Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Adhawlio treth ar incwm blwydd-dal oes a brynwyd

Os ydych chi ar incwm isel a'ch bod wedi prynu buddsoddiad blwydd-dal oes gallech fod yn talu Treth Incwm pan nad oes angen i chi wneud hynny. Os yw hyn yn wir, gallwch gofrestru er mwyn cael y llog yn ddi-dreth. Gallwch hawlio ad-daliad o unrhyw dreth a ordalwyd gennych hefyd.

Treth ac adhawlio treth ar flwydd-daliadau oes a brynwyd

Os ydych chi wedi prynu blwydd-dal oes, bydd 20 y cant o dreth yn cael ei ddidynnu fel mater o drefn o'r elfen incwm y byddwch yn ei dderbyn ohoni. Fodd bynnag, os yw lefel eich incwm yn gyffredinol yn golygu nad ydych yn drethdalwr gallwch wneud cais i gael derbyn incwm blwydd-dal oes a brynwyd yn ddi-dreth.

Er mwyn hawlio bydd angen i chi lenwi ffurflen R89 Cais i dderbyn blwydd-dal heb dynnu treth. Os ydych chi'n dal blwydd-dal oes ar y cyd, mae angen i chi lenwi ffurflen R86 Cais i dderbyn blwydd-dal ar y cyd heb dynnu treth.

Anfonwch y ffurflen at bwy bynnag sy'n talu'ch blwydd-dal. Gallwch lwytho'r ffurflenni isod.

Sut mae hawlio treth yn ôl

Os ydych chi'n credu eich bod wedi talu gormod o dreth ar eich blwydd-dal oes a brynwyd bydd angen i chi lenwi ffurflen R40 Ffurflen Ad-daliad Treth. Bydd rhaid i chi wneud hyn ar gyfer pob blwyddyn y credwch y bu i chi dalu gormod o dreth ynddi.

Terfynau amser ar gyfer hawlio treth yn ôl

Ni chewch hawlio'n hwyrach na 31 Ionawr bum mlynedd ar ôl diwedd y flwyddyn dreth (5 Ebrill) pan wnaethpwyd y gor-daliad. Er enghraifft, rhaid i hawliad ar gyfer y flwyddyn dreth 2003-04 a ddaeth i ben ar 5 Ebrill 2004 gael ei wneud erbyn 31 Ionawr 2010.

Beth i’w wneud os bydd eich amgylchiadau’n newid

Gall eich incwm a'ch lwfansau treth newid o flwyddyn i flwyddyn - ac yn ystod y flwyddyn. Felly efallai y gwelwch fod eich incwm yn cynyddu ac nad yw'ch lwfansau treth bellach yn ddigonol.

Os yw hyn yn digwydd, mae'n bwysig dweud wrth eich darparwr blwydd-dal yn syth, er mwyn iddynt ddechrau tynnu treth o'ch taliadau. Fel arall, efallai y bydd gennych fil treth ar ddiwedd y flwyddyn.

Cael help

Er mwyn cael cymorth wrth adhawlio ar gyfer incwm blwydd-dal oes a brynwyd, gallwch ffonio'r Llinell Gymorth Blwydd-dal Ymddeol ar 0845 366 7868.

Treth ar fathau eraill o flwydd-dal ymddeol

Ers Ebrill 2007 mae pob math arall o flwydd-dal ymddeol (pensiynau personol a ddechreuwyd cyn Gorffennaf 1988) wedi cael eu trethu drwy'r system Talu Wrth Ennill (PAYE) felly dylech fod yn talu'r swm cywir o dreth os oes unrhyw dreth yn ddyledus.

Allweddumynediad llywodraeth y DU