Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Incwm arall a drethir drwy eich cod treth

Os oes gennych incwm di-dreth, er enghraifft incwm rhent neu gynilion - a'ch bod eisoes yn talu treth drwy'r system PAYE (Talu Wrth Ennill) mae'n bosibl y gallwch ei ychwanegu at eich incwm cyflogaeth neu'ch incwm pensiwn a thalu treth arno drwy eich cod treth. Os bydd Cyllid a Thollau EM yn gwybod eich bod yn cael Pensiwn y Wladwriaeth neu fudd-daliadau gwladol trethadwy byddant yn trefnu i chi dalu treth arnynt fel hyn yn awtomatig.

Beth sy'n cyfrif fel 'incwm arall'?

Mae incwm arall y gallwn ei drethu drwy eich cod treth yn cynnwys:

  • rhywfaint o incwm o eiddo fel incwm rhent
  • llog di-dreth banc neu gymdeithas adeiladu (caiff y 20 y cant cyntaf fel arfer ei dynnu cyn i chi gael y taliad ond bydd yn rhaid i chi dalu 20 y cant ychwanegol os ydych yn talu treth cyfradd uwch)
  • incwm difidend os ydych yn talu treth cyfradd uwch (caiff 10 y cant ei dynnu cyn i chi gael taliad ond bydd yn rhaid i chi dalu 22.5 y cant ychwanegol os ydych yn talu treth cyfradd uwch)
  • incwm o enillion achlysurol, e.e. cildyrnau neu gomisiwn
  • rhywfaint o enillion o hunangyflogaeth

Os oes gennych incwm arall na ddangosir uchod, cysylltwch â'ch Swyddfa Dreth i gael cyngor.

Sut mae Cyllid a Thollau EM yn delio ag incwm arall yn eich cod treth

Bydd Cyllid a Thollau EM yn adio eich holl incwm di-dreth - eich incwm arall fel y'i disgrifir uchod yn ogystal â gwerth unrhyw fuddion cwmni neu fudd-daliadau gwladol yr ydych yn eu cael - ac yn eu tynnu fel 'didyniadau' o gyfanswm gwerth eich lwfansau a'ch gostyngiadau. Y cyfanswm sydd gennych ar ôl yw'r incwm di-dreth yr ydych yn ei gael yn ystod y flwyddyn gyfredol.

Enghraifft

Mae gennych yr hawl i gael y Lwfans Personol sylfaenol o £6,475 (y cyfanswm am y flwyddyn dreth 2009-10) ac mae gennych log cymdeithas adeiladu di-dreth o £500 ac incwm eiddo o £1,500:

  • mae cyfanswm eich lwfansau a'ch gostyngiadau yn £6,475 - eich Lwfans Personol
  • mae cyfanswm eich 'didyniadau' yn £2,000, sef y £500 a'r £1,500
  • mae eich cyfanswm di-dreth yn £4,475, sef £6,475 tynnu £2,000

Felly, mae gennych incwm di-dreth o £4,475. Dangosir hyn yn eich cod treth fel 403L.

Bydd Cyllid a Thollau EM fel arfer yn anfon Hysbysiad Cod PAYE' atoch yn egluro yn union sut y maent wedi delio â'ch incwm di-dreth yn eich cod treth.

Incwm arall - cofnodion ar eich Hysbysiad Cod PAYE

Anfonir eich Hysbysiad Cod PAYE atoch cyn dechrau bob blwyddyn dreth neu os bydd eich cod treth yn newid. Mae’n bosib y caiff ei danfon atoch ar adegau gwahanol os mae rhywbeth wedi newid - er enghraifft, os ydych chi wedi dechrau derbyn incwm newydd neu fudd-dal cwmni newydd, neu os ydy eich hawl i lwfansau ar sail oed neu lwfansau eraill wedi newid. Rhestrir y cofnodion y gallai gynnwys o ran incwm arall i gael ei drethu drwy PAYE isod.

Incwm eiddo

Mae unrhyw incwm rhent (heb gynnwys treuliau) nad ydynt yn cael eu cynnwys o dan y cynllun Rhentu Ystafell yn drethadwy, ond byddwch yn ei gael heb i'r dreth gael ei thynnu felly mae angen iddo ymddangos yma.

Llog heb dynnu treth

Mae amcangyfrif Cyllid a Thollau EM o log di-dreth y maent yn disgwyl i chi ei gael yn ymddangos yma er mwyn sicrhau eich bod yn talu treth ar yr incwm hwn.

Incwm cynilion trethadwy ar 40 y cant

Caiff incwm cynilion ei drethu ar 20 y cant cyn y byddwch yn ei gael a chaiff didyniadau (incwm o gyfranddaliadau) eu trethu ar 10 y cant. Os ydych yn talu trethi ar gyfradd uwch bydd yn rhaid i chi dalu'r gweddill rhwng 20 y cant a 40 y cant ar incwm cynilion, a rhwng 10 y cant a 32.5 y cant ar incwm difidend. Y swm a ddangosir ar yr hysbysiad cod o dan y pennawd hwn sy'n casglu'r gwahaniaeth yn y ddau achos.

Enillion eraill/incwm arall (nad yw'n enillion)

Caiff amcangyfrif Cyllid a Thollau EM o enillion/incwm y maent yn disgwyl i chi eu cael eu cynnwys yma fel bod y swm treth cywir ar yr incwm hwn yn cael ei gasglu.

Comisiwn

Mae amcangyfrif Cyllid a Thollau EM o faint o gomisiwn y byddwch yn ei ennill yn ymddangos yma fel y gallwch dalu treth arno.

Cildyrnau

Mae amcangyfrif Cyllid a Thollau EM o faint o gildyrnau y byddwch yn eu hennill yn ystod y flwyddyn hon yn ymddangos yma er mwyn bod yn ofalus gyda'r dreth sy'n ddyledus.

Cyfyngiadau ar gynnwys incwm arall yn eich cod treth

Os ydych yn weithiwr neu'n cael pensiwn cwmni neu bensiwn personol gallwch gael £2,500 o incwm ychwanegol mewn blwyddyn a pharhau i dalu treth arno drwy eich cod treth. Ar gyfer symiau sy'n fwy na £2,500 bydd yn rhaid i chi gwblhau ffurflen dreth a thalu treth drwy Hunanasesiad.

Os nad ydych am dalu treth ar eich incwm arall drwy eich cod treth gallwch ofyn i ni beidio â chasglu'r arian fel hyn a thalu drwy Hunanasesiad yn lle.

Os bydd eich incwm arall yn newid yn sylweddol

Os bydd newid sylweddol yn eich incwm arall dylech gysylltu â'ch Swyddfa Dreth ar unwaith fel y gallant gyfrifo p'un a oes angen i chi dalu mwy o dreth neu lai. Drwy gysylltu â hwy yn gynnar gallwch osgoi talu gormod o dreth neu fod mewn dyled ar ddiwedd y flwyddyn.

Os bydd amcangyfrif Cyllid a Thollau EM yn anghywir

Os ar ddiwedd y flwyddyn dreth y bydd swm yr incwm arall a gawsoch yn fwy na'r hyn a amcangyfrifwyd, bydd Cyllid a Thollau EM yn gofyn i chi dalu treth ar y gwahaniaeth. Os bydd yn llai, cewch ad-daliad.

Allweddumynediad llywodraeth y DU