Mae twyll treth yn drosedd ac mae pawb ar eu colled o'i herwydd. Mae'n golygu bod llai i'w wario ar y Gwasanaeth Iechyd, ysgolion, pensiynau a llawer o wasanaethau pwysig eraill. Mae'r llywodraeth yn benderfynol o fynd i'r afael â thwyll treth ac mae llawer o'r gwaith hwn yn dibynnu ar y wybodaeth a dderbynnir gan aelodau'r cyhoedd.
Gyda thwyll treth, does dim digon o dreth yn cael ei thalu gan berson a hynny drwy weithredu mewn modd anonest. Nid yw twyll treth yn ymwneud ag esgeulustod; rhaid iddo fod yn weithred fwriadol. Mae'n cynnwys:
Gall y llywodraeth erlyn pobl sy'n cyflawni twyll treth, yn ogystal ag unrhyw un sy'n eu helpu i wneud hynny.
Mae rhai cyflogwyr yn talu'u gweithwyr trwy 'arian mewn llaw' (heb dynnu treth a chyfraniadau Yswiriant Gwladol o'u cyflogau). Er y gall cyflogwyr leihau eu bil cyflogau trwy wneud hyn, gallwch chi fod ar eich colled fel gweithiwr oherwydd:
Gallwch roi gwybod am y math hwn o dwyll drwy ffonio'r llinell gymorth Gwrth-Dwyll mewn Busnes ar 0800 788 887, ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 8.00 am a 5.00 pm. Dyma wasanaeth cyfrinachol a does dim rhaid i chi roi eich enw.
Mae rhai busnesau'n gweithredu heb hyd yn oed gofrestru gyda Chyllid a Thollau EM ac felly nid ydynt yn talu unrhyw dreth. Mae eraill yn cofrestru, ond dim ond yn datgan ac yn talu treth ar rywfaint o'u hincwm. Maent yn cael eu disgrifio fel bod yn rhan o'r economi gudd. Yn aml, mae busnesau o'r fath yn gofyn ichi dalu iddynt mewn arian parod.
Os ydych chi'n adnabod rhywun sydd heb gofrestru ei fusnes at ddibenion treth, ffoniwch y Llinell Osgoi Treth ar 0800 788 887, sydd ar agor o ddydd Llun tan ddydd Sul rhwng 8.00 am ac 8.00 pm a bydd Cyllid a Thollau EM yn gwneud rhywbeth yn ei gylch. Does dim rhaid i chi roi eich enw a'ch cyfeiriad.
Bydd y wybodaeth i gyd yn cael ei hystyried yn ofalus i benderfynu beth yw'r camau mwyaf priodol. Bydd faint o wybodaeth y gallwch chi ei rhoi o bosib yn effeithio ar beth y gall Cyllid a Thollau EM ei wneud ynghylch y mater, felly, mae'n bwysig rhoi cymaint o fanylion penodol ag y bo modd.
Os yw busnes yn codi TAW arnoch chi, mae'n rhaid ei fod wedi ei gofrestru ar gyfer TAW ac mae'n rhaid iddo roi gwybod i Gyllid a Thollau EM am y TAW a godir ganddo.
Mae rhai busnesau'n osgoi cofrestru ar gyfer TAW yn fwriadol, a thrwy hynny gael mantais annheg dros eu cystadleuwyr. Gall eraill fod yn fusnesau ffug neu gallant ddweud celwydd am y TAW sy'n ddyledus ganddynt.
Efallai y gwyddoch am fusnes nad yw'n datgan yr holl TAW y mae'n ei godi, neu efallai eich bod yn meddwl nad ydynt yn gwneud hynny oherwydd:
Gallwch roi gwybod am hyn drwy ffonio llinell gymorth gyfrinachol yr adran Dollau ar 0800 595 000, ar agor 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos.
Does dim rhaid i chi roi eich enw nac unrhyw fanylion personol.
Os oes bil yn dangos swm ar wahân ar gyfer TAW, rhaid iddo hefyd ddangos rhif cofrestru 9 digid TAW y busnes. I ganfod a yw rhif TAW yn ddilys, gallwch ffonio llinell gymorth Gwasanaeth Cynghori Cenedlaethol Cyllid a Thollau EM ar 0845 010 9000. Mae'r llinellau ar agor rhwng 8.00 am a 8.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Fel dinesydd y DU, mae rheolau a rheoliadau ynghylch beth y gallwch ei gludo i'r wlad, a faint o dreth y mae'n rhaid ichi ei thalu.
Er enghraifft, does dim treth (Toll Gartref) i'w thalu ar unrhyw alcohol neu dybaco y byddwch yn ei gludo i'r DU o Ewrop, dim ond ei fod ar gyfer eich defnydd personol chi.
Os ydych chi'n amau bod manwerthwr, neu unigolyn, yn gwerthu nwyddau a fewnforiwyd ganddynt heb dalu treth, gallwch eu riportio i linell gymorth gyfrinachol yr adran Dollau, 0800 595 000, ar agor 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos.
Does dim rhaid i chi roi eich enw nac unrhyw fanylion personol.