Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Sut mae delio â Chyllid a Thollau EM ar ran rhywun arall

Gallwch weithredu ar ran rhywun arall sy'n ei chael hi'n anodd cael trefn ar eu materion eu hunain - efallai oherwydd salwch neu anabledd, neu oherwydd nad ydynt yn siarad Saesneg.

Gwneud galwad ffôn ar ran rhywun arall

Trafod gwybodaeth gyffredinol

Os byddwch yn ffonio Cyllid a Thollau EM ar ran rhywun arall, bydd yr hyn a fydd yn digwydd yn dibynnu ar yr hyn yr ydych am ei drafod. Ni ofynnir i chi ddarparu prawf adnabod os byddwch yn gofyn am ffurflen neu'n gwneud ymholiad cyffredinol. Os bydd angen rhagor o wybodaeth arnoch, bydd angen i chi neu'r sawl yr ydych yn gweithredu ar ei ran gadarnhau ei fanylion adnabod cywir.

Trafod gwybodaeth bersonol

Ar gyfer galwadau eraill, efallai y gall y person yr ydych yn gweithredu ar ei ran roi caniatâd dros y ffôn i chi siarad ar eu rhan. Rhaid i’r ddau ohonoch fod yn bresennol pan wneir yr alwad.

Rhaid i'r person yr ydych yn siarad ag ef/hi fod yn sicr mai'r person sy'n rhoi ei ganiatâd yw'r person hwnnw mewn gwirionedd. Gofynnir cwestiynau iddynt am eu materion treth neu hawliad Budd-dal Plant/credydau treth, ac felly dylai'r holl bapurau perthnasol fod ganddynt.

Efallai y gofynnir ichi roi'ch rhif ffôn er mwyn iddynt allu'ch galw'n ôl. Mae'n well gwneud yr alwad o'r fan lle mae'r person yr ydych yn gweithredu ar ei ran yn byw, rhag ofn iddynt wirio'r rhif a roddwch yn y llyfr ffôn.

Gweithredu ar ran rhywun yn yr hirdymor

Os ydych am weithredu ar ran rhywun yn yr hirdymor bydd angen iddynt neu chi ar eu rhan ysgrifennu i’w Swyddfa Dreth er mwyn esbonio'r sefyllfa. Bydd angen i'r llythyr gynnwys:

  • eu henw a'u cyfeiriad
  • eu rhif cyfeirnod treth neu rif hawliad
  • cadarnhad eu bod am i chi ddelio gyda'u materion
  • eich enw a'ch cyfeiriad
  • llofnod y sawl yr ydych yn gweithredu ar ei ran

Unwaith y bydd yn cael ei gymeradwyo, chi fydd yn derbyn yr holl ohebiaeth oddi wrth Cyllid a Thollau EM yn y dyfodol, ac eithrio llythyrau ar gyfer talu unrhyw dreth sy'n ddyledus ac ad-daliadau. Anfonir y rhain yn syth at y person yr ydych yn ei gynrychioli.

Os nad ydych yn gwybod at ba swyddfa y dylech ysgrifennu ati, defnyddiwch y ddolen isod.

Bod yn benodai ar gyfer rhywun sy'n hawlio credydau treth neu Fudd-dal Plant

Os nad yw person yn gallu gweithredu ar ei ran ef neu hi ei hun ac am eich penodi chi i ddelio gyda'u hawliad am gredydau treth neu Fudd-dal Plant, bydd rhaid iddynt lenwi'r ffurflen penodai sydd ynghlwm wrth eu ffurflen hawlio wreiddiol.

Cymorth sydd ar gael gan Gyllid a Thollau EM

Os oes gennych anabledd

Os ydych yn anabl, mae Cyllid a Thollau EM yn cynnig gwasanaethau i'ch helpu chi ddelio gyda'ch materion treth:

  • rhifau ffôn testun a minicom ar gyfer llinellau cymorth a nifer o Swyddfeydd Treth
  • taflenni braille a sain
  • gohebiaeth mewn braille
  • ymweliadau â'r cartref os nad ydych yn gallu gadael eich cartref

Os nad ydych yn siarad Saesneg

Mae gwybodaeth ar gael hefyd mewn ieithoedd eraill ar gyfer pobl nad ydynt yn siarad Saesneg.

Mae digon o gyfeiriadau at y gwasanaethau hyn fel arfer - os na, bydd eich Swyddfa Dreth leol yn dweud wrthych sut i'w cael. Gyda'r cymorth iawn, efallai na fydd yn rhaid ichi benodi cynrychiolydd.

Mae’r taflenni cymorth canlynol ar gael mewn ieithoedd gwahanol:

Allweddumynediad llywodraeth y DU