Gall newid yn eich incwm neu amgylchiadau effeithio ar faint o dreth y byddwch yn ei thalu. Mae'n bosibl y bydd yn effeithio hefyd ar unrhyw fudd-daliadau neu gredydau treth gewch chi. Felly, mae'n bwysig rhoi gwybod i'ch Swyddfa Dreth a swyddfeydd perthnasol eraill yn gynnar - er mwyn atal gordaliadau neu dandaliadau y bydd angen eu cywiro'n ddiweddarach.
Gall newid yn eich incwm neu amgylchiadau effeithio ar eich hawl i fudd-daliadau neu gredydau treth. Darllenwch fwy ar y tudalennau isod.
Mae gweddill y dudalen hon yn delio gyda'r broses o roi gwybod am newidiadau sy'n effeithio ar eich treth.
Os ydych yn symud, rhowch wybod i'ch Swyddfa Dreth cyn gynted ag y bo modd. Bydd hyn yn atal colli'r canlynol neu atal y canlynol rhag cyrraedd yn hwyr:
Gallech hefyd osgoi cosbau a gordaliadau awtomatig am anfon eich ffurflen dreth i mewn yn hwyr neu dalu treth yn hwyr oherwydd i'r ffurflenni fynd i'r man anghywir.
Ni fydd eich cyflogwr na'r gyflogres yn rhoi gwybod i Gyllid a Thollau EM eich bod wedi newid cyfeiriad.
Rhowch wybod i'ch Swyddfa Dreth am newidiadau i incwm nad ydynt yn gysylltiedig â PAYE. Er enghraifft, newidiadau i incwm cynilion neu incwm a dderbyniwch y tu allan i'ch swydd neu bensiwn, neu ddechrau cael incwm rhent.
Efallai y bydd eich Swyddfa Dreth yn gofyn i chi:
Os yw eich incwm trethadwy wedi gostwng, efallai y dylech dderbyn ad-daliad.
Os bydd cynnydd yn eich incwm yn golygu bod eich incwm trethadwy yn fwy na'ch lwfans personol (ac unrhyw lwfans person dall y mae gennych hawl iddo), rhaid i chi gysylltu â'ch Swyddfa Dreth leol.
Efallai y bydd angen ichi lenwi ffurflen dreth a thalu unrhyw dreth sy'n ddyledus drwy Hunanasesiad.
Os cewch ostyngiad sylweddol mewn incwm neu os ydych yn disgwyl gostyngiad o'r fath, gallwch roi gwybod i'ch Swyddfa Dreth yn syth; efallai y gallant addasu'ch taliadau ar gyfrif at i lawr i adlewyrchu'r swm diwygiedig.
Rhaid ichi ddweud wrth eich Swyddfa Dreth os ydych yn gwneud unrhyw enillion cyfalaf sy'n fwy na'r lwfans TEC am y flwyddyn dreth gyfredol. Efallai y bydd angen i chi lenwi ffurflen dreth os nad ydych eisoes yn gwneud hynny. Gallai hyn fod yn berthnasol, er enghraifft, os gwerthwch gyfranddaliadau neu ail eiddo.
Rhaid ichi ddweud wrth Gyllid a Thollau EM eich bod yn hunangyflogedig o fewn tri mis i ddechrau neu efallai y bydd yn rhaid ichi dalu cosb o £100.
Os byddwch yn stopio â bod yn hunangyflogedig, cysylltwch â'ch Swyddfa Dreth cyn gynted ag y bo modd i roi gwybod iddynt.
Pan fyddwch yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth, dydych chi ddim yn stopio talu Treth Incwm yn awtomatig ond gall eich bil treth leihau. Bydd angen ichi ddweud wrth eich Swyddfa Dreth - ymlaen llaw os oes modd - pan fyddwch yn ymddeol fel na fyddwch yn talu gormod o dreth. Byddant angen gwybod:
Does dim rhaid i gyflogwr ddweud wrth eich Swyddfa Dreth am unrhyw fuddion y byddwch yn eu cael gan y cwmni tan ddiwedd y flwyddyn dreth, onid yw'n gar cwmni.
Er mwyn osgoi cael bil treth mawr ar ddiwedd y flwyddyn, gallwch ddweud wrth eich Swyddfa Dreth yn syth am unrhyw fuddion eraill y byddwch yn dechrau'u cael (er enghraifft yswiriant meddygol neu gymorthdaliadau benthyca). Gallwch hefyd roi gwybod am newidiadau i fuddion yr ydych eisoes yn eu cael. Bydd eich Swyddfa Dreth yn addasu eich rhif cod ac yn dechrau casglu'r dreth ychwanegol drwy PAYE yn gynt.
Os byddwch yn priodi neu'n ffurfio partneriaeth sifil ac o leiaf un partner wedi'i eni cyn 6 Ebrill 1935, efallai y byddwch yn gymwys i gael y lwfans pâr priod os ydych yn drethdalwr.
Os byddwch yn ysgaru neu os diddymir eich partneriaeth sifil neu os byddwch yn gwahanu a chithau'n derbyn y lwfans pâr priod, ni fyddwch yn gymwys i'w dderbyn mwyach ac felly bydd angen rhoi gwybod i'ch Swyddfa Dreth.
Os bydd eich gur, gwraig neu bartner sifil yn marw, bydd angen i chi gysylltu â'ch Swyddfa Dreth os yw'r naill neu'r llall o'r canlynol yn berthnasol:
Os ydych yn gwybod enw'ch Swyddfa Dreth yn barod, gallwch chwilio amdani ar-lein gan ddefnyddio'r ddolen isod.
Neu gallwch ddod o hyd i fanylion eich Swyddfa Dreth yn eich llyfr ffôn lleol o dan Gyllid a Thollau EM. Bydd y swyddfa a restrir naill ai'n gallu'ch helpu gyda'ch ymholiad neu eich rhoi mewn cysylltiad â'ch Swyddfa Dreth.