Os ydych chi wedi gwneud camgymeriad, wedi anghofio dweud rhywbeth wrth Gyllid a Thollau EM ar eich ffurflen dreth Hunanasesu neu os ydych chi'n meddwl eich bod wedi talu gormod o dreth, neu heb dalu digon, mae'n hawdd rhoi gwybod i Gyllid a Thollau EM. Os byddant yn cytuno â'ch ffigurau newydd byddant yn gwneud ad-daliad, neu os bydd arnoch dreth ychwanegol o ganlyniad i'r newidiadau, byddant yn dweud wrthych faint sy'n ddyledus.
Newidiadau o fewn 12 mis - Os byddwch yn gwneud camgymeriad ar ffurflen dreth mae gennych 12 mis o 31 Ionawr ar ôl i'r flwyddyn dreth ddod i ben i'w chywiro. Gelwir hyn yn 'ddiwygio'.
Er enghraifft, ar gyfer ffurflen 2007/08 mae gennych hyd 31 Ionawr 2010 i'w diwygio, sef 12 mis ar ôl 31 Ionawr sy'n dilyn diwedd y flwyddyn dreth. Mae'r terfyn amser hwn yn berthnasol os bu i chi ffeilio'ch treth ar-lein neu ar ffurflen bapur.
Os bu i chi ffeilio ar-lein o ffurflen 2007/08 ymlaen, gallwch wneud diwygiad ar-lein hefyd. Cliciwch ar y ddolen isod a dewis 'Hunanasesu'.
Ar gyfer y rhai sy'n ffeilio ar bapur, does dim ffurflen arbennig ar gyfer gwneud diwygiad - yn syml, ysgrifennwch at eich Swyddfa Dreth a rhoi'r manylion (fe fydd y cyfeiriad ar eich ffurflen dreth, eich cyfrifiad treth a'ch Datganiad Hunanasesu).
Dywedwch wrthynt beth yw'r diwygiadau a rhoi'r rhifau tudalennau perthnasol ar y ffurflen, a rhifau'r blychau ar y ffurflen. Efallai y cewch hi'n haws gyrru copi o dudalennau'r ffurflen wreiddiol, gydag unrhyw newidiadau wedi eu dangos yn glir.
Os oes ad-daliad yn ddyledus ichi o ganlyniad i'r diwygiad, dywedwch wrth Gyllid a Thollau EM sut yr hoffech ei dderbyn. Er hwylustod, gallant drefnu i'w ddidynnu o unrhyw dreth sy'n ddyledus ar eich Datganiad Hunanasesu nesaf os yw naill ai'n:
Os dengys eich datganiad nad oes gennych unrhyw dreth i'w thalu, gallwch ofyn iddynt anfon unrhyw ad-daliad (beth bynnag fo'r swm) atoch yn hytrach na'i ad-dalu drwy'ch Datganiad. Gallant wneud yr ad-daliad yn uniongyrchol i'ch cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu - mae hon yn broses gyflym a diogel. Gall Cyllid a Thollau EM yrru siec, ond bydd ychydig mwy o amser cyn iddi'ch cyrraedd.
Os oes arnoch chi fwy o dreth o ganlyniad i'r newidiadau i'ch ffurflen dreth, bydd Cyllid a Thollau EM yn rhoi gwybod i chi faint sydd angen ei dalu, pryd a sut.
Mae rheolau arbennig os ydych yn dymuno dweud wrth Gyllid a Thollau EM am gamgymeriad a/neu hawlio ad-daliad pan fydd hi'n rhy hwyr i wneud diwygiad.
Blynyddoedd pan na wnaethoch lenwi ffurflen dreth
Os credwch eich bod wedi talu gormod o dreth, neu heb dalu digon, mewn blwyddyn pan na chwblhawyd ffurflen dreth gennych, ysgrifennwch at eich Swyddfa Dreth i ddweud pam. Os ydych chi'n credu bod ad-daliad yn ddyledus i chi a'u bod hwythau'n cytuno, yn y rhan fwyaf o achosion gallwch gael ad-daliad dim ond ichi ei hawlio ddim hwyrach na phum mlynedd ar ôl 31 Ionawr yn dilyn y flwyddyn yr ydych yn hawlio ar ei chyfer. Er enghraifft, byddai gennych tan 31 Ionawr 2012 i hawlio am y flwyddyn 2005-06.
Os oes arnoch chi fwy o dreth bydd eich Swyddfa Dreth yn cyfrifo hyn ac yn gofyn i chi dalu. Yn dibynnu ar yr amgylchiadau, efallai y bydd taliadau llog yn berthnasol.
Blynyddoedd pan lenwyd ffurflen dreth gennych
Os llenwyd ffurflen dreth gennych am y flwyddyn yr ydych yn teimlo eich bod wedi talu gormod o dreth ar ei chyfer, neu nad oeddech wedi talu digon, rhaid i chi ysgrifennu atynt a gofyn am gael hawlio 'ad-daliad oherwydd camgymeriad neu wall'. Yn y rhan fwyaf o achosion gallwch wneud hyn hyd at bum mlynedd ar ôl 31 Ionawr yn dilyn y flwyddyn yr ydych yn gwneud yr hawliad ar ei chyfer.
Cadwch mewn cof ei bod yn bosib, yn y ddwy sefyllfa, y byddwn yn archwilio'ch holl faterion treth ar gyfer y flwyddyn honno - nid dim ond yr hyn sydd dan sylw yn yr hawliad.
Telir ad-daliad ar gyfer camgymeriadau blynyddoedd blaenorol drwy siec neu drosglwyddiad i'ch banc, neu fe'i gwneir drwy'ch Datganiad Hunanasesu. Ond efallai y bydd oedi oherwydd byddwn yn cynnal archwiliadau manwl cyn anfon taliadau allan.
Os ydych chi wedi talu gormod o dreth oherwydd camgymeriad a wnaethpwyd gennym ni gallwch gael amser ychwanegol er mwyn hawlio.
Os oes arnoch chi fwy o dreth oherwydd y camgymeriad bydd eich Swyddfa Dreth yn cyfrifo hyn ac yn gofyn i chi dalu. Yn dibynnu ar yr amgylchiadau, efallai y bydd taliadau llog yn berthnasol.
Os byddwch yn talu gormod o dreth bydd llog yn cael ei ychwanegu at eich ad-daliad. Byddwch yn cael llog o ddyddiad talu'r dreth tan ddiwedd y mis pan gyhoeddwyd eich ad-daliad.
Bydd angen i ni archwilio unrhyw hawliad am ad-daliad yn ofalus. Byddwn am sicrhau bod yr hyn yr ydych yn ei ddweud yn awr yn gywir - yn enwedig os ydych yn dweud wrthym fod eich ffurflen yn anghywir. Efallai y gofynnwn am ragor o wybodaeth cyn i ni gytuno i wneud ad-daliad.
Ar eich ffurflen dreth gyfredol, gallwch ddewis sut cewch eich ad-dalu, os oes ad-daliad yn ddyledus.
Gallwch gael yr ad-daliad wedi'i dalu:
Os yw'r ad-daliad o dan £10, bydd yr arian yn cael ei gadw ar eich cyfrif oni bai eich bod yn gofyn iddo gael ei ad-dalu.
Er mwyn cael rhagor o help gallwch gysylltu â'ch Swyddfa Dreth neu ffonio'r llinell gymorth Hunanasesu ar 0845 900 0444, (+44 161 931 9070 os byddwch yn galw o dramor). Mae'r llinell ar agor o 8.00 am tan 8.00 pm bob dydd ac eithrio Dydd Nadolig, Gŵyl San Steffan a Dydd Calan.