Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Hawlio Treth Incwm yn ôl ar ran rhywun a fu farw

Os mai chi yw'r cymar neu'r partner sifil gweddw neu os oeddech yn gynrychiolydd personol i rywun sydd wedi marw, efallai y gallech hawlio ad-daliad Treth Incwm ar eu rhan. Mae'r erthygl hon yn egluro pryd y gall ad-daliad treth fod yn ddyledus a sut mae hawlio ad-daliad.

Pryd y gallai ad-daliad treth fod yn ddyledus

Mae'n bosib bod eich cymar, eich partner sifil neu'r sawl yr ydych yn ei gynrychioli, wedi talu gormod o Dreth Incwm yn ystod y flwyddyn dreth y bu farw. Os felly, byddwch chi'n gallu hawlio ad-daliad treth ar ei ran. Gallwch hefyd hawlio ad-daliad os gwnaethant dalu gormod o dreth yn unrhyw un o'r pum blwyddyn dreth flaenorol.

Efallai fod y sawl a fu farw wedi talu gormod o dreth oherwydd:

  • bod ei bensiwn neu ei gyflog wedi dod i ben cyn diwedd y flwyddyn dreth yn sgil ei farwolaeth
  • doedd dim angen iddo dalu treth - ond didynnwyd treth o'r llog a gafodd
  • ei fod wedi talu treth ar 'daliadau ar gyfrif' a oedd yn rhy uchel yn y pen draw
  • bod gormod o dreth wedi'i didynnu o'i bensiwn neu ei gyflog

Terfyn amser ar gyfer hawlio ad-daliad

Gallwch ad-hawlio treth hyd at 31 Ionawr bum mlynedd ar ôl diwedd y flwyddyn dreth (5 Ebrill) pan dalwyd gormod o dreth. Er enghraifft, rhaid cyflwyno hawliad ar gyfer blwyddyn dreth 2003-04 a ddaeth i ben ar 5 Ebrill 2004, erbyn 31 Ionawr 2010.

Sut i hawlio ad-daliad

Gallwch hawlio ad-daliad ar ran rhywun drwy lenwi:

  • ffurflen R27
  • ffurflen R40
  • ffurflen dreth Hunanasesu

Llenwi ffurflen R27

Pan gaiff Cyllid a Thollau EM wybod bod rhywun wedi marw, fel arfer byddant yn anfon ffurflen R27 'Ad-daliad posibl i'r ystad' at y cynrychiolydd personol. Efallai mai cymar neu bartner sifil y sawl a fu farw fydd y cynrychiolydd personol - neu ysgutor a benodwyd gan yr ewyllys.

Os mai chi yw'r cynrychiolydd personol bydd angen i chi lenwi ffurflen R27 er mwyn helpu Cyllid a Thollau EM i roi trefn derfynol ar Dreth Incwm y sawl a fu farw. Yna gall Cyllid a Thollau EM gyfrifo a oes unrhyw ad-daliad treth yn ddyledus.

Mae'n bwysig eich bod yn llofnodi ffurflen R27 eich hun - ni ddylech ofyn i rywun arall wneud hynny drosoch chi. Mae'r ffurflen yn cynnwys hawliad ad-dalu.

Llenwi ffurflen R40

Mae'n bosib y bu'r sawl a fu farw yn defnyddio ffurflen R40 'Ad-daliad Treth' yn rheolaidd er mwyn ad-hawlio treth a ddidynnwyd o'u llog cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu. Os gwnaethon nhw hynny, gallwch ddefnyddio'r ffurflen hon yn syth i hawlio unrhyw ad-daliad sy'n ddyledus ar gyfer y cyfnod hyd at ddyddiad eu marwolaeth. (Bydd yn rhaid i chi lenwi ffurflen R27 hefyd, ond nid tudalen 2, sef yr adran ar incwm a lwfansau).

Mae'n cymryd tipyn o amser i Gyllid a Thollau EM roi trefn derfynol ar dreth y sawl a fu farw, felly gadewch bedair wythnos ar ôl i chi anfon y ffurflen cyn cysylltu â Chyllid a Thollau EM ynghylch yr ad-daliad.

Llenwi ffurflen dreth Hunanasesu

Mae'n bosib bod y sawl a fu farw yn arfer llenwi ffurflen dreth. Gallwch lenwi un ar gyfer y cyfnod o ddechrau'r flwyddyn dreth hyd at ddyddiad eu marwolaeth. Os hoffech lenwi ffurflen dreth, rhowch wybod i Gyllid a Thollau EM ac fe anfonant un atoch.

(Bydd yn rhaid i chi lenwi ffurflen R27 hefyd, ond nid tudalen 2, sef yr adran ar incwm a lwfansau. Mae hyn oherwydd bod angen i Gyllid a Thollau EM eich holi ynghylch pethau - fel y 'cyfnod gweinyddu' - nad ydynt ar y ffurflen dreth.)

Gwybodaeth y bydd ei hangen arnoch er mwyn hawlio ad-daliad

Cyn y gallwch hawlio ad-daliad ar ran rhywun a fu farw, bydd angen i chi gasglu manylion eu hincwm ynghyd. Gallai'r dogfennau canlynol fod o ddefnydd i chi:

  • cyfriflenni pensiwn
  • cyfriflenni llog gan fanciau a chymdeithasau adeiladu
  • talebau difidend

Efallai y bydd angen i chi hefyd gael dogfennu eraill sy'n ymwneud â 'phrofiant' (neu 'gadarnhau' yn yr Alban), sef y system y mae'n rhaid i chi ei dilyn os ydych yn delio ag ystad rhywun a fu farw. Gallwch gael mwy o wybodaeth am hyn a help i benderfynu a yw'n berthnasol i chi drwy ddilyn y ddolen isod.

Sut y byddwch chi'n cael eich ad-daliad

Pan fydd Cyllid a Thollau EM yn talu ad-daliad treth byddant fel arfer yn anfon archeb talu atoch drwy'r post. Ond gallwch ofyn iddynt dalu'r arian yn syth i'ch cyfrif banc neu'ch cyfrif cymdeithas adeiladu yn lle hynny.

Os yw'n well gennych, gallant dalu'r ad-daliad i rywun y byddwch chi'n ei enwebu, naill ai drwy dalu'r ad-daliad iddynt hwy neu'n syth i'w cyfrif banc neu gyfrif cymdeithas adeiladu. Ceir adrannau ar bob ffurflen ar gyfer dweud wrth Gyllid a Thollau EM sut yr hoffech iddynt dalu'r ad-daliad.

Trosglwyddo'r Lwfans Pâr Priod neu'r Lwfans Person Dall

Efallai y bu'ch cymar neu'ch partner sifil yn hawlio Lwfans Pâr Priod neu Lwfans Person Dall. Os nad oedd ganddynt ddigon o incwm yn ystod y flwyddyn y buont farw i ddefnyddio'r lwfans i gyd, gallwch ofyn i Gyllid a Thollau EM drosglwyddo faint bynnag sy'n weddill i chi. Gallwch wneud hyn drwy lenwi ffurflen 575 'Hysbysiad o drosglwyddo lwfansau Treth Incwm nad oes eu hangen'.

Cael rhagor o help a chyngor

Mae Cyllid a Thollau EM yn cydnabod y gall delio â materion treth y sawl a fu farw fod yn anodd i chi - yn enwedig os oedd y golled yn un bersonol i chi.

Gallant gynnig help i chi dros y ffôn drwy'r Llinell Gymorth Hunanasesu ar 0845 900 0444 - ar agor rhwng 8.00 am ac 8.00 pm, saith diwrnod yr wythnos. Neu efallai y gallant drefnu cyfarfod wyneb-yn-wyneb - gallai hyn fod yn eich Swyddfa Dreth leol, neu, yn dibynnu ar eich amgylchiadau, yn eich cartref.

Allweddumynediad llywodraeth y DU