Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Beth i’w wneud os yw’ch cod treth yn anghywir

Os ydych chi'n meddwl bod eich cod treth yn anghywir, dylech roi gwybod i Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi cyn gynted â phosib er mwyn gwneud yn siŵr eich bod yn talu'r swm cywir o dreth. Os yw'n anghywir efallai y cewch ad-daliad treth, neu efallai y bydd angen i chi dalu mwy o dreth.

Pam mae eich cod treth yn bwysig

Rhoddir eich cod treth gan Gyllid a Thollau EM yn seiliedig ar wybodaeth sydd ganddynt am eich incwm trethadwy ac am eich lwfansau: mae'n dweud wrth eich cyflogwr neu ddarparwr eich pensiwn faint o Dreth Incwm i'w dynnu o'ch cyflog neu'ch pensiwn.

Os yw'ch cod treth yn anghywir

Os yw'ch cod treth yn anghywir, dylech gysylltu â'ch Swyddfa Dreth yn syth er mwyn iddynt ei gywiro. Gallwch ddod o hyd i enw'ch Swyddfa Dreth drwy:

  • edrych ar 'Hysbysiad Cod Talu Wrth Ennill' os oes gennych un - dyma'r hysbysiad sy'n dweud wrthych beth yw eich cod treth; caiff ei anfon atoch ym mis Ionawr neu Chwefror bob blwyddyn ac mae’n bosib y byddant yn ei anfon i chi ar adegau gwahanol – er enghraifft, os ydych wedi dechrau derbyn incwm newydd neu fudd-dal cwmni newydd, neu os mae’ch hawl i lwfansau ar sail oed a lwfansau eraill wedi newid (nid yw pawb yn cael un o'r rhain)
  • holi'ch cyflogwr neu'r person yn eich cwmni sy'n delio gyda'r gyflogres
  • holi eich darparwr pensiwn os ydych yn cael pensiwn drwy'r system Talu Wrth Ennill

Bydd angen i'ch Swyddfa Dreth wybod eich cyfeirnod treth a'ch rhif Yswiriant Gwladol. Chwiliwch am y rhifau hyn ar bapurau swyddogol sy'n ymwneud â threth: er enghraifft, slip talu, Hysbysiad Cod Talu Wrth Ennill, llythyrau gan Gyllid a Thollau EM, neu dystysgrif yn dangos y dreth a dalwyd.

Os na allwch ddod o hyd i unrhyw gofnod o'r rhifau, bydd eich Swyddfa Dreth yn dweud wrthych beth i'w wneud.

Codau treth brys

Pan fyddwch yn cychwyn swydd newydd dylech roi ffurflen P45 i'ch cyflogwr newydd, os oes gennych un o'ch swydd flaenorol. Bydd hon yn dangos:

  • eich cod treth
  • eich enillion blaenorol
  • faint o dreth a dalwyd gennych

Os nad oes gennych ffurflen P45 am ryw reswm, bydd Cyllid a Thollau EM yn dweud wrth eich cyflogwr am ddefnyddio cod 'brys' neu 'sail arbennig' nes byddant wedi canfod beth ddylai'ch cod treth fod.

Tra byddwch ar god brys y Lwfans Personol sylfaenol a gewch - efallai y bydd hyn yn iawn i chi ac efallai ddim, ond bydd y cod treth yn cael ei adolygu a'i newid os bydd angen pan fydd Cyllid a Thollau EM yn gwybod mwy am eich cyflog ac am eich treth yn y gorffennol.

Os ydych chi wedi talu gormod o dreth dan y cod brys, cewch ad-daliad.

Allweddumynediad llywodraeth y DU