Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Sut mae cwyno wrth Gyllid a Thollau EM

Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd eich ymwneud â Chyllid a Thollau EM yn syml ac ni ddylai achosi unrhyw anawsterau nac anghyfleustra. Fodd bynnag, gall camgymeriadau ac oedi ddigwydd, neu efallai y byddwch yn anhapus gyda'r ffordd yr ymdriniwyd â'ch achos. Beth bynnag y bo'r broblem, mae gennych hawl i gwyno am wasanaeth gwael.

Sut mae cwyno

Beth bynnag y bo natur eich cyswllt â Chyllid a Thollau EM, os ydych wedi cael profiad gwael, gorau po gyntaf ichi roi gwybod iddynt am hynny er mwyn iddynt allu gwneud rhywbeth amdano. Pa un a yw eich cwyn yn ymwneud ag oedi afresymol, camgymeriad y gellid bod wedi'i osgoi yn eich barn chi, neu sut y cawsoch eich trin, mae Cyllid a Thollau EM yn awyddus i ddysgu o gamgymeriadau ac unioni pethau cyn gynted ag y bo modd.

Sut mae cwyno

Beth bynnag y bo natur eich cyswllt â Chyllid a Thollau EM, os ydych wedi cael profiad gwael, gorau po gyntaf ichi roi gwybod iddynt am hynny er mwyn iddynt allu gwneud rhywbeth amdano. Pa un a yw eich cwyn yn ymwneud ag oedi afresymol, camgymeriad y gellid bod wedi'i osgoi yn eich barn chi, neu sut y cawsoch eich trin, mae Cyllid a Thollau EM yn awyddus i ddysgu o gamgymeriadau ac unioni pethau cyn gynted ag y bo modd.

Y drefn gwyno

Cysylltu â'r Rheolwr Cwynion neu Gysylltiadau Cwsmeriaid

Ysgrifennwch at, neu gofynnwch am gael siarad â'r Rheolwr Cwynion neu Gysylltiadau Cwsmeriaid ar gyfer y swyddfa neu borthladd/maes awyr dan sylw. Gallwch gwyno drwy lythyr, dros y ffôn, ffacs neu'n bersonol drwy ymweld ag unrhyw Swyddfa Dreth leol. Dywedwch wrthynt eich bod yn anhapus ac am gwyno. Os ydych yn ysgrifennu, rhowch y gair 'Cwyn' ar ben eich llythyr neu ffacs.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn darparu, neu'n fodlon rhoi:

  • eich enw a'ch cyfeiriad llawn
  • eich rhif Yswiriant Gwladol
  • y rhif cyfeirnod diwethaf a ddefnyddiodd Cyllid a Thollau EM wrth gysylltu â chi
  • rhif ffôn cyswllt neu gyfeiriad e-bost

Crynhowch yr hyn a aeth o'i le yn eich barn chi a beth y dylai Cyllid a Thollau EM ei wneud i unioni'r sefyllfa. Byddant yn edrych ar eich pryderon ac yn cysylltu â chi cyn gynted â phosibl - fel arfer o fewn 15 diwrnod. Byddent yn disgwyl datrys y rhan fwyaf o gwynion ar y cam hwn.

Cysylltu â'r cyfarwyddwr sy'n bennaf gyfrifol

Os ydych yn anhapus â'r ymateb a gewch, gallwch ofyn i Gyllid a Thollau EM ymchwilio i'ch cwyn eto. Bydd uwch swyddog nad yw wedi bod yn gysylltiedig â'ch cwyn yn:

  • edrych arni o'r newydd, a gweld sut yr ymdriniwyd â hi
  • rhoi penderfyniad terfynol i chi

Os ydych yn dal yn anhapus gallwch ofyn i'r Dyfarnwr ymchwilio i'ch cwyn.

Dyfarnwr

Mae'r Dyfarnwr yn ganolwr teg a diduedd, yn annibynnol ar Gyllid a Thollau EM, ac yn darparu ei wasanaeth am ddim.

Swyddfa'r Dyfarnwr

Haymarket House

28 Haymarket

Rhif Ffôn: 020 7930 2292 (cyfleusterau Typetalk ar gael)

Ffacs: 020 7930 2298

Ombwdsmon

Os nad ydych yn hapus gyda'r ffordd y deliodd Cyllid a Thollau EM a'r Dyfarnwr gyda'ch cwyn, gallwch ofyn i unrhyw AS gyfeirio'ch achos at yr Ombwdsmon Seneddol.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch ar wefan Gwasanaeth yr Ombwdsmon Seneddol neu ffoniwch linell gymorth yr Ombwdsmon Seneddol a Gwasanaeth Iechyd ar 0845 015 4033. Mae'r llinellau ar agor rhwng 9.00 am a 5.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener. Hefyd gallwch ffacsio'r swyddfa ar 020 7217 4160 neu e-bostio opca-enqu@ombudsman.org.uk

Gallwch hefyd ofyn i'ch AS godi'ch achos gyda Gweinidogion y Trysorlys neu Gyllid a Thollau EM.

Beth i’w ddisgwyl pan fyddwch chi'n cwyno

Mae Cyllid a Thollau EM yn awyddus i'ch helpu os ydych am gwyno a byddant yn eich trin mewn modd cyfeillgar a phroffesiynol. Byddant yn:

  • dweud wrthych eu bod wedi derbyn eich cwyn, rhoi enw'r sawl sy'n delio gyda'ch cwyn a gadael ichi wybod pryd i ddisgwyl ateb
  • trin eich cwyn o ddifrif a'i chadw'n gyfrinachol
  • ni fyddant yn eich trin chi'n wahanol i bobl eraill am eich bod wedi cwyno
  • peidio â gwahaniaethu yn eich erbyn am unrhyw reswm

Hawlio costau yn ôl

Efallai y gallwch hawlio costau rhesymol yn ôl, costau yr ydych wedi gorfod eu talu o ganlyniad uniongyrchol i gamgymeriadau neu oedi gan Gyllid a Thollau EM, megis:

  • postio
  • galwadau ffôn
  • costau teithio
  • ffioedd proffesiynol
  • taliadau ariannol

Os yw camgymeriadau neu oedi o du Cyllid a Thollau EM wedi peri llawer o boendod neu drallod ichi, efallai y gallant roi tâl bachan yn gydnabyddiaeth ac i ymddiheuro am hyn. Gallant hefyd wneud taliad ychwanegol os ymdriniwyd â'ch cwyn mewn ffordd annerbyniol neu os cymerwyd amser afresymol o hir i ddelio â'r mater.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU