Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Lwfans Pâr Priod - enghreifftiau ymarferol

Mae'r enghreifftiau hyn yn dangos sut y cyfrifir y Lwfans Pâr Priod ar sail oed gan ddibynnu ar eich oed ac ar faint o incwm trethadwy a gewch. I gael gwybod sut mae'r Lwfans Pâr Priod yn gweithio darllenwch 'Lwfans Pâr Priod - yn cynnwys partneriaethau sifil' - fe welwch y ddolen dan 'Rhagor o wybodaeth' ar waelod y dudalen.

Enghreifftiau o'r effaith a gaiff eich oed ar y Lwfans Pâr Priod

Enghraifft – blwyddyn dreth 2008-09

Rydych yn 77 oed, yn briod, ac mae eich incwm trethadwy yn £18,000:

  • eich incwm trethadwy yw £18,000
  • eich Lwfans Personol di-dreth yw £9,180 (y Lwfans Personol ar sail oed ar gyfer pobl sy'n 75 oed neu'n hŷn)
  • mae Cyllid a Thollau EM yn tynnu'ch lwfans di-dreth (£9,180) o'ch incwm trethadwy (£18,000) - mae hynny'n eich gadael gydag incwm trethadwy o £8,820, ond mae Cyllid a Thollau EM yn defnyddio'ch Lwfans Pâr Priod i leihau'ch bil treth
  • eich Lwfans Pâr Priod yw £662.50 (10 y cant o £6,625 - yr uchafswm ar gyfer pobl dan 75 oed)

Bydd Cyllid a Thollau EM yn lleihau £662.50 ar eich bil treth.

Enghraifft – blwyddyn dreth 2009-10

Rydych yn 77 oed, yn briod, ac mae'ch incwm trethadwy yn £18,000:

  • eich incwm trethadwy yw £18,000
  • eich lwfans di-dreth yw £9,640 (y Lwfans Personol ar sail oed ar gyfer pobl sy'n 75 oed neu'n hŷn)
  • mae Cyllid a Thollau EM yn tynnu'ch lwfans di-dreth (£9,640) o'ch incwm trethadwy (£18,000) - mae hynny'n eich gadael gydag incwm trethadwy o £8,360, ond mae Cyllid a Thollau EM yn defnyddio'ch Lwfans Pâr Priod i leihau'ch bil treth
  • eich Lwfans Pâr Priod yw £696.50 (10 y cant o £6,965 - yr uchafswm ar gyfer pobl sy'n 75 oed neu'n hŷn)

Bydd Cyllid a Thollau EM yn lleihau £696.50 ar eich bil treth.

Enghreifftiau o'r effaith a gaiff eich incwm ar y Lwfans Pâr Priod

Enghraifft – blwyddyn dreth 2008-09

Rydych yn 76 oed, yn briod neu mewn partneriaeth sifil ac mae'ch incwm trethadwy yn £29,400.

Mae Cyllid a Thollau EM yn tynnu'r terfyn incwm (£21,800) o'ch incwm trethadwy (£29,400) - mae hyn yn dangos eich bod £7,600 dros y terfyn.

Byddant yn tynnu hanner y swm hwn (£3,800) o'ch lwfansau, fel hyn:

  • yn gyntaf bydd Cyllid a Thollau EM yn tynnu £3,145 o'ch Lwfans Personol ar sail oed uwch, sy'n £9,180, er mwyn cael isafswm sylfaenol y Lwfans Personol, sef £6,035 - mae hyn yn gadael £655 (£3,800 tynnu £3,145)
  • yna, maent yn tynnu £655 o'r Lwfans Pâr Priod uwch (£6,625) gan ei ostwng i £5,970
  • eich Lwfans Pâr Priod yw £597.00 (10 y cant o £5,970)

Bydd Cyllid a Thollau EM yn lleihau £597 ar eich bil treth.

Enghraifft – blwyddyn dreth 2009-10

Rydych yn 76 oed, yn briod neu mewn partneriaeth sifil ac mae'ch incwm trethadwy yn £29,400.

Mae Cyllid a Thollau EM yn tynnu'r terfyn incwm (£22,900) o'ch incwm trethadwy (£29,400) - mae hyn yn dangos eich bod £6,500 dros y terfyn.

Byddant yn tynnu hanner y swm hwn (£3,250) o'ch lwfansau, fel hyn:

  • yn gyntaf bydd Cyllid a Thollau EM yn tynnu £3,165 o'ch Lwfans Personol ar sail oed uwch, sy'n £9,640, er mwyn cael isafswm sylfaenol y Lwfans Personol, sef £6,475 - mae hyn yn gadael £85 (£3,250 tynnu £3,165)
  • yna, maent yn tynnu £85 o'r Lwfans Pâr Priod uwch (£6,965) gan ei ostwng i £6,880
  • eich Lwfans Pâr Priod yw £688.00 (10 y cant o £6,880)

Bydd Cyllid a Thollau EM yn lleihau £688 ar eich bil treth.

Rhagor o wybodaeth

I gael gwybod sut mae'r Lwfans Pâr Priod yn gweithio darllenwch 'Lwfans Pâr Priod – yn cynnwys partneriaethau sifil'

Allweddumynediad llywodraeth y DU