Mae'n bosibl na fyddwch yn talu digon o dreth drwy eich cod treth os bydd eich incwm yn cynyddu ac na fyddwch yn rhoi gwybod i Gyllid a Thollau EM am hynny ar unwaith ac felly na fyddant wedi addasu eich cod, neu os yw eich cyflogwr neu bwy bynnag sy'n talu eich pensiwn yn defnyddio'r cod treth anghywir. Y naill ffordd neu'r llall byddwch yn aml yn gallu talu'r 'tandaliad' yn ôl - ar gyfer y flwyddyn dreth gyfredol neu'r rhai blaenorol - drwy addasu eich cod treth.
Efallai na fyddwch wedi talu digon o dreth os:
Mae'n bwysig iawn eich bod yn rhoi gwybod i Gyllid a Thollau EM am unrhyw newidiadau i'ch incwm neu fuddion cwmni cyn gynted â phosibl fel nad ydych yn cael bil mawr ar ddiwedd y flwyddyn dreth.
Os caiff Cyllid a Thollau EM wybod am eich tandaliad yn ystod y flwyddyn
Bydd Cyllid a Thollau EM yn addasu eich cod treth ar gyfer y flwyddyn gyfredol ar unwaith fel na fyddwch yn parhau i beidio â thalu digon o dreth a byddant yn anfon 'Hysbysiad Cod PAYE' atoch a fydd yn rhoi gwybod i chi beth yw'r cod newydd hwn. Bydd hwn yn seiliedig ar y wybodaeth ddiweddaraf sydd gennym a bydd yn sicrhau eich bod yn talu'r swm treth cywir ar gyfer gweddill y flwyddyn. Fodd bynnag, ni fydd yr addasiad hwn yn casglu'r dreth nad ydych wedi'i thalu.
Rhoddir 'amcangyfrif' i chi hefyd o faint o dreth nad ydych wedi'i thalu yn ystod y cyfnod pan oedd eich cod treth yn rhy uchel a byddant yn egluro sut y byddant yn ei chasglu drwy addasu eich cod treth nid eleni, ond y flwyddyn nesaf.
Cofiwch mai dim ond amcangyfrif yw'r swm a ddywedir nad ydych wedi'i dalu - dim ond rhan o'r flwyddyn sydd wedi mynd heibio a gall newidiadau eraill ddigwydd - ac efallai y bydd yn rhaid iddynt ei newid wrth edrych arno eto ar ddiwedd y flwyddyn dreth. Byddwch yn cael Hysbysiad Cod PAYE arall yn rhoi gwybod i chi faint y mae'n rhaid i chi ei ad-dalu.
Oni fydd Cyllid a Thollau EM yn gwybod am eich tandaliad tan ddiwedd y flwyddyn
Yn yr achos hwn byddant yn diwygio eich cod treth ar gyfer y flwyddyn nesaf neu'r flwyddyn ar ôl honno ac yn ysgrifennu atoch yn rhoi gwybod i chi sut y digwyddodd y tandaliad a faint o dreth nad ydych wedi'i thalu. Cyn y bydd yn amser i chi ddechrau talu'r arian sy'n ddyledus gennych yn ôl byddwch yn cael Hysbysiad Cod PAYE newydd - gallwch weld faint sy'n ddyledus gennych o dan y cofnod 'Gostyngiad i gasglu treth nad yw wedi'i thalu'.
Cam un: Defnyddiwch y swm y mae eich lwfansau di-dreth wedi'i leihau gydag ef a lluoswch y ffigur hwn gyda'r gyfradd ganrannol uchaf yr ydych yn talu treth.
Cam dau: Lluoswch y ffigur hwn gyda nifer yr wythnosau o 6 Ebrill tan y dyddiad y gwnaethom newid eich cod treth a'i rannu gyda 52.
Enghraifft
Rydych yn talu treth ar y gyfradd sylfaenol (20 y cant) ac mae eich lwfansau wedi gostwng o £1500 ym mis Tachwedd oherwydd eich bod wedi rhoi gwybod i Gyllid a Thollau EM eich bod wedi dechrau cael budd cwmni.
I gyfrifo eich tandaliad:
Eich tandaliad yw £185 - faint o dreth yr ydych wedi'i dandalu nes i'ch cod treth gael ei newid.
I gyfrifo'r swm y bydd Cyllid a Thollau EM yn lleihau eich lwfansau y flwyddyn nesaf - lluoswch faint yw eich tandaliad gyda 100 a rhannwch y ffigur gyda'r gyfradd dreth uchaf yr ydych yn ei thalu.
Enghraifft
Rydych yn talu cyfradd dreth sylfaenol (20 y cant) ac mae gennych dandaliad o £185 o'r flwyddyn flaenorol.
I gyfrifo'r swm y byddant yn ei ddefnyddio i leihau eich lwfansau, lluoswch £185 gyda 100 ac yna rhannu'r ffigur gydag 20. Bydd y swm ychwanegol y bydd yn rhaid i chi dalu treth ar ei ben yn £925 (mae £925 lluosi gyda 20 y cant yn £185.00 o dreth).
Bydd Cyllid a Thollau EM yn ychwanegu'r swm hwn at unrhyw ddidyniadau eraill y gallech eu cael ac yna'n tynnu'r cyfanswm o'ch lwfansau ar gyfer y flwyddyn dreth nesaf.
Tandaliadau o lai na £2,000
Bydd Cyllid a Thollau EM fel arfer yn rhoi cod treth newydd i chi ac yn gofyn i chi dalu'r dreth sy'n ddyledus gennych yn ôl mewn blwyddyn. Fodd bynnag, pe byddai'n well gennych wneud un cyfandaliad ffoniwch y rhif ar y llythyr a gawsoch neu cysylltwch â'ch Swyddfa Dreth a gofynnwch am slip talu i mewn. Unwaith y byddwch wedi gwneud y taliad byddant yn tynnu'r tandaliad o'ch cod treth.
Os byddwch yn cwblhau ffurflen dreth Hunanasesiad byddant yn casglu eich tandaliadau o lai na £2,000 yn awtomatig drwy eich cod treth oni bai eich bod wedi gofyn iddynt am beidio gwneud hyn ar eich ffurflen dreth. Os wnaethoch ofyn iddynt beidio gwneud hyn byddant yn rhoi'r swm sy'n ddyledus yn ôl yn eich cyfrif Hunanasesiad neu'n gofyn i chi ei dalu fel cyfandaliad.
Oni allwch fforddio talu'r arian sy'n ddyledus gennych ysgrifennwch at y Swyddfa Dreth a ofynnodd i chi am y taliad a dywedwch wrthynt pam. Bydd yn rhaid i chi roi ffigurau bras o'ch incwm, gwariant, cynilion ac asedau eraill. Mae'n bosibl y bydd Cyllid a Thollau EM yn caniatáu i chi ledaenu'r taliadau dros fwy na blwyddyn.
Tandaliadau o £2,000 neu fwy
Ni allwch dalu tandaliadau o £2,000 neu fwy yn ôl drwy eich cod treth. Yn hytrach bydd angen i chi lenwi'r slip talu i mewn a anfonwyd atoch gyda'r llythyr a'i ddychwelyd gyda'ch taliad yn yr amlen a ddarperir. Weithiau gellir trefnu i chi dalu'r dreth yn ôl drwy'r system Hunanasesiad 'taliadau ar gyfrif'.