Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Deall eich Hysbysiad Cod PAYE

Bydd eich 'Hysbysiad Cod PAYE' yn dweud wrthych beth yw eich cod treth a sut caiff ei gyfrifo. Mae'r cod treth yn dweud wrth eich cyflogwr neu'ch darparwr pensiwn pa incwm di-dreth y mae gennych hawl ei gael (os oes gennych hawl) dros y flwyddyn dreth ac, o ganlyniad, faint o dreth i'w dynnu oddi ar eich incwm cyn eich talu. Talu Wrth Ennill (Pay As You Earn - PAYE) yw'r enw ar y system hon o gasglu treth.

Eich cofnodion Hysbysiad Cod PAYE

Mae dau grŵp allweddol o gofnodion ar eich Hysbysiad Cod PAYE, a gyda'i gilydd byddant yn dylanwadu ar faint o dreth y byddwch yn ei thalu ar eich incwm.

Lwfansau a gostyngiadau – symiau positif

Dangosir y rhain fel symiau positif, ac maent yn cynnwys y canlynol:

  • lwfansau di-dreth (symiau o incwm y cewch eu derbyn yn ddi-dreth: Lwfans Personol a Lwfans Person Dall)

wedi'i adio at

  • lwfansau neu ostyngiadau eraill yn seiliedig ar eich amgylchiadau unigol - bydd hyn yn lleihau eich bil treth os ydych chi'n drethdalwr

Os mai'r rhain yw'r un ig gofnodion ar eich Hysbysiad Cod, cânt eu tynnu o'ch incwm trethadwy (cyflogaeth, pensiwn ac unrhyw enillion/incwm arall) a byddwch yn talu treth ar y gweddill.

Eitemau a all ostwng eich swm di-dreth – symiau negatif

Gallwch hefyd gael symiau negatif yn dangos ar eich Hysbysiad Cod.

Caiff y rhain eu tynnu o'ch lwfansau a'ch gostyngiadau. Gall eitemau sy'n gostwng eich swm di-dreth gynnwys y canlynol:

  • incwm trethadwy/budd-daliadau'r wladwriaeth/pensiwn y wladwriaeth neu bensiwn arall yr ydych yn ei dderbyn eisoes heb dreth wedi'i didynnu
  • buddion cwmni trethadwy yr ydych yn eu derbyn heb dreth wedi'i didynnu
  • treth sy'n ddyledus gennych a heb ei thalu

Dilynwch y ddolen i gael gwybod beth mae'r cofnodion lwfans mwyaf cyffredin yn eu golygu.

Pam y mae itemau sy'n gostwng y swm di-dreth yn cael eu didynnu o'ch lwfansau

Caiff cyfanswm gwerth yr eitemau sy'n lleihau eich swm di-derth ei dynnu o gyfanswm eich lwfansau a'ch gostyngiadau er mwyn cywiro'r balans rhwng y canlynol:

  • faint o incwm y cewch ei dderbyn heb dalu treth
  • beth rydych chi eisoes wedi'i dderbyn neu eisoes yn ei dderbyn heb dreth wedi'i didynnu

Drwy dynnu'r eitemau sy'n lleihau eich swm di-dreth, bydd Cyllid a Thollau EM yn ceisio sicrhau eich bod yn talu'r swm cywir o dreth yn ystod y flwyddyn dreth.

Effaith didyniadau o lwfansau

Ar ôl i'r didyniadau gael eu tynnu o'ch lwfansau, bydd tri posibilrwydd.

Os yw'r eitemau sy'n gostwng eich swm di-dreth yn llai na'ch lwfansau

Yn yr achos hwn, y swm sy'n weddill yw'r incwm y cewch ddal i'w dderbyn yn ddi-dreth yn y flwyddyn dreth hon. Caiff y swm hwn ei dynnu o gyfanswm eich incwm trethadwy a byddwch yn talu treth ar y balans.

Os yw'r eitemau sy'n gostwng eich swm di-dreth yn hafal i'ch lwfansau

Yn yr achos hwn, caiff eich lwfansau eu defnyddio i gyd, a bydd treth yn ddyledus gennych ar y gwahaniaeth rhwng y ddau. Er enghraifft, os yw eich lwfansau'n £6,000 a bod eich didyniadau'n £6,250, bydd treth yn ddyledus gennych ar £250. Caiff y swm hwn ei ychwanegu at gyfanswm eich incwm trethadwy a byddwch yn talu treth ar y cyfanswm yn gymesur dros y flwyddyn. (Bydd Cyllid a Thollau EM yn dynodi bod eich lwfansau wedi'u defnyddio i gyd a bod treth ychwanegol yn ddyledus gennych drwy roi 'cod K' i chi.)

Os yw'r eitemau sy'n gostwng eich swm di-dreth yn fwy na'ch lwfansau

Yn yr achos hwn, caiff eich lwfansau eu defnyddio i gyd, a bydd treth yn ddyledus gennych ar y gwahaniaeth rhwng y ddau. Er enghraifft, os yw eich lwfansau'n £6,000 a bod eich didyniadau'n £6,250, bydd treth yn ddyledus gennych ar £250. Caiff y swm hwn ei ychwanegu at gyfanswm eich incwm trethadwy a byddwch yn talu treth ar y cyfanswm yn gymesur dros y flwyddyn. (Bydd Cyllid a Thollau EM yn dynodi bod eich lwfansau wedi'u defnyddio i gyd a bod treth ychwanegol yn ddyledus gennych drwy roi 'cod K' i chi.

Beth sydd angen i chi ei wneud gyda’ch Hysbysiad Cod PAYE

Mae eich Hysbysiad Cod i chi i gadw. Mae Cyllid a Thollau EM yn rhoi gwybod i’ch cyflogwr neu dalwr pensiwn beth yw eich cod treth – byddant hefyd yn dweud wrth unrhyw asiant sy’n gweithredu ar eich rhan hefyd.

Os yw eich Hysbysiad Cod PAYE yn cynnwys gwybodaeth anghywir

Os ydych chi'n credu bod unrhyw wybodaeth anghywir ar eich Hysbysiad Cod (er enghraifft, am bod eich amgylchiadau neu'ch incwm wedi newid, neu bod Cyllid a Thollau EM wedi gwneud camgymeriad), cysylltwch â'ch Swyddfa Dreth. Os ywr symiau'n anghywir, gallech dalu gormod neu ddim digon o dreth. Gallwch weld manylion cyswllt eich Swyddfa Dreth ar eich Hysbysiad Cod.

Gallwch hefyd chwilio amdanynt ar-lein isod. Os oes unrhyw beth yn anghywir, bydd Cyllid a Thollau EM yn cyflwyno Hysbysiad Cod a chod treth newydd.

Cysylltwch â'ch Swyddfa Dreth os oes angen mwy o eglurhad arnoch am unrhyw un o'r ffigurau ar eich Hysbysiad Cod.

Allweddumynediad llywodraeth y DU