Os cewch eich cyflogi'n benodol i weithio o'ch cartref neu yn eich cartref, ac nad oes gennych ddewis arall ond gwneud hynny, efallai y gallech gael gostyngiad treth ar rai o gostau'ch cartref. Gallwch fynd nifer o flynyddoedd yn ôl er mwyn cael y gostyngiad - os ydych wedi anfon ffurflen dreth Hunanasesu atom yn flaenorol, gall hyn effeithio ar faint o amser sydd gennych.
Gallwch gael gostyngiad treth ar y costau ychwanegol y mae'n rhaid i chi eu talu ar eich cartref oherwydd bod rhaid i chi weithio o'ch cartref neu yn eich cartref. Fel arfer mae'r costau ychwanegol hyn yn cynnwys:
Fyddwch chi ddim yn gallu cael gostyngiad ar gostau'r cartref yr ydych yn eu talu beth bynnag - fel eich morgais neu dreth gyngor. Fyddwch chi ddim yn gallu cael gostyngiad ar gyfer costau sy'n cael eu defnyddio ar gyfer y busnes ac i ddibenion preifat chwaith - pethau fel rhentu llinell ffôn, neu ddefnydd o'r Rhyngrwyd.
Faint o ostyngiad allwch chi ei gael
Gallwch gael naill ai:
Y gyfradd ar gyfer 2007-08 a chyn hynny yw £2.00 yr wythnos.
Beth os byddwch chi'n gwirfoddoli i weithio gartref?
Efallai y byddwch yn cynnig gweithio gartref o wirfodd o dan 'drefniant gweithio o gartref'. Cytundeb rhyngoch chi a'ch cyflogwr y byddwch yn gweithio gartref yn rheolaidd yw trefniant gweithio o gartref.
Nid oes rhaid i chi weithio gartref bob dydd ond rhaid cael patrwm rheolaidd - er enghraifft, dau ddiwrnod gartref a thri diwrnod yng ngweithle'ch cyflogwr bob wythnos. Rhaid i'r gwaith a wnewch gartref fod yn waith y mae'n ofynnol i chi ei wneud fel rhan o'ch cyflogaeth.
Os oes gennych chi drefniant felly, gall eich cyflogwr gyfrannu tuag at eich costau wrth weithio gartref - £3.00 yr wythnos (o 2008-09) neu fwy os gallwch ddangos y bu rhaid i chi wario mwy na hynny. Ni fydd rhaid i chi dalu treth na chyfraniadau Yswiriant Gwladol ar y swm. Fodd bynnag, os nad yw'ch cyflogwr yn cyfrannu, allwch chi ddim cael gostyngiad treth ar gyfer eich costau wrth weithio gartref.
Os oes rhaid i chi weithio yn eich cartref neu weithio o gartref, cliciwch ar y ddolen isod 'Sut mae cael gostyngiadau a lwfansau - gweithwyr neu gyfarwyddwyr' er mwyn cael gwybod sut mae cael gostyngiad treth ar gyfer costau'ch cartref.
Os nad ydych chi wedi cwblhau ffurflen dreth mae gennych bum mlynedd o 31 Hydref sy'n dilyn diwedd y flwyddyn dreth dan sylw er mwyn gofyn am ostyngiad treth. Os ydych chi eisoes wedi cwblhau ffurflen, mae gennych bum mlynedd o 31 Ionawr yn dilyn diwedd y flwyddyn dan sylw.