Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Rhoi gwybod am newidiadau a allai effeithio ar eich treth

Gall newid yn eich incwm neu'ch amgylchiadau effeithio ar faint o Dreth Incwm y byddwch yn ei thalu. Mae'n bwysig rhoi gwybod i'ch Swyddfa Dreth am unrhyw newidiadau ar unwaith fel y gallant gyfrifo p'un ai a oes angen i chi dalu mwy neu lai o dreth. Drwy gysylltu â'ch Swyddfa Dreth yn gynnar gallwch osgoi talu gormod o dreth neu fod mewn dyled ar ddiwedd y flwyddyn.

Newidiadau y mae'n rhaid i chi roi gwybod i Gyllid a Thollau EM  amdanynt

Bydd angen i chi ddweud wrth y Swyddfa Dreth os byddwch:

  • yn priodi neu'n ffurfio partneriaeth sifil
  • yn dechrau cael ail incwm
  • yn mynd yn hunangyflogedig neu'n peidio â bod yn hunangyflogedig
  • yn dechrau neu'n rhoi'r gorau i gael buddion cwmni - er enghraifft car cwmni neu yswiriant meddygol
  • yn dechrau cael pensiwn cwmni neu bensiwn personol
  • yn dechrau cael Pensiwn y Wladwriaeth neu unrhyw fudd-daliadau trethadwy eraill

Bydd yn rhaid i chi roi gwybod i'r Swyddfa Dreth hefyd os bydd unrhyw incwm arall yr ydych yn ei gael - er enghraifft cynilion neu incwm rhent - yn cynyddu neu'n lleihau.

Gall yr holl bethau hyn a mwy effeithio ar faint o Dreth Incwm y mae'n rhaid i chi ei thalu.

Priodas neu bartneriaeth sifil lle ganed un partner cyn 6 Ebrill 1935

Dywedwch wrth eich Swyddfa Dreth os byddwch yn priodi neu'n ffurfio partneriaeth sifil ac o leiaf un partner wedi'i eni cyn 6 Ebrill 1935 - efallai y byddwch yn gymwys i gael y Lwfans Pâr Priod os ydych yn talu treth.

Os byddwch yn ysgaru neu os diddymir eich partneriaeth sifil neu os byddwch yn gwahanu a chithau'n arfer cael y lwfans pâr priod, ni fyddwch yn gymwys i'w gael mwyach ac felly bydd angen rhoi gwybod i'ch Swyddfa Dreth.

Marwolaeth partner priod neu bartner sifil

Os bydd eich gŵr, gwraig neu bartner sifil yn marw, bydd angen i chi gysylltu â'ch Swyddfa Dreth os yw'r naill neu'r llall o'r canlynol yn berthnasol:

  • rydych yn hawlio Lwfans Pâr Priod
  • mae un ohonoch yn hawlio Lwfans Person Dall a bod rhywfaint neu'r cyfan o hwn wedi'i drosglwyddo i'r partner priod neu bartner sifil arall

Dechrau/rhoi'r gorau i hunangyflogaeth

Mae'n rhaid i chi roi gwybod i Gyllid a Thollau EM eich bod yn hunangyflogedig mor gynted â phosib - hyd yn oed os ydych eisoes yn llenwi ffurflen Hunanasesu bob blwyddyn. Os nad ydych yn rhoi gwybod iddynt mor gynted ag eich bod yn dechrau hunangyflogaeth efallai y bydd rhaid i chi dalu dirwy cosb gychwynnol.

Os byddwch yn rhoi'r gorau i fod yn hunangyflogedig dywedwch wrth eich Swyddfa Dreth cyn gynted â phosib.

Dechrau/rhoi'r gorau i gael buddion cwmni

Os byddwch yn dechrau cael buddion cwmni trethadwy dylech roi gwybod i'ch Swyddfa Dreth ar unwaith fel na fyddwch yn cael bil treth mawr ar ddiwedd y flwyddyn. Does dim rhaid i gyflogwyr ddweud wrth Gyllid a Thollau EM am unrhyw fuddion y byddwch yn eu cael gan y cwmni tan ddiwedd y flwyddyn dreth, heblaw ei fod yn gar cwmni.

Bydd eich Swyddfa Dreth yn addasu eich rhif cod ac yn dechrau casglu rhywfaint neu'r holl dreth ychwanegol yn gynt.

Dylech hefyd ddweud wrth eich Swyddfa Dreth os byddwch yn rhoi'r gorau i gael buddion cwmni trethadwy. Gallant newid eich cod treth a gwneud yn siŵr nad ydych yn talu gormod o dreth.

Dechrau cael Pensiwn y Wladwriaeth

Pan fyddwch yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth, dydych chi ddim yn stopio talu Treth Incwm yn awtomatig ond mae'n bosib y bydd eich bil treth yn lleihau. Bydd angen i chi ddweud wrth eich Swyddfa Dreth - ymlaen llaw os oes modd - pan fyddwch yn ymddeol fel na fyddwch yn talu gormod o dreth.

Bydd Cyllid a Thollau EM yn anfon ffurflen P161 Cod Ar Gyfer Pensiwn i chi lenwi a byddant am gael gwybod:

  • eich dyddiad geni er mwyn iddynt allu rhoi'r lwfansau cywir i chi
  • faint o Bensiwn y Wladwriaeth ydych chi'n ei gael a'r dyddiad y byddwch yn dechrau'i gael
  • cyfanswm disgwyliedig eich incwm am y flwyddyn dreth y byddwch yn cael eich pensiwn am y tro cyntaf

Dechrau/rhoi'r gorau i gael budd-daliadau'r wladwriaeth

Os byddwch yn dechrau cael budd-daliadau'r wladwriaeth neu os byddant yn dod i ben, gallai hynny effeithio ar eich bil treth. Gorau po gyntaf y cysylltwch chi â'ch Swyddfa Dreth, ac wedyn byddant yn gallu addasu eich cod treth cyn gynted ag y bo modd er mwyn sicrhau eich bod bob amser yn talu'r hyn sy'n ddyledus.

Rhoi gwybod am newidiadau i’ch incwm

Pa newidiadau incwm sydd angen i chi roi gwybod yn ei gylch a bydd y modd yr ydych yn rhoi gwybod amdanynt yn dibynnu ar eich amgylchiadau. Cael gwybod beth sydd angen i chi ei wneud i roi gwybod am newid drwy ddilyn y ddolen isod.

Os byddwch yn newid cyfeiriad

Os byddwch yn newid cyfeiriad mae'n bwysig rhoi gwybod i'ch Swyddfa Dreth - hyd yn oed os byddwch yn talu rhywfaint o'ch treth neu'ch treth i gyd drwy'r cynllun Talu Wrth Ennill a'ch bod eisoes wedi dweud wrth eich cyflogwr neu'ch darparwr pensiwn.

Dan y Ddeddf Diogelu Data, ni chânt ddweud wrth Gyllid a Thollau EM beth yw eich cyfeiriad newydd.

A oedd yr wybodaeth hon yn ddefnyddiol?

Pa mor ddefnyddiol oedd yr wybodaeth hon?

Terfyn o 500 nod
Eich preifatrwydd Opens new window

Pam rydyn ni'n gofyn am yr wybodaeth hon?

  • Hoffem gael eich barn ynghylch safon a defnyddioldeb ein tudalennau
  • Bydd eich sylwadau yn ein helpu i wella ein tudalennau
  • Byddant hefyd yn helpu gyda datblygiad Directgov yn y dyfodol
  • Bydd dweud eich barn yn helpu i sicrhau ein bod ni'n rhoi'r gwasanaeth gorau oll i chi

Allweddumynediad llywodraeth y DU