Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Lwfans Personol

Mae gan bron bawb sy'n byw yn y DU hawl i Lwfans Personol ar gyfer Treth Incwm. Dyma'r incwm y gallwch ei gael bob blwyddyn heb orfod talu treth arno. Gan ddibynnu ar eich amgylchiadau, efallai y gallech hawlio rhai lwfansau eraill hefyd.

Lefelau'r Lwfans Personol

Mae maint eich lwfans personol yn dibynnu ar:

  • eich oedran
  • cyfanswm eich incwm yn y flwyddyn dreth os ydych yn 65 oed neu'n hŷn

Mae cyfanswm incwm yn cynnwys popeth a gewch o bob ffynhonnell drethadwy. Mae'n rhaid i chi felly gynnwys pethau megis pensiynau a llog ar eich cynilion mewn cymdeithas adeiladu cyn y didynnir y dreth.

Ceir tair lefel o Lwfans Personol

Lwfans Personol

Blwyddyn dreth 2009-2010

Terfyn incwm (gweler y nodyn)

Cyfradd sylfaenol

£6,475

dim

65 -74 Oed

£9,490

£22,900

75 a throsodd

£9,640

£22,900



Os cewch eich pen-blwydd yn 65 neu'n 75 oed yn ystod y flwyddyn hyd at 5 Ebrill 2010, mae gennych hawl i'r lwfans ar gyfer y grŵp oedran hwnnw.

Nodyn: Os yw'ch incwm dros y terfyn incwm, bydd Cyllid a Thollau EM yn lleihau'r lwfans ar sail oed o hanner y swm - £1 am bob £2 - sydd gennych dros y terfyn hwnnw, nes cyrhaeddir y lwfans cyfradd sylfaenol. Byddwch wastad yn cael y lwfans sylfaenol, beth bynnag fo lefel eich incwm.

Felly, er enghraifft, os ydych yn 66 oed a bod gennych incwm o £23,400 - £500 dros y terfyn - byddai Cyllid a Thollau EM yn tynnu £250 o'ch Lwfans Personol ar sail oed i £9,240.

Sut ydych chi'n cael y Lwfans Personol?

Os ydych chi eisoes yn talu treth drwy'ch swydd neu'ch pensiwn, neu os byddwch yn llenwi ffurflen dreth Hunanasesu, dylech gael Lwfans Personol yn awtomatig.

Os nad ydych yn cael Lwfans Personol, am ba reswm bynnag, a'ch bod yn credu y dylech fod yn ei gael, cysylltwch â Chyllid a Thollau EM a byddant yn holi beth y mae gennych hawl iddo.

Er mwyn cael y Lwfans Personol ar sail oed, mae angen i chi lenwi ffurflen 'Ymholiad Pensiwn' P161.

Os ydych yn teimlo eich bod wedi talu gormod o dreth

Os ydych am hawlio ad-daliad treth oherwydd nad ydych wedi defnyddio'ch Lwfans Personol, neu am unrhyw reswm arall, bydd angen i chi wneud hynny erbyn 31 Ionawr cyn pen pum mlynedd i ddiwedd y flwyddyn dreth (5 Ebrill) dan sylw.

Er enghraifft, rhaid cyflwyno hawliad ar gyfer blwyddyn dreth 2003-04 a ddaeth i ben ar 5 Ebrill 2004, erbyn 31 Ionawr 2010.

Pwy na all gael Lwfans Personol?

Allwch chi ddim hawlio'r Lwfans Personol os nad ydych chi'n preswylio yn y DU a'ch bod yn hawlio'r sail 'taliad' arbennig o dreth - hynny yw, pan mai dim ond ar yr incwm y byddwch yn dod ag ef i'r DU y byddwch yn talu treth. Os ydych yn meddwl fod hyn yn berthnasol i chi, cysylltwch â Chyllid a Thollau EM.

Lwfansau eraill y gallech eu cael

Lwfans Person Dall

Os ydych chi'n cael eich cyfrif yn ddall a'ch bod ar gofrestr awdurdod lleol o bobl ddall, neu os ydych chi'n byw yn yr Alban neu yng Ngogledd Iwerddon ac na allwch wneud unrhyw waith lle mae gallu gweld yn hanfodol, gallwch hawlio Lwfans Person Dall.

Os ydych yn briod neu mewn partneriaeth sifil ac yn methu defnyddio'ch lwfans i gyd, gallwch roi'r rhan heb ei defnyddio i'ch cymar neu'ch partner sifil. Hyd yn oed os nad oes gennych incwm trethadwy, efallai ei bod yn dal yn werth hawlio Lwfans Person Dall gan y gallai'ch cymar neu'ch partner sifil gael budd o'ch lwfans.

Lwfans Pâr Priod - ar gael i bartneriaid sifil

Mae angen i chi fod yn drethdalwr i hawlio'r lwfans hwn, oherwydd caiff ei ddidynnu o'ch bil treth, ond mae'n bosib trosglwyddo'r lwfans i'ch cymar neu'ch partner sifil.

Gallwch hawlio Lwfans Pâr Priod:

  • os ydych wedi priodi neu mewn partneriaeth sifil
  • os ydych yn drethdalwr
  • os ydych chi neu'ch cymar neu'ch partner sifil wedi cael eich geni cyn 6 Ebrill 1935

Rhoi i elusen - yr effaith ar eich lwfansau

Os ydych chi'n talu treth ac yn rhoi arian i elusen yn y DU neu i Glwb Chwaraeon Amatur Cymunedol drwy Gymorth Rhodd, mae'n bwysig rhoi gwybod i Gyllid a Thollau EM gan fod hyn yn cynyddu'r incwm di-dreth a'r lwfansau treth perthnasol y gallwch eu cael.

Darparwyd gan HM Revenue and Customs

Allweddumynediad llywodraeth y DU