol Sylfaenol, ond os ydych yn 65 neu'n hŷn a bod eich incwm o dan lefelau penodol, mae'r gyfradd yn codi.

Lwfans Personol

Mae pawb yn cael y Lwfans Personol Sylfaenol, ond os ydych yn 65 neu'n hŷn a bod eich incwm o dan lefelau penodol, mae'r gyfradd yn codi.

Cyfraddau'r Lwfans Personol

2008-09

Terfyn incwm (gweler y nodyn)

Cyfradd sylfaenol

£5, 435

dim

65 i 74 oed

£9,030

£21,800

75 oed neu hŷn

£9,180

£21,800

Noder: Os yw'ch incwm dros y terfyn incwm, bydd Cyllid a Thollau EM yn lleihau'r lwfans ar sail oed o hanner y swm - £1 am bob £2 - sydd gennych dros y terfyn hwnnw, hyd nes i'r lwfans cyfradd sylfaenol gael ei gyrraedd. Fe gewch chi'r lwfans sylfaenol bob amser, beth bynnag yw lefel eich incwm.
Felly os, er enghraifft, rydych chi'n 66 a bod gennych incwm o £22,400 (£600 yn uwch na'r terfyn) fe fyddem yn lleihau'ch lwfans ar sail oed, sef £9,030, o £300 i £8,730.

Lwfans Person Dall

Os ydych chi'n cael eich cyfrif yn ddall a'ch bod ar gofrestr awdurdod lleol o bobl ddall, neu os ydych chi'n byw yn yr Alban neu yng Ngogledd Iwerddon ac na allwch wneud unrhyw waith lle mae gallu gweld yn hanfodol, gallwch hawlio Lwfans Person Dall. Os ydych yn briod neu mewn partneriaeth sifil a heb allu defnyddio'r cyfan o'ch lwfans, gallwch roi'r rhan heb ei defnyddio i'ch cymar neu'ch partner sifil.

Hyd yn oed os nad oes gennych incwm trethadwy, efallai ei bod yn dal i fod yn werth hawlio Lwfans Person Dall gan y gallai'ch cymar neu'ch partner sifil fanteisio ar eich lwfans.
Y Lwfans Person Dall ar gyfer blwyddyn dreth 2008-09 yw £1,800.

Cam tri - cyfrifo a ydych yn drethdalwr

Tynnwch eich lwfansau di-dreth o'ch incwm trethadwy. Os oes unrhyw beth yn weddill, rydych chi'n cyfrif fel trethdalwr a rhaid i chi gysylltu â Chyllid a Thollau EM os nad ydych eisoes yn talu treth. Os nad oes unrhyw beth yn weddill, ni ddylech fod yn talu unrhyw dreth, ac efallai bod ad-daliad yn ddyledus i chi.

Trethdalwr: enghraifft a gyfrifwyd

Rydych chi'n 76, ac wedi'ch cofrestru'n ddall. Rydych chi wedi cyfrifo'ch incwm trethadwy, a'r swm yw £19,000.

  • eich incwm trethadwy yw £19,000
  • cyfanswm eich lwfansau di-dreth yw £10,980 (Lwfans Personol ar Sail Oed o £9,180 ynghyd â Lwfans Person Dall o £1,800)
  • rydych chi'n tynnu'r lwfansau di-dreth (£10,980) oddi wrth eich incwm trethadwy (£19,000) - felly mae gennych incwm trethadwy o £8,020 yn weddill

Rhywun nad yw'n talu treth: enghraifft a gyfrifwyd

Rydych chi'n 46 oed ac mae gennych swydd ran-amser. Eich incwm trethadwy yw £4,500.

  • eich incwm trethadwy yw £4,500
  • eich lwfans di-dreth yw £5,435 - y Lwfans Personol ar gyfradd sylfaenol
  • rydych chi'n tynnu'ch Lwfans Personol (£5,435) oddi wrth eich incwm trethadwy (£4,500) ac rydych chi'n canfod nad oes angen i chi dalu treth ar eich incwm
  • os ydych chi wedi bod yn talu treth, efallai bod ad-daliad yn ddyledus i chi

Lwfansau a all ostwng eich treth

Cadwch hyn mewn cof - hyd yn oed os ydych chi'n cyfrif fel trethdalwr, efallai eich bod yn gymwys i gael rhai lwfansau 'adhawlio treth' penodol a all ostwng eich bil treth, neu mewn rhai achosion a all olygu nad oes gennych unrhyw beth i'w dalu.

Allweddumynediad llywodraeth y DU