Weithiau pan fyddwch yn gweithio gall ddigwydd eich bod yn talu gormod o Dreth Incwm, yn enwedig os byddwch yn newid swyddi'n aml neu fod gennych fwy nag un swydd ar yr un pryd. Os credwch eich bod wedi talu gormod o dreth gallwch gymryd rhai camau syml er mwyn gwneud cais am ad-daliad.
Efallai y byddwch wedi talu gormod o dreth:
Codau treth a Thalu Wrth Ennill (PAYE)
Cyhoeddir eich cod treth gan eich Swyddfa Dreth a chaiff ei seilio ar wybodaeth sydd ganddynt am eich incwm a'ch hawl i lwfansau. Fe welwch y cod ar eich Hysbysiad Cod PAYE (a anfonir at rai pobl ar ddechrau'r flwyddyn), ar eich P45 neu ar eich slip cyflog. Mae'n dweud wrth eich cyflogwr faint o dreth i'w ddidynnu o'ch cyflog cyn i chi gael eich talu. Gelwir y ffordd hon o dalu treth yn Dalu Wrth Ennill.
Os oes gennych amryw swyddi neu waith a'ch bod yn cael pensiwn, efallai bod gennych fwy nag un cod treth. Mae'n bwysig gwybod beth mae'ch cod treth yn ei olygu fel y gallwch wneud yn siŵr eich bod yn talu'r swm cywir o dreth.
Bydd y modd y byddwch yn adhawlio treth eleni yn dibynnu ar eich amgylchiadau.
Os ydych yn gweithio
Dywedwch wrth Swyddfa Dreth eich cyflogwr pam eich bod yn meddwl eich bod wedi talu gormod o dreth. Efallai y bydd popeth sydd arnynt ei angen i wirio'ch hawliad ganddynt yn barod. Os na, cewch wybod pa ddogfennau i'w hanfon. Efallai y cewch god treth newydd, a bydd unrhyw ad-daliad yn cael ei dalu gyda'ch cyflog.
Os ydych chi wedi dod yn ddi-waith neu wedi ymddeol
Os buoch chi'n gweithio ond eich bod wedi dod yn ddi-waith neu wedi ymddeol yn ddiweddar, gallech hawlio'ch ad-daliad treth.
Ysgrifennwch at eich Swyddfa Dreth gan gynnwys dogfennau perthnasol am eich enillion yn ystod y flwyddyn dreth yr ydych yn hawlio ar ei chyfer, megis:
Byddant yn ymchwilio i'ch ymholiad, yn cyfrifo faint sy'n ddyledus i chi ac yn anfon ad-daliad atoch yn y post.
Os ydych wedi ordalu treth mae’n rhaid i chi ei hawlio yn ôl cyn
31 Ionawr bum mlynedd ar ôl diwedd y flwyddyn dreth (5 Ebrill) pan wnaethpwyd y gor-daliad. Er enghraifft, rhaid i hawliad ar gyfer y flwyddyn dreth 2003-04 a ddaeth i ben ar 5 Ebrill 2004 gael ei wneud erbyn 31 Ionawr 2010.
Os ydych chi'n credu eich bod wedi talu gormod o dreth wrth Hunanasesu, cliciwch ar y ddolen isod er mwyn cael gwybod sut i'w adhawlio.
Os oes ad-daliad treth yn ddyledus i chi bydd Cyllid a Thollau EM yn ei ad-dalu un ai drwy ei roi yn eich cyfrif Hunanasesu er mwyn ei ddefnyddio yn erbyn biliau treth yn y dyfodol, neu drwy drosglwyddiad banc neu drwy siec.