Treth ar incwm yw Treth Incwm. Does dim rhaid talu treth ar bob incwm, a dim ond ar 'incwm trethadwy' uwchben lefel arbennig y cewch eich trethu. Ac wedyn hyd yn oed, mae rhai gostyngiadau a lwfansau ar gael sy'n gallu lleihau eich bil Treth Incwm - ac mewn rhai achosion efallai na fydd gennych unrhyw dreth i'w thalu.
Mae incwm trethadwy'n cynnwys:
Incwm anhrethadwy
Mae rhai mathau o incwm nad ydych byth yn talu treth arnynt. Mae'r rhain yn cynnwys rhai budd-daliadau penodol, incwm o gyfrifon di-dreth, Credyd Treth Gwaith ac enillion bond premiwm. Anwybyddir y ffynonellau hyn o incwm pan gyfrifir faint o Dreth Incwm y bydd yn rhaid i chi ei thalu.
Mae pawb, bron, sy'n byw yn y DU at ddibenion treth yn derbyn 'Lwfans Personol', sef swm o incwm trethadwy y gallwch ei ennill neu ei dderbyn bob blwyddyn yn ddi-dreth.
Yn y flwyddyn dreth gyfredol (2008-2009), y Lwfans Personol sylfaenol - neu'r swm di-dreth - yw £5,435. Efallai bod hawl gennych i lwfans personol uwch os ydych yn 65 oed neu'n hŷn.
Os ydych wedi'ch cofrestru'n ddall, neu yn methu gwneud unrhyw waith y mae gallu gweld yn hanfodol ar ei gyfer, gallwch hefyd hawlio'r Lwfans Person Dall di-dreth.
Dim ond ar yr incwm trethadwy sydd ar ben eich lwfansau di-dreth y mae Treth Incwm yn ddyledus.
Os ydych yn gorfod talu Treth Incwm, mae nifer o lwfansau a gostyngiadau y gellir eu didynnu sy'n gallu lleihau eich bil treth. Maent yn cynnwys y canlynol:
Yn wahanol i lwfansau di-dreth, nid symiau o incwm y gallwch eu derbyn yn ddi-dreth mo'r rhain. Yn hytrach, symiau ydynt sy'n gallu gostwng eich bil treth.
Os ydych chi'n weithiwr neu'n gyfarwyddwr efallai y gallech gael gostyngiad treth ar gostau yr ydych chi wedi eu talu
Os ydych chi'n gweithio ac yn derbyn buddion anariannol gan eich cyflogwr, efallai y bydd rhaid i chi dalu treth arnynt.
Buddion trethadwy
Mae buddion y bydd angen ichi dalu treth arnynt o bosibl yn cynnwys:
Unwaith y bydd eich costau a ganiateir ac unrhyw lwfansau di-dreth wedi'u hystyried, cyfrifir faint o dreth y byddwch yn ei thalu trwy ddefnyddio gwahanol gyfraddau treth a chyfres o fandiau treth.
|
Band Treth Incwm |
Cyfradd Treth Incwm ar incwm nad yw'n dod o gynilion |
Cyfradd Treth Incwm ar gynilion |
Cyfradd Treth Incwm ar ddifidendau |
|---|---|---|---|
|
Cyfradd gychwynnol £1 i 32,320: |
Ddim ar gael |
10% |
amh - gweler y band cyfradd sylfaenol |
|
Cyfradd sylfaenol £1 i 36,000: |
20% |
20% |
10% |
|
Cyfradd uwch £36,001 ac uwch: |
40% |
40% |
32.5% |
Oherwydd bod y gyfradd Treth Incwm y byddwch yn ei thalu ar gynilion yn cael ei chyfrifo ar ôl i unrhyw incwm nad yw'n dod o gynilion gael ei ystyried, os yw'ch incwm nad yw'n dod o gynilion yn llai na'r gyfradd gychwynnol ar gyfer y terfyn cynilo (£2,320) - neu os mai cynilion a buddsoddiadau yw'ch unig ffynhonnell o incwm - trethir eich incwm cynilion ar y gyfradd gychwynnol o 10 y cant hyd at y terfyn.
Ond os oes gennych chi incwm nad yw'n cynnwys cynilion sy'n eich rhoi uwchben y gyfradd gychwynnol yn barod, caiff eich cynilion i gyd eu trethu ar y gyfradd sylfaenol o 20 y cant.
Cofiwch, mae'r band treth yn berthnasol i'ch incwm ar ôl i'ch lwfansau treth ac unrhyw ostyngiadau gael eu hystyried - chewch chi mo'ch trethu ar eich holl incwm. Mae 'incwm nad yw'n dod o gynilion' yn cynnwys incwm o gael eich cyflogi neu fod yn hunangyflogedig, incwm o'r rhan fwyaf o bensiynau ac incwm rhent.
Mae 'difidendau' yn golygu incwm o gyfranddaliadau mewn cwmnïau yn y DU.
Ychwanegir incwm o gynilion a difidendau at weddill eich incwm trethadwy ac fe'i trethir yn olaf. Golyga hyn eich bod yn talu treth ar y mathau hyn o incwm yn ôl eich band Treth Incwm uchaf.
Cesglir Treth Incwm drwy wahanol ffyrdd, yn dibynnu ar fath eich incwm a ph'un ai a ydych yn gyflogedig, yn hunangyflogedig neu'n ddi-waith. Dyma rai o'r ffyrdd y gellir casglu Treth Incwm:
Os ydych chi'n gweithio, bydd eich cyflogwr yn tynnu treth drwy PAYE. Os ydych yn hunangyflogedig, byddwch yn gyfrifol am lenwi ffurflen dreth Hunanasesu a thalu eich treth eich hun.
Mae'n bwysig gwneud yn siŵr eich bod yn talu'r swm cywir o dreth incwm. Gallwch wneud hyn drwy edrych ar:
Os ydych chi'n talu gormod o dreth, gallwch hawlio'r arian hwn yn ôl. Os ydych chi'n credu nad ydych chi'n talu digon, bydd angen i chi gysylltu â ni er mwyn newid eich cod treth.
Yn ogystal â thalu Treth Incwm ar eich cyflog, bydd yn rhaid i chi dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol (YG) hefyd. Mae cyfraniadau Yswiriant Gwladol yn cronni'ch hawl i rai budd-daliadau nawdd cymdeithasol penodol, gan gynnwys Pensiwn y Wladwriaeth. Mae'r nifer o gyfraniadau YG yr ydych yn eu talu'n dibynnu ar faint yr ydych yn ei ennill ac a ydych yn gyflogedig neu'n hunangyflogedig. Byddwch yn rhoi'r gorau i dalu cyfraniadau YG pan gyrhaeddwch oed ymddeol.