Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Sut mae cael gostyngiadau a lwfansau - gweithwyr neu gyfarwyddwyr

Os ydych chi'n weithiwr neu'n gyfarwyddwr, mae nifer o dreuliau y gallech 'ad-hawlio treth' arnynt. Mae'r rhain yn cynnwys cost ffïoedd neu danysgrifiadau proffesiynol, teithiau busnes a chynhaliaeth, cyfarpar a dillad arbenigol. Gallwch ôl-ddyddio'r rhan fwyaf o dreuliau am gyfnod o hyd at chwe blynedd.

Costau a ganiateir

Dim ond ar gyfer treuliau a ganiateir y cewch chi ostyngiad treth. Caniateir treuliau os ydynt yn talu am gost y canlynol:

  • teithio y bu raid i chi ei wneud wrth wneud eich gwaith
  • treuliau eraill y bu raid i chi eu talu wrth wneud eich gwaith - ac a oedd yn berthnasol i wneud eich gwaith yn unig

Ni chewch ofyn am ostyngiad treth os yw'ch cyflogwr eisoes wedi'ch ad-dalu am y gost ac wedi cytuno ar 'ganiatâd arbennig' gyda Chyllid a Thollau EM.

Gallwch gael gwybod rhagor am y mathau o dreuliau y gallwch gael gostyngiad arnynt drwy glicio ar y ddolen isod.

Mae sut byddwch chi'n cael gostyngiad treth ar gyfer y treuliau gwaith a ganiateir yn dibynnu ar p'un ai a ydych yn llenwi ffurflen dreth Hunanasesu ai peidio.

Cael gostyngiad treth ar gyfer treuliau os nad ydych chi'n llenwi ffurflen dreth

Os nad oes rhaid i chi lenwi ffurflen dreth, gallwch gael gostyngiad treth ar gyfer y treuliau a ganiateir drwy:

  • lythyr
  • ffonio
  • llenwi ffurflen P810 Adolygiad Treth
  • llenwi ffurflen P87 Gostyngiad treth ar gyfer treuliau cyflogaeth

Dros y ffôn

Os byddwch chi'n ffonio Cyllid a Thollau EM i ofyn am ostyngiad ar eich treuliau, gallant roi gostyngiad treth i chi os yw'r holl amodau canlynol wedi eu bodloni:

  • mae eich treuliau yn llai na £1,000 - neu £2,500 ar gyfer ffïoedd a thanysgrifiadau proffesiynol
  • rydych wedi eu hawlio mewn blwyddyn dreth flaenorol
  • cafodd eich hawliad blaenorol ei dderbyn

Os ydych chi'n bodloni'r amodau, ac nad ydynt eisoes wedi gyrru ffurflen P87 atoch, byddant yn rhoi gostyngiad treth i chi'n syth ac yn ad-dalu unrhyw dreth a or-dalwyd gennych. Fel arall, bydd rhaid i chi lenwi ffurflen P87 cyn y gallant adael i chi hawlio.

Ffurflen P810

Os nad oes rhaid i chi lenwi ffurflen dreth yn flynyddol, efallai y bydd ar Gyllid a Thollau angen edrych ar eich incwm serch hynny, er mwyn sicrhau nad ydych yn talu gormod o dreth, neu rhag ofn nad ydych yn talu digon. Byddant yn gwneud hyn drwy ofyn i chi lenwi ffurflen P810.

Pan fyddwch yn llenwi ffurflen P810 gallwch ei defnyddio i ofyn am ostyngiad treth ar gyfer eich treuliau a ganiateir. Os yw eich treuliau dros £1,000 bydd gofyn i chi lenwi ffurflen P87 er mwyn rhoi mwy o fanylion amdanynt.

Ffurflen P87

Bydd Cyllid a Thollau EM yn anfon ffurflen P87 atoch os yw unrhyw un o'r canlynol yn berthnasol:

  • rydych chi'n gofyn iddynt anfon ffurflen
  • rydych chi'n hawlio treuliau dros £1,000
  • dyma'r tro cyntaf i chi hawlio
  • rydych chi'n hawlio treuliau am flwyddyn cyn y flwyddyn dreth flaenorol

Mae'r ffurflen yn gofyn am fanylion ynghylch eich treuliau a sut y bu i chi gyfrifo'r swm yr ydych eisiau ei hawlio.

Os oes gennych fwy nag un swydd, neu os byddwch chi'n newid eich swydd yn ystod y flwyddyn dreth, bydd angen i chi lenwi ffurflen P87 arall ar gyfer pob swydd.
Os na fyddwch chi'n llenwi ffurflen P87 ar ôl i un gael ei gyrru atoch, ni fyddant yn gallu gadael i chi hawlio treuliau. Efallai y gallai hyn olygu eich bod yn talu gormod o dreth.

Cael gostyngiad treth ar gyfer treuliau os ydych chi'n llenwi ffurflen dreth

Efallai y bydd rhaid i chi lenwi ffurflen dreth Hunanasesu os yw'r canlynol yn berthnasol:

  • rydych yn talu treth ar gyfradd uwch
  • rydych yn gyfarwyddwr
  • mae gennych incwm arall y mae angen sôn wrth Gyllid a Thollau EM yn ei gylch

Gallwch hawlio gostyngiad treth ar eich treuliau gwaith a ganiateir ar dudalen gyflogaeth y ffurflen dreth.
Os byddwn yn hawlio gostyngiad treth ar eich treuliau a ganiateir ar eich ffurflen dreth, ni fydd angen i chi gwblhau ffurflen P87.

Rhoi gostyngiad treth ar gyfer treuliau

Mae'r ffordd y byddwch yn derbyn y gostyngiad am eich treuliau gwaith yn dibynnu ar y swm y byddwch yn ei hawlio.

Hawliadau hyd at £2,500

Os yw'ch hawliad yn £2,500 neu lai, fel arfer bydd Cyllid a Thollau EM yn rhoi gostyngiad i chi am eich treuliau drwy'ch cod treth yn syth. Os byddwch chi wedi amcangyfrif y swm i'w hawlio, byddant yn ei adolygu ar ddiwedd y flwyddyn, ac yn gwneud unrhyw newidiadau sydd eu hangen yn eich cod treth ar gyfer y flwyddyn dreth nesaf.

Hawliadau dros £2,500

Os byddwch yn hawlio treuliau dros £2,500, byddant yn rhoi gostyngiad i chi yn eich cod treth ar gyfer y flwyddyn gyfredol a'r nesaf - a byddant yn gyrru ffurflen dreth i chi ei llenwi, yn ogystal ag edrych ar eich cyfrifiad treth ar gyfer y flwyddyn flaenorol.

Allweddumynediad llywodraeth y DU