Pan fydd Cyllid a Thollau EM (HMRC) yn cychwyn ymchwiliad, nid yw'n golygu eu bod yn meddwl eich bod wedi gwneud rhywbeth o'i le. Maent yn archwilio cyfran o ffurflenni treth yn rheolaidd i sicrhau eu bod yn gywir ac weithiau bydd angen mwy o wybodaeth arnynt er mwyn deall y ffigurau. Maent hefyd yn dewis ffurflenni treth ar hap i'w harchwilio i sicrhau bod y system yn gweithredu mewn modd teg.
Bydd Cyllid a Thollau EM yn dweud wrthych (a'ch cynghorydd proffesiynol os oes un gennych) trwy lythyr:
Gellwch ddewis cael cynrychiolaeth broffesiynol unrhyw adeg yn ystod yr ymchwiliad. Y cyfan y bydd angen i chi ei wneud fydd llenwi a dychwelyd ffurflen 64-8 i gadarnhau bod gan eich cynghorydd hawl i siarad gyda Chyllid a Thollau EM am eich materion treth.
Gellwch archebu ffurflen hefyd trwy ffonio 08459 000 404 (neu drwy ffacsio 08459 000 604). Mae'r llinellau ar agor saith diwrnod yr wythnos rhwng 8.00 am a 10.00 pm.
Hyd yn oed os oes gennych gynghorydd proffesiynol, cofiwch mai chi sy'n bersonol gyfrifol am eich materion treth eich hun a chywirdeb yr holl wybodaeth a roddir i Gyllid a Thollau EM.
Bydd y wybodaeth y bydd angen i chi ei darparu yn dibynnu ar natur yr ymchwiliad, ond dylech chi (neu eich cynghorydd ariannol) allu darparu unrhyw wybodaeth y seiliwyd eich ffurflen dreth arni yn gyflym ac yn rhwydd.
Fel arfer cewch 30 diwrnod i ddarparu unrhyw wybodaeth, ond gall Cyllid a Thramor EM roi mwy o amser i chi os yw'n ymddangos yn rhesymol.
Mewn ambell i achos, gall Cyllid a Thollau EM benderfynu cynnal ymchwiliad llawn i bob rhan o'ch materion treth. Mae'r ymchwiliadau llawnach hyn yn cynnwys adolygiad manwl o'r cofnodion y seiliwyd eich ffurflen dreth arnynt gan gynnwys, os ydynt yn berthnasol, cofnodion eich busnes
Cynhelir llawer o ymchwiliadau syml yn gyfan gwbl drwy'r post. Ond os oes llawer o wybodaeth i'w thrafod, efallai mai cyfarfod fydd y ffordd gyflymaf. Efallai y bydd Cyllid a Thollau EM yn gofyn am gyfarfod yn:
Does dim rhaid i chi fynychu unrhyw gyfarfod, ond byddai hynny'n eich galluogi i ofyn cwestiynau ac esbonio unrhyw bwyntiau nad yw'r Swyddfa Dreth wedi'u deall yn eich barn chi. Gallwch hefyd ofyn i ffrind neu berthynas ddod gyda chi i'r cyfarfod.
Byddwch yn derbyn llythyr (sef 'hysbysiad terfynu') yn dweud wrthych fod yr ymchwiliad wedi dod i ben. Yn yr achos hwn, ni fydd unrhyw newidiadau i'ch hawliad na'ch ffurflen dreth.
Bydd Cyllid a Thollau EM yn newid eich ffurflen i adlewyrchu'r ffigurau is a thalu llog ichi o ddyddiad eich taliad anghywir hyd at y diwrnod y cewch ad-daliad.
Bydd Cyllid a Thollau EM yn awgrymu newidiadau ac yn ceisio cytuno gyda chi ar y rhain. Wedyn, gofynnir ichi dalu unrhyw dreth sy'n ddyledus o fewn 30 diwrnod i dderbyn yr hysbysiad terfynu yn cadarnhau'r newid.
Oni allwch dalu'r swm llawn yn syth, gallwch drefnu i dalu trwy randaliadau. Os mai swm bychan sy'n ddyledus yn unig, efallai y gallwch gynyddu eich 'taliadau ar gyfrif' dan y drefn Hunanasesiad ar gyfer y flwyddyn ddilynol.
Yn ddibynnol ar yr amgylchiadau, efallai y bydd yn rhaid ichi dalu llog ar y dreth na chafodd ei thalu gennych. Mae gordaliadau eraill ar gyfer peidio â thalu neu am dalu'n hwyr ar ôl i hysbysiad terfynu gael ei anfon.
Mae gennych hawl i apelio yn erbyn penderfyniadau neu daliadau cosb ar ôl ymchwiliad. Hefyd, gallwch apelio i stopio ymchwiliad os teimlwch nad oes sail dros barhau ag ef.
Mae gan Gyllid a Thollau EM fel arfer o'r amser y mae'n derbyn eich ffurflen dreth hyd at 12 mis ar ôl y dyddiad cau ar gyfer derbyn y ffurflenni (31 Ionawr fel arfer) i ddweud wrthych eu bod yn bwriadu cynnal ymchwiliad. Mae'r terfynau amser yn wahanol ar gyfer ffurflenni treth hwyr neu ddiwygiedig, neu lle roedd y wybodaeth a ddarparwyd gennych yn fwriadol gamarweiniol.