Os byddwch yn talu treth ar bensiwn cwmni, ar bensiwn personol (gan gynnwys blwydd-dal ymddeol) neu ar Bensiwn y Wladwriaeth drwy'r system Talu Wrth Ennill (PAYE - y system a ddefnyddir gan gyflogwyr a darparwyr pensiwn i dynnu treth o'ch cyflog neu o'ch pensiwn) gallech fod yn talu gormod yn ddamweiniol am amryw o resymau. Os ydych chi wedi talu gormod o dreth, gallwch ei hawlio'n ôl.
Dyma resymau cyffredin pam y gallech fod wedi talu gormod:
Os ydych chi'n gyflogedig, neu os ymdrinnir â'ch pensiwn neu â'ch blwydd-dal drwy'r system Talu Wrth Ennill, gallwch edrych ar eich Hysbysiad Cod Talu Wrth Ennill diweddaraf (caiff ei anfon atoch fel arfer ar ddechrau'r flwyddyn dreth a chaiff ei anfon atoch eto os bydd rhywbeth yn newid) i weld faint a pha fath o lwfansau di-dreth a gewch. Byddwch yn talu treth ar unrhyw beth sy'n uwch na'ch lwfansau treth.
Bydd yr Hysbysiad Cod Talu Wrth Ennill yn cadarnhau eich cod treth ac fe ddylai hwn fod yr un fath â'r cod treth a welir ar y slip talu ar gyfer eich gwaith neu'ch pensiwn.
Os oes gennych nifer o bensiynau gwahanol sy'n cael eu trethu drwy'r system Talu Wrth Ennill, neu os ydych yn gweithio ac yn cael un neu ragor o bensiynau, dylech gael mwy nag un Hysbysiad Cod Talu Wrth Ennill - yn yr achos hwn mae'n arbennig o bwysig i chi wneud yn siŵr bod pob un ohonynt yn gywir.
Mewn rhai amgylchiadau, efallai na chewch chi Hysbysiad Cod Talu Wrth Ennill bob blwyddyn - er enghraifft, os byddwch yn ymddeol yn gynnar. Os ydych chi'n bryderus eich bod yn talu gormod o dreth ond nad oes gennych ddogfen i weld a yw hynny'n wir ai peidio, cysylltwch â'ch Swyddfa Dreth.
Darllenwch yr erthyglau isod i gael gwybod mwy.
Os ydych chi newydd ymddeol a ddim yn disgwyl incwm o bensiwn
Os ydych chi newydd ymddeol a ddim yn disgwyl cael unrhyw fath arall o incwm trethadwy (gan gynnwys incwm o bensiwn) yn ystod y flwyddyn dreth, dylech lenwi ffurflen P50, 'Hawlio treth yn ôl pan ydych wedi rhoi'r gorau i weithio' a'i hanfon i'ch Swyddfa Dreth gyda Rhan 2 a Rhan 3 eich ffurflen P45 - ffurflen a gewch gan eich cyflogwr pan fyddwch yn rhoi'r gorau i weithio iddo.
Cadwch ran 1A fel cofnod o'ch incwm. Yna, bydd Cyllid a Thollau EM yn anfon unrhyw ad-daliad sy'n ddyledus i chi drwy'r post.
Os byddwch yn cael pensiwn neu flwydd-dal ymddeol drwy'r system Talu Wrth Ennill
Os ydych chi'n cael incwm pensiwn trethadwy (gan gynnwys blwydd-dal ymddeol) drwy'r system Talu Wrth Ennill a'ch bod yn gweld gwall yn y flwyddyn dreth bresennol, cysylltwch â'ch Swyddfa Dreth. Byddant yn cywiro eich Hysbysiad Cod Talu Wrth Ennill ac yn ei anfon i'ch darparwr pensiwn a fydd yn newid y cod treth er mwyn addasu unrhyw daliadau eraill ar gyfer y flwyddyn honno.
Bydd y gordaliad yn cael ei gywiro'n awtomatig gan eich darparwr pensiwn, a fydd yn ad-dalu'r dreth yn y taliad nesaf. Efallai y byddwch yn talu llai o dreth yn y mis canlynol neu os yw'n swm mawr cewch ad-daliad (R ar eich slip talu).
Gwneud hawliad ar gyfer blynyddoedd treth blaenorol
Os ydych yn hawlio ad-daliad treth a ddidynwyd o'ch enillion neu'ch pensiynau yn ystod blynyddoedd blaenorol, ysgrifennwch at eich Swyddfa Dreth a chynnwys unrhyw ddogfennau perthnasol ynghylch eich enillion/pensiynau yn ystod y flwyddyn dreth yr ydych yn hawlio ar ei chyfer, er enghraifft:
Byddant yn ymchwilio i'ch ymholiad, yn cyfrifo faint sy'n ddyledus i chi ac yn anfon ad-daliad atoch yn y post.
Ers mis Ebrill 2007, mae treth wedi cael ei thynnu ar incwm o flwydd-daliadau ymddeol drwy'r system Talu Wrth Ennill - os ydych chi'n credu eich bod wedi talu gormod gweler yr adran 'Hawlio ad-daliad drwy'r system Talu Wrth Ennill' uchod.
Ond, cyn mis Ebrill 2007 câi blwydd-daliadau ymddeol eu trethu ar 22 y cant, oni bai i chi lenwi ffurflen R89 'Cais i gael blwydd-dal heb dynnu treth' i ofyn yn wahanol (neu ffurflen R86 'Cais i gael blwydd-dal ar y cyd heb dynnu treth' ar gyfer blwydd-dal ar y cyd). Os na wnaethoch lenwi un o'r ffurflenni hyn efallai eich bod wedi talu gormod os nad oeddech yn drethdalwr neu os dim ond 10 y cant y gwnaethoch ei dalu yn y blynyddoedd hynny.
Nid yw ffurflenni R89/R86 yn cael eu defnyddio mwyach (ac eithrio ar gyfer blwydd-daliadau oes a brynwyd), ond os ydych chi wedi talu gormod bydd yn bosib i chi hawlio rhywfaint o dreth yn ôl drwy ddefnyddio ffurflen R40 'Ad-daliad Treth' ar gyfer unrhyw gyfnodau hyd at fis Ebrill 2007 – darllenwch yr adran isod am derfyniadau amser ar gyfer ad-hawlio treth.
Os yw nifer y cyfraniadau yr ydych wedi'u gwneud i gronfa bensiwn yn golygu mai pensiwn bach o ychydig filoedd yn unig gewch chi bob blwyddyn, efallai y byddai'n well gennych ei gael fel un swm mawr (cyfandaliad) yn hytrach nag fel swm bach bob mis. Gelwir hyn yn 'trivial commutation' yn Saesneg. Os ydych chi wedi cael un cyfandaliad neu ragor mae'n bosib bod y dreth a dalasoch ar gyfradd uwch na'r gyfradd yr oeddech i fod i'w thalu dros y flwyddyn dreth.
Os ydych chi'n gwsmer Hunanasesu dylech ddatgan unrhyw gyfandaliadau ar eich ffurflen Hunanasesu. Os oes ad-daliad yn ddyledus i chi, bydd Cyllid a Thollau EM yn ei dalu'n uniongyrchol i'ch cyfrif banc neu'ch cyfrif cymdeithas adeiladu.
Fel arall, os ydych am wneud cais am ad-daliad bydd angen i chi wneud y canlynol:
Bydd Cyllid a Thollau EM yn anfon unrhyw ad-daliad sy'n ddyledus i chi drwy'r post neu'n ei dalu'n uniongyrchol i'ch cyfrif banc neu'ch cyfrif cymdeithas adeiladu.
Gan fod yr ad-daliad hwn yn seiliedig ar ffigurau a amcangyfrifwyd bydd angen eu gwirio ddiwedd y flwyddyn, felly bydd Cyllid a Thollau EM yn anfon ffurflen P53 'Archwiliad diwedd blwyddyn blwydd-dal/pensiwn cyffredin' arall atoch ar ôl 5 Ebrill er mwyn i chi allu rhoi gwybod iddynt beth yw union fanylion eich incwm.
Os ydych chi wedi talu gormod o dreth, rhaid i chi ei hawlio'n ôl cyn 31 Ionawr bum mlynedd ar ôl diwedd y flwyddyn dreth (5 Ebrill) pan wnaethpwyd y gordaliad. Er enghraifft, ar gyfer blwyddyn dreth 2003 a ddaeth i ben ar 5 Ebrill 2004, rhaid i chi hawlio erbyn 31 Ionawr 2010. Darllenwch yr adrannau nesaf i gael gwybod sut mae gwneud hawliad.
Pan fyddwch yn hawlio treth yn ôl (ac eithrio pan fyddwch yn hawlio treth yn ôl drwy ffurflen R40) bydd angen i chi gynnwys unrhyw ddogfennau perthnasol am eich incwm yn ystod y flwyddyn dreth yr ydych yn hawlio ar ei chyfer, megis:
Fel arfer, bydd Cyllid a Thollau EM yn anfon archeb talu i chi drwy'r post ond gallwch ddweud wrthynt am dalu'r ad-daliad yn syth i'ch cyfrif banc neu'ch cyfrif cymdeithas adeiladu. Gallwch hefyd enwebu rhywun arall i gael yr ad-daliad a gellir ei dalu iddynt drwy'r post neu'n syth i'w cyfrif banc neu eu cyfrif cymdeithas adeiladu.
Ceir adrannau yn yr holl ffurflenni perthnasol ar sut yr hoffech i Gyllid a Thollau EM dalu eich ad-daliad treth.
Os oes rhywun wedi'ch penodi chi i reoli eu materion ariannol, neu os ydych yn bartner priod/partner sifil neu'n berthynas i rywun sy'n cael anhawster gwneud hawliad neu sydd wedi marw, efallai y gallwch hawlio treth yn ôl ar eu rhan.
Cysylltwch â'u Swyddfa Dreth arferol hwy neu'r swyddfa Cyllid a Thollau EM sy'n delio gyda hawliadau am ad-daliadau.