Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Gostyngiad treth ar gyfer cyfarpar neu ddillad arbenigol

Efallai y gallech gael gostyngiad treth os byddwch chi - ac nid eich cyflogwr - yn gwario ar unrhyw gyfarpar neu ddillad arbenigol y mae arnoch eu hangen er mwyn gallu gwneud eich gwaith. Gallwch gael gostyngiad am nifer o flynyddoedd a aeth heibio - os ydych wedi anfon ffurflen dreth Hunanasesu atom yn flaenorol, gall hyn effeithio ar faint o amser sydd gennych.

Pryd allwch chi gael gostyngiad treth ar gyfer cyfarpar a dillad arbenigol?

Fel rheol, all gweithiwr ddim cael gostyngiad treth ar gyfer y dillad y maent yn ei wisgo ar gyfer gwaith - ond mae yna rai eithriadau. Er enghraifft, os ydych chi'n gweithio mewn sector fel y diwydiant adeiladu neu'r diwydiant gwaith metel bydd rhaid i chi wisgo dillad gwarchod, fel:

  • ofyrôls
  • menyg
  • esgidiau cryf
  • helmedau

Os oes rhaid i chi dalu am hyn eich hun ac nad yw'ch cyflogwr yn eich ad-dalu, yna mae gennych hawl i gael gostyngiad treth ar y gost. Gallwch hefyd ddidynnu cost atgyweirio, glanhau ac adnewyddu'r math hwn o ddillad arbenigol o'ch incwm trethadwy.

Rydych hefyd yn gymwys i gael gostyngiad treth os oes rhaid i chi - o'ch poced eich hun - brynu cyfarpar sydd ei angen arnoch er mwyn gallu gwneud eich gwaith. Er enghraifft, os ydych chi'n trin gwallt efallai y bydd eich cyflogwr yn gofyn i chi ddarparu'ch siswrn eich hun.
Mae'r gostyngiad treth hefyd yn berthnasol i gost cynnal a chadw ac adnewyddu'r cyfarpar.

Beth am iwnifform?

Gallwch gael gostyngiad treth ar gost iwnifform:

  • os yw'n iwnifform y gellir ei hadnabod ac sy'n dangos bod gennych fath penodol o swydd - fel iwnifform nyrs neu heddwas
  • os yw'n angenrheidiol gan eich cyflogwr eich bod yn gwisgo'r iwnifform wrth weithio
  • os oes rhaid i chi dalu am yr iwnifform eich hun

Mae'r gostyngiad treth hefyd yn cynnwys cost glanhau, atgyweirio neu adnewyddu'r iwnifform. Efallai y byddwch hefyd yn gymwys i gael gostyngiad treth ar gyfer cost glanhau iwnifform y mae'ch cyflogwr yn ei darparu, os oes rhaid i chi dalu am hyn eich hun.

Treuliau Cyfradd Sefydlog

Os oes rhaid i chi brynu cyfarpar neu ddillad arbenigol ar gyfer eich gwaith gallech fod yn gymwys i gael naill ai:

  • gostyngiad treth ar gyfer y symiau yr ydych yn eu gwario mewn gwirionedd
  • didyniad cyfradd sefydlog

Symiau y mae Cyllid a Thollau EM wedi cytuno arnynt yn genedlaethol - neu'n lleol weithiau os yw'r amodau'n wahanol iawn - gydag undebau llafur, neu gyrff eraill, yw didyniadau cyfradd sefydlog.

Mae'r didyniadau'n talu am faint gaiff ei wario fel arfer bob blwyddyn gan weithwyr mewn gwahanol ddiwydiannau. Er enghraifft, gall rhywun sy'n gweithio yn y diwydiant dillad gael didyniad o £60 y flwyddyn. Gall gwneuthurwr cypyrddau gael didyniad o £140 tra bo'r didyniad ar gyfer saer maen yn £120.

Nid oes rhaid i chi fod yn aelod o undeb llafur er mwyn cael y didyniad. Mantais arall yw y bydd llai o waith papur - fydd dim rhaid i chi gadw cofnod o'r holl symiau unigol a gânt eu gwario gennych.

Sut mae cael gostyngiad treth

I gael gwybod sut gallwch chi gael gostyngiad treth ar gyfer cyfarpar neu ddillad arbenigol, cliciwch ar y ddolen isod 'Sut mae cael gostyngiadau a lwfansau - gweithwyr neu gyfarwyddwyr'.

Os nad ydych chi wedi cwblhau ffurflen dreth mae gennych bum mlynedd o 31 Hydref sy'n dilyn diwedd y flwyddyn dan sylw er mwyn cael y gostyngiad. Os ydych chi eisoes wedi cwblhau ffurflen, mae gennych bum mlynedd o 31 Ionawr yn dilyn diwedd y flwyddyn dan sylw.

Allweddumynediad llywodraeth y DU