Wrth gysylltu â Chyllid a Thollau EM, bydd yn arbed amser ac ymdrech i chi os ydych yn gwybod â phwy i gysylltu. Os byddant yn ysgrifennu atoch, dylech fel arfer ymateb i bwy bynnag a anfonodd y llythyr. Os oes gennych ymholiad mwy cyffredinol, dyma rai ffyrdd o ddod o hyd i'r enw cyswllt iawn.
Cyllid a Thollau EM (HMRC) yw'r adran newydd sy'n gyfrifol am waith yr hen Gyllid y Wlad a Thollau Tramor a Chartref EM. Mae gan Gyllid a Thollau EM wahanol bwyntiau cyswllt, yn dibynnu ar natur eich ymholiad.
Os ydych yn cael problemau neu angen rhagor o gymorth wrth ddefnyddio gwasanaeth ar-lein, cysylltwch ag un o'r desgiau cymorth arbenigol.
Mae gan Gyllid a Thollau EM amrywiaeth eang o linellau cymorth arbenigol.
Dyma rai o'r prif linellau cymorth:
| Llinell gymorth ar gyfer | Rhif | Oriau agor |
|---|---|---|
| Budd-dal Plant |
0845 302 1444 (0845 603 2000 yng Ngogledd Iwerddon) |
rhwng 8.00 am a 8.00 pm saith diwrnod yr wythnos |
|
Swyddfa Cyfraniadau Yswiriant Gwladol |
0845 302 1479 |
rhwng 8.00 am a 8.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener |
| Credyd Treth Gwaith a Chredyd Treth Plant |
0845 300 3900 |
rhwng 8.00 am a 8.00 pm saith diwrnod yr wythnos |
| Hunanasesiad | 0845 900 0444 | rhwng 8.00 am a 8.00 pm saith diwrnod yr wythnos |
| TAW, tollau cartref a thollau tramor | 0845 010 9000 | rhwng 8.00 am a 8.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener |
Os byddwch angen gweld rhywun yn bersonol - er enghraifft os oes gennych anghenion arbennig neu os nad yw un o'n llinellau cymorth wedi llwyddo i ateb eich ymholiad, gallwch ymweld â'ch Canolfan Ymholiadau Cyllid a Thollau EM lleol. Edrych yn eich llyfr ffôn dan 'HM Revenue & Customs' (neu 'Inland Revenue' os yw'n hen lyfr ffôn) neu gael y manylion cyswllt ar-lein.
Mae'r rhan fwyaf o'r Canolfannau ar agor i'r cyhoedd o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 8.30am a 5.00pm, ac mae rhai ar agor yn hwy na hynny.
Os oes angen trafod eich materion treth personol arnoch dylech gysylltu fel arfer â'ch Swyddfa Dreth.
Os yw Cyllid a Thollau EM wedi anfon ffurflen dreth atoch, bydd cyfeiriad a rhif ffôn eich Swyddfa Dreth ar y dudalen flaen neu ar eich Datganiadau o Gyfrif. Mae'n bosib cael manylion cyswllt hefyd gan ddefnyddio arf chwilio ar-lein A-Z Cyllid a Thollau EM neu (os nad ydych yn gwybod enw'ch Swyddfa Dreth) drwy un o'u Canolfannau Ymholiadau.
Os ydych yn weithiwr, neu'n cael pensiwn o ble roeddech yn gweithio, cysylltwch â Swyddfa Dreth eich cyflogwr. Gofynnwch i'ch cyflogwr (neu bwy bynnag sy'n delio gyda'r gyflogres) am fanylion cyswllt, neu edrychwch ar ddogfen dreth megis eich P60. Os na allwch ddod o hyd i’r rhif ffôn, gallwch ddefnyddio’r lleolwr Swyddfa Dreth.
Mae Cyllid a Thollau EM yn cyhoeddi llawer o daflenni 'plain English' sy'n ateb y cwestiynau treth a thollau mwyaf cyffredin. Gallwch lwytho'r rhan fwyaf o'r rhain yn syth oddi ar eu gwefan - ynghyd â'r ffurflenni hawlio mwyaf cyffredin a'r rhan fwyaf o dudalennau a nodiadau cymorth y ffurflen dreth lawn.
Os oes angen llawer o gopïau o ffurflenni arnoch a chithau heb argraffydd, gallwch eu harchebu ar-lein a gofyn am iddynt gael eu postio atoch.
Ffoniwch y llinell gymorth Taxback ar 0845 077 6543 (ar agor rhwng 8.00 am a 10.00 pm saith diwrnod yr wythnos) neu gysylltu â'r Swyddfa Dreth sy'n delio gydag ad-daliadau ar gyfer eich ardal.