Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Gostyngiad treth ar gyfer teithio a chynhaliaeth

Os yw'n ofynnol i chi deithio ar fusnes fel rhan o'ch swydd efallai y gallech gael gostyngiad treth ar eich costau teithio. Gallwch fynd nifer o flynyddoedd yn ôl er mwyn cael y gostyngiad - os ydych wedi anfon ffurflen dreth Hunanasesu atom yn flaenorol, gall hyn effeithio ar faint o amser sydd gennych.

Gostyngiad treth ar gyfer costau teithio a chynhaliaeth

Os oes rhaid i chi wneud teithiau at ddibenion busnes gallwch ddidynnu'ch costau teithio o'ch incwm trethadwy - felly byddwch yn talu llai o dreth.

Beth yw teithiau busnes

Dim ond ar gost teithiau busnes y gallwch gael gostyngiad treth. Y rhain yw pan fyddwch, fel rhan o'ch swydd:

  • yn gorfod teithio o un gweithle i un arall - mae hyn yn cynnwys teithio rhwng eich prif weithle 'parhaol' a gweithle dros dro
  • yn gorfod teithio i weithle penodol neu oddi yno oherwydd ei bod yn ofynnol i chi wneud hynny oherwydd eich swydd

Ond nid yw teithiau busnes yn cynnwys:

  • cymudo cyffredin - pan fyddwch yn teithio rhwng eich cartref (neu unrhyw le nad yw'n weithle) a lle sy'n cyfrif fel gweithle parhaol
  • teithiau preifat - nad oes ganddynt unrhyw beth i'w wneud â'ch swydd

Os nad ydych yn siŵr os yw lle'r ydych yn teithio iddo yn cyfrif fel gweithle parhaol, gallwch ffonio Cyllid a Thollau EM i gael cyngor.

Costau teithio sy'n gymwys i gael gostyngiad

Gallwch gael gostyngiad treth ar gostau angenrheidiol teithio busnes, fel:

  • costau trafnidiaeth gyhoeddus
  • llety
  • prydau bwyd
  • tollau
  • taliadau tagfeydd
  • ffïoedd parcio
  • costau galwadau ffôn busnes, ffacs neu lungopïo

Ond allwch chi ddim cael gostyngiad treth ar gyfer pethau nad ydynt yn perthyn yn uniongyrchol i'ch taith fusnes - fel eich papur newydd neu alwadau ffôn preifat.

Milltiroedd busnes

Efallai y bydd rhaid i chi ddefnyddio'ch car, eich fan, eich beic modur neu'ch beic eich hun er mwyn gwneud teithiau busnes. Gall eich cyflogwr roi taliadau lwfans milltiroedd i chi ar gyfer eich costau - hyd at uchafswm penodol y filltir - ac nid oes rhaid i chi dalu treth arnynt.

Os nad yw'ch cyflogwr yn talu'r uchafswm i chi, rydych yn gymwys i gael gostyngiad treth ar y gwahaniaeth rhwng:

  • beth mae'ch cyflogwr yn ei dalu i chi am eich teithiau busnes mewn gwirionedd
  • yr uchafswm di-dreth y gallai'ch cyflogwr fod wedi ei dalu i chi am y teithiau hynny

Bydd angen i chi gadw cofnodion manwl o'r milltiroedd busnes y byddwch yn eu teithio a'r taliadau lwfans milltiroedd y mae'ch cyflogwr yn ei roi i chi. Allwch chi ddim cael gostyngiad ar gyfer eich costau os ydynt yn fwy na'r uchafswm a ganiateir i bob milltir.

Sut mae cael gostyngiad treth

I gael gwybod sut gallwch chi gael gostyngiad treth ar gyfer teithio a chynhaliaeth cliciwch ar y ddolen isod 'Sut mae cael gostyngiadau a lwfansau - gweithwyr neu gyfarwyddwyr'.

Os nad ydych chi wedi cwblhau ffurflen dreth mae gennych bum mlynedd o 31 Hydref sy'n dilyn diwedd y flwyddyn dreth dan sylw er mwyn cael y gostyngiad. Os ydych chi eisoes wedi cwblhau ffurflen, mae gennych bum mlynedd o 31 Ionawr yn dilyn diwedd y flwyddyn dan sylw.

Allweddumynediad llywodraeth y DU