Os ydych chi ar incwm isel a bod gennych gynilion gyda banc neu gymdeithas adeiladu, gallech fod yn talu treth ar log heb fod angen gwneud hynny. Os yw hyn yn wir, gallwch gofrestru er mwyn cael y llog wedi'i dalu'n ddi-dreth. Gallwch hawlio ad-daliad o unrhyw dreth a ordalwyd gennych hefyd.
Mae banciau a chymdeithasau adeiladu fel arfer yn didynnu 20 y cant o dreth o'r llog y byddant yn ei dalu ar y rhan fwyaf o gyfrifon cynilo. Ond os yw cyfanswm eich incwm trethadwy yn llai na'ch Lwfans Personol di-dreth (ac unrhyw Lwfans Person Dall os ydych yn ei dderbyn) yna gallwch:
Mae incwm trethadwy yn cynnwys arian a enillwch wrth weithio. Ond nid yw'n cynnwys arian a gewch gan rai budd-daliadau penodol, a rhai ffynonellau eraill. Eich Lwfans Personol yw'r swm o incwm y gallwch ei gael yn ddi-dreth ac mae'n dibynnu ar eich oed a'ch amgylchiadau.
Os mai dim ond ychydig o Dreth Incwm yr ydych yn ei thalu
Os nad yw'ch incwm trethadwy ond ychydig yn uwch na'ch lwfans (au) di-dreth yna gallai rhywfaint neu'r cyfan o'ch llog cynilion fod yn drethadwy ar 10 y cant - dyma 'gyfradd gychwynnol y terfyn cynilo'.
Os yw hyn yn berthnasol i chi, mae'n debyg y gallwch hawlio rhywfaint o dreth yn ôl os cafodd ei didynnu o'ch llog. Y swm y gallwch ei adhawlio yw'r gwahaniaeth rhwng y dreth a ddidynnwyd a'r swm sy'n ddyledus mewn gwirionedd.
I gofrestru er mwyn cael y llog ar eich cynilion yn ddi-dreth, bydd angen ichi lenwi ffurflen R85 Cael eich llog heb i dreth gael ei thynnu i ffwrdd a'i hanfon i'ch banc neu'ch cymdeithas adeiladu. Mae rhai banciau a chymdeithasau adeiladu hefyd yn gadael i chi gofrestru dros y ffôn.
Bydd angen i chi lenwi ffurflen R85 ar wahân ar gyfer pob banc neu gymdeithas adeiladu lle mae gennych gyfrifon. Os ydych chi'n agor cyfrif newydd bydd angen i chi wneud yn siŵr beth yw eich incwm a'ch lwfansau a llenwi ffurflen newydd.
Os ydych chi dan 16 oed, mae angen i'ch rhiant neu'ch gwarcheidwad gofrestru ar eich rhan.
Os ydych chi wedi troi 16 oed, bydd yn rhaid i chi gwblhau R85 ffres os mae’n briodol i chi barhau i gael eich llog wedi’i dalu heb ddidynnu treth.
Gweld os gallwch gael eich llog yn ddi-dreth
Cewch weld os gallwch gael eich llog yn ddi-dreth drwy lenwi'r tabl yn y daflen gymorth sy'n dod gyda ffurflen R85. Neu gallwch ddefnyddio'r gwiriwr ar-lein syml ar wefan Cyllid a Thollau EM.
Os ydych chi'n credu eich bod wedi talu gormod o dreth ar eich llog, gallwch ei hawlio'n ôl. Er mwyn gwneud hyn bydd angen i chi lenwi ffurflen R40 Ffurflen Ad-dalu Treth. Bydd rhaid i chi wneud hyn ar gyfer pob blwyddyn y credwch y bu i chi dalu gormod o dreth ynddi.
Terfynau amser ar gyfer hawlio treth yn ôl
Os ydych chi wedi talu gormod o dreth, ni chewch hawlio'n hwyrach na 31 Ionawr bum mlynedd ar ôl diwedd y flwyddyn dreth (5 Ebrill) pan wnaethpwyd y gor-daliad. Er enghraifft, rhaid i hawliad ar gyfer y flwyddyn dreth 2002-03 a ddaeth i ben ar 5 Ebrill 2003 gael ei wneud erbyn 31 Ionawr 2009.
Gall eich incwm a'ch lwfansau treth newid o flwyddyn i flwyddyn - ac yn ystod y flwyddyn. Felly efallai y gwelwch fod eich incwm yn cynyddu ac nad yw'ch lwfansau treth bellach yn ddigonol.
Os yw hyn yn digwydd, mae'n bwysig dweud wrth eich banc neu'ch cymdeithas adeiladu'n syth, er mwyn iddynt ddechrau didynnu treth o'ch llog. Fel arall, efallai y bydd gennych fil treth ar ddiwedd y flwyddyn.
Os bydd arnoch angen unrhyw help i gael llog di-dreth gallwch ffonio'r Llinell Gymorth Cynilion ar 0845 980 0645, ar agor rhwng 8.30 am a 5.00 pm o ddydd Llun i ddydd Iau a rhwng 8.30 am a 4.30 pm ar ddydd Gwener.