Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Apelio yn erbyn penderfyniadau Cyllid a Thollau EM

Os ydych chi'n credu bod penderfyniad neu ddyfarniad o du Cyllid a Thollau EM yn anghywir neu'n afresymol, yn aml mae gennych hawl i apelio neu awdurdodi cynghorydd proffesiynol i apelio ar eich rhan.

Mae'r erthygl hon yn delio gydag apeliadau yn erbyn penderfyniadau a dyfarniadau sy'n ymwneud â threth bersonol, credydau treth a materion eraill yr oedd Cyllid y Wlad yn ymdrin â hwy'n flaenorol. Ar gyfer apeliadau sy'n ymwneud â TAW (treth ar werth), tollau cartref a thollau eraill, dilynwch y ddolen ar y diwedd.

Eich hawl i apelio

Mae'r penderfyniadau y gallwch apelio yn eu herbyn o ran treth a meysydd eraill yn cynnwys:

  • asesiad treth a wnaethpwyd gan Gyllid a Thollau EM
  • newid i'ch ffurflen dreth hunanasesiad gan Gyllid a Thollau EM
  • cosb am beidio ag anfon eich hunanasesiad mewn pryd
  • penderfyniad ynghylch cyfraniadau Yswiriant Gwladol
  • eich rhif cod talu-wrth-ennill (PAYE)
  • penderfyniad ynghylch eich hawl i gredydau treth
  • Tâl Salwch Statudol, Tâl Mamolaeth Statudol neu Dâl Tadolaeth Statudol
  • statws cyflogaeth (er enghraifft, os yw rhywun yn gyflogedig neu'n hunangyflogedig)
  • eich cais am dystysgrif isgontractwr yn cael ei wrthod
  • ad-daliadau benthyciadau myfyrwyr

Bydd y nodiadau a anfonir gyda'r ohebiaeth neu'r hysbysiadau gyda golwg ar yr uchod yn dweud wrthych os oes gennych hawl i apelio, sut i apelio a ble i anfon yr apêl. Mae'r adrannau canlynol yn rhoi syniad o beth sy'n digwydd a phryd.

Sut i apelio

Fel arfer, rhaid ichi apelio ar bapur o fewn 30 diwrnod i dderbyn yr hysbysiad neu'r dyfarniad yr ydych yn anghytuno ag ef. Nodir yr amserlen yn y nodiadau a ddarperir gyda'r hysbysiad. Mae ffurflen apelio'n cael ei chynnwys weithiau. Os nad ydych yn derbyn ffurflen, neu os yw'n well gennych, gallwch apelio mewn llythyr.

Cael rhywun i apelio ar eich rhan

Does dim rhaid i chi apelio'n bersonol. Gall cyfrifydd neu gynghorydd proffesiynol arall apelio ar eich rhan

Asesiadau treth - gohirio talu

Os ydych yn apelio yn erbyn asesiad treth, gallwch wneud cais i ohirio talu rhan neu'r swm cyfan os ydych yn teimlo bod y swm yn ormodol.

Gallwch gael mwy o wybodaeth am sut i apelio yn y daflen a gyhoeddir gan yr Adran Materion Cyfansoddiadol (AMC) 'Apeliadau Treth: Arweiniad i apelio yn erbyn penderfyniadau Cyllid y Wlad ar dreth a materion eraill'.

Setlo apeliadau trwy gytundeb

Mae'r rhan fwyaf o apeliadau'n cael eu setlo drwy ddod i gytundeb gyda Chyllid a Thollau EM. Byddant yn ystyried eich rhesymau dros apelio ac yn cytuno gyda chi ynghylch a ddylid a sut y dylid amrywio unrhyw asesiad, newid, penderfyniad neu

Os nad oes modd setlo'ch apêl trwy gytundeb

Yn yr achos hwn, gwrandewir yr apêl gan dribiwnlys annibynnol.

Comisiynwyr Cyffredinol

Gwrandewir y rhan fwyaf o apeliadau gan y Comisiynwyr Cyffredinol. Tribiwnlysoedd annibynnol lleol o wirfoddolwyr di-dâl ydynt, y bwriedir iddynt gynrychiolir bobl ar amodau yn yr ardal y penodir hwy iddi. Allan nhw ddim dyfarnu costau ond gallant newid penderfyniad os teimlant ei fod yn anghywir.

Comisiynwyr Arbennig

Cyfreithwyr cymwysedig yw'r rhain, a benodir gan yr Arglwydd Ganghellor, sy'n ystyried apeliadau mwy cymhleth. Gallant ddyfarnu costau cyfyngedig os teimlant eich bod chi neu Gyllid a Thollau EM wedi gweithredu'n afresymol. Gallwch ddewis i'r Comisiynwyr Arbennig wrando eich apêl ond dylech wneud hynny fel arfer adeg gwneud eich

Apeliadau credydau treth

Gwrandewir y rhain gan dribiwnlysoedd annibynnol lleol a benodir gan y Gwasanaeth Apeliadau. Maent yn cynnwys tri arbenigwr yn y materion sy'n gysylltiedig â'ch apêl. I gael manylion llawn, darllenwch arweiniad Cyllid a Thollau EM 'Sut i apelio yn erbyn penderfyniad neu ddyfarniad credydau treth'

Sut y rhoddir penderfyniadau'r tribiwnlys

Yn aml, bydd y Comisiynwyr Cyffredinol yn rhoi eu penderfyniad ichi yn y gwrandawiad apelio. Mewn unrhyw achos, cewch wybod trwy lythyr o fewn ychydig ddyddiau.

Mae'r Comisiynwyr Arbennig bob amser yn rhoi eu penderfyniad trwy lythyr gryn amser ar ôl y gwrandawiad apelio.

Gydag apeliadau credydau treth, bydd y Gwasanaeth Apeliadau'n rhoi neu'n anfon copi o benderfyniad y Tribiwnlys Apeliadau atoch cyn gynted ag y bo modd ar ôl y gwrandawiad.

Os collwch chi'r apêl

Os aiff penderfyniad y Comisiynwyr yn eich erbyn, gallwch, mewn rhai amgylchiadau, apelio yn erbyn eu penderfyniad i'r Uchel Lys (yn yr Alban i Lys y Sesiwn neu yng Ngogledd Iwerddon i Lys Apêl Gogledd Iwerddon).

Os bydd y Tribiwnlys Apeliadau'n penderfynu yn erbyn eich apêl credydau treth, gallwch apelio i'r Comisiynwyr Nawdd Cymdeithasol. I gael manylion llawn, darllenwch arweiniad Cyllid a Thollau EM 'Sut i apelio yn erbyn penderfyniad neu ddyfarniad credydau treth'.

Cymorth gyda chostau apelio

I gael gwybod a oes modd cael cymorth cyfreithiol i helpu gyda chostau apelio, cysylltwch â gwasanaeth cyfeiriadur y Gwasanaeth Cyfreithiol Cymunedol ar 0845 608 1122 (minicom 0845 609 6677). Mae'r llinellau ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9.00 am a 5.30 pm.

Eich opsiynau pan nad oes hawl apelio

Pan nad oes hawl apelio, eich unig opsiwn yw gwneud cais am Adolygiad Barnwrol. Gallai hyn fod yn ddrud iawn, felly ceisiwch gyngor cyfreithiol i ddechrau.

Neu gallwch ysgrifennu at Gyllid a Thollau EM. Os nad ydych yn fodlon gyda'u hymateb, gallwch fynd â'r mater at y Dyfarnwr sef canolwr teg a diduedd y mae ei argymhellion yn annibynnol.

Apeliadau yn ymwneud â TAW, tollau cartref a thollau eraill

I gael gwybodaeth am sut i apelio yn erbyn penderfyniad yn ymwneud â TAW, tollau cartref a thollau eraill, neu i ofyn am ailystyried penderfyniad, ewch i wefan Cyllid a Thollau EM

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU