Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Codau treth brys

Weithiau bydd yn rhaid i'ch cyflogwr neu bwy bynnag sy'n talu'ch pensiwn eich rhoi ar god treth 'brys' neu 'sail arbennig' nes bydd Cyllid a Thollau EM wedi cyfrifo beth ddylai eich cod treth cywir ar gyfer y flwyddyn fod. Mae hyn fel arfer yn digwydd pan na fyddant yn gwybod digon am eich incwm neu'ch manylion treth ar gyfer y flwyddyn dreth lawn.

Beth yw cod treth brys?

Cod y mae eich cyflogwr neu bwy bynnag sy'n talu eich pensiwn yn ei ddefnyddio ar sail arbennig yw cod treth brys nes bydd gan Gyllid a Thollau EM ddigon o wybodaeth am eich incwm i'w galluogi i anfon y cod cywir at eich cyflogwr (ac atoch chi). Fel arfer bydd yn sicrhau eich bod yn cael y Lwfans Personol sylfaenol (ac felly rhywfaint o dâl di-dreth) ond ni fydd yn ystyried unrhyw lwfansau neu ostyngiadau eraill y gallech eu hawlio.

Bydd eich cyflogwr neu bwy bynnag sy'n talu eich pensiwn fel arfer yn parhau i'w ddefnyddio nes bydd Cyllid a Thollau EM yn rhoi gwybod y cod treth cywir iddynt.

Pennir y cod treth brys bob blwyddyn sef rhif ac yna'r llythyren L. Y Lwfans Personol sylfaenol yw'r rhif (£5,435 ar gyfer y flwyddyn dreth 2008-09) wedi'i rannu â 10. Y cod brys ar gyfer 2008-09 felly yw 543L.

Gan ddibynnu ar sut y caiff ei gyfrifo, efallai y gwelwch '543L W1' neu '543L M1' hefyd (sy'n golygu 'Wythnos 1' neu 'Mis 1' - lle byddwch yn cael cyfran o'r Lwfans Personol dros weddill y flwyddyn dreth).

Pryd y gallech gael eich rhoi ar god treth brys

Gallech gael cod treth brys os:

  • ydych wedi dechrau swydd newydd ac nad ydych wedi cael P45 gan eich cyflogwr blaenorol ar gyfer yr un flwyddyn dreth
  • ydych wedi dechrau eich swydd gyntaf ers dechrau'r flwyddyn dreth ac nad ydych wedi cael unrhyw fudd-daliadau gwladol trethadwy neu bensiwn y wladwriaeth neu gwmni
  • ydych wedi dechrau swydd newydd ond eich bod wedi cael swydd arall neu swyddi eraill neu wedi cael budd-daliadau gwladol trethadwy yn ystod y flwyddyn
  • ydych wedi dechrau swydd newydd a'ch bod yn hunangyflogedig cyn hynny
  • yw eich cod treth wedi newid yn ystod y flwyddyn oherwydd, er enghraifft, eich bod wedi dechrau cael buddion cwmni neu Bensiwn y Wladwriaeth

Os cewch eich rhoi ar god treth brys cronnus

Fel arfer cewch eich rhoi ar dreth cod brys cronnus os byddwch wedi dewis Datganiad A ar eich ffurflen P46 - sy'n rhoi gwybod i'ch cyflogwr mai dyma eich swydd gyntaf ers dechrau'r flwyddyn dreth ac nad ydych wedi bod yn cael unrhyw bensiynau trethadwy neu fudd-daliadau gwladol.

Sut y gallai cod treth brys cronnus effeithio ar eich cyflog

Bydd defnyddio'r cod fel hyn yn rhoi Lwfans Personol di-dreth llawn i chi dros weddill y flwyddyn dreth - y rheswm am hyn yw oherwydd gall eich cyflogwr ddwyn unrhyw lwfans di-dreth na ddefnyddiwyd yn ystod y cyfnod cyn i chi ddechrau eich swydd ymlaen. (Gan mai dim ond newydd ddechrau gweithio ydych chi rydym yn cymryd yn ganiataol nad ydych wedi defnyddio dim o'ch Lwfans Personol di-dreth eto).

Dylai eich treth fod yn gywir ar ddiwedd y flwyddyn dreth.

Os cewch eich rhoi ar god treth brys wythnos 1 neu fis 1

Mae'n bosibl y cewch eich rhoi ar god treth brys wythnos 1 neu fis 1 os ydych wedi rhoi Rhan 3 o'ch ffurflen P45 i'ch cyflogwr sy'n dangos cod brys wythnos 1 neu fis 1 a ddefnyddiwyd yn flaenorol neu os gwnaethoch farcio Datganiad B ar eich ffurflen P46 - sy'n rhoi gwybod i'ch cyflogwr eich bod wedi cael swydd arall neu fudd-daliadau gwladol trethadwy yn ystod y flwyddyn - neu os yw eich treth cod wedi'i leihau o swm mawr iawn.

Sut gallai cod brys wythnos 1 neu fis 1 effeithio ar eich cyflog neu'ch pensiwn

Bydd defnyddio'r cod fel hyn yn rhoi gweddill eich Lwfans Personol di-dreth i chi wedi'i ddosbarthu dros weddill y flwyddyn dreth. Bydd Cyllid a Thollau EM yn cymryd yn ganiataol eich bod eisoes wedi cael rhywfaint o incwm di-dreth yn y cyfnod cyn i chi ddechrau eich swydd neu cyn i'ch cod treth newid.

Mae codau brys wythnos 1 neu fis 1 yn trin pob wythnos neu fis ar ei ben ei hun ac yn rhoi swm cyfartal o dâl di-dreth i chi ar bob diwrnod tâl. Gan na allant ystyried newidiadau i'ch incwm neu dreth a allai fod wedi digwydd yn gynharach yn ystod y flwyddyn efallai na fydd eich treth yn hollol gywir ar ddiwedd y flwyddyn.

Sut mae sicrhau eich bod yn cael y cod cywir - a chael ad-daliad treth

Unwaith y bydd gan Gyllid a Thollau EM fanylion am eich incwm blaenorol a'r dreth yr ydych wedi'i thalu dros y flwyddyn dreth, byddant yn anfon cod treth (cywir) llawn at eich cyflogwr (ac atoch chi). Bydd eich cyflogwr yn tynnu'r swm treth cywir yn y dyfodol ac yn ad-dalu unrhyw ordaliad treth. Dyna pam ei bod yn hollbwysig eich bod yn rhoi unrhyw wybodaeth y bydd Cyllid a Thollau EM yn ofyn amdani.

Cael ad-daliad ar ddiwedd y flwyddyn dreth

Os ydych yn credu eich bod wedi talu gormod o dreth gan eich bod wedi cael eich trethu ar god brys dylech hawlio ad-daliad drwy gysylltu â'ch Swyddfa Dreth. Bydd angen i chi ddarparu ffurflen P60.

Allweddumynediad llywodraeth y DU