Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Gostyngiad treth ar gyfer milltiroedd busnes neu danwydd

Efallai y gallech gael gostyngiad treth ar filltiroedd busnes pan fyddwch yn defnyddio'ch cerbyd eich hun at ddibenion busnes, neu ar gyfer tanwydd y byddwch yn ei brynu pan fyddwch yn defnyddio car cwmni. Gallwch gael gostyngiad am nifer o flynyddoedd a aeth heibio - os ydych wedi anfon ffurflen dreth Hunanasesu atom yn flaenorol, gall hyn effeithio ar faint o amser sydd gennych.

Gostyngiad treth ar gyfer milltiroedd busnes

Efallai y gallech gael gostyngiad treth ar gyfer milltiroedd busnes os ydych yn defnyddio'ch cerbyd eich hun fel rhan o'ch gwaith. Gall fod yn gar, yn fan, yn feic modur neu'n feic.

Beth sy'n cyfrif fel milltiroedd busnes?

Milltiroedd busnes yw'r milltiroedd y byddwch yn eu teithio wrth wneud eich gwaith. Gall gynnwys teithio i weithle dros dro ond nid yw'n cynnwys:

  • teithio arferol rhwng eich cartref (neu unrhyw le nad yw'n weithle) a'ch gweithle parhaol
  • teithio preifat

Gostyngiad Lwfans Milltiroedd

Gallwch gael gostyngiad treth ar rywfaint neu'r cyfan o'ch milltiroedd busnes drwy gael Gostyngiad Lwfans Milltiroedd. Gallwch gyfrifo faint o Ostyngiad Lwfans Milltiroedd yr ydych yn gymwys i'w dderbyn drwy luosi nifer y milltiroedd busnes y byddwch yn eu teithio gyda'r gyfradd y filltir a argymhellir ar gyfer eich cerbyd.

Rhaid i'r canlynol fod yn wir i chi fod yn gymwys i dderbyn Gostyngiad Lwfans Milltiroedd:

  • nid yw'ch cyflogwr yn talu lwfans milltiroedd i chi
  • mae'ch cyflogwr yn talu llai na'r gyfradd a argymhellir ar gyfer lwfans milltiroedd i chi

Os yw'ch cyflogwr yn talu mwy na'r gyfradd y filltir a argymhellir i chi, bydd rhaid i chi dalu treth ar yr hyn sy'n ychwanegol.

Sut mae cyfrifo Gostyngiad Lwfans Milltiroedd

Sut mae cyfrifo Gostyngiad Lwfans Milltiroedd

Er mwyn cyfrifo Gostyngiad Lwfans Milltiroedd:

  • cyfrifwch yr holl filltiroedd busnes y bu i chi eu teithio yn ystod y flwyddyn dreth
  • lluoswch eich milltiroedd busnes gyda'r gyfradd a argymhellir ar gyfer milltiroedd er mwyn cyfrifo'r swm a argymhellir
  • cyfrifwch unrhyw daliadau lwfans milltiroedd a dderbyniwyd gan eich cyflogwr
  • cymharwch unrhyw daliadau lwfans milltiroedd a dderbyniwyd gyda'r swm a argymhellir

Os yw'r swm a argymhellir yn uwch, rydych yn gymwys i dderbyn Gostyngiad Lwfans Milltiroedd ar y gwahaniaeth.

Er enghraifft, os byddwch yn defnyddio'ch car eich hun am 850 o filltiroedd busnes a bod eich cyflogwr yn talu 30c y filltir i chi. Y swm a argymhellir yw £340 (850 wedi'i luosi â 40c). Y lwfans a gewch gan eich cyflogwr yw £225 (850 wedi'i luosi â 30c). Eich Gostyngiad Lwfans Milltiroedd yw £85 (£340 tynnu £225).

Cofnodion y mae'n rhaid i chi eu cadw

Mae angen i chi gadw cofnodion o ddyddiadau, milltiroedd a manylion pob siwrnai a wnaethoch wrth weithio. Mae ar eich cyflogwr angen yr wybodaeth hon er mwyn talu i chi am y treuliau. Mae arnoch eu hangen hefyd er mwyn cael unrhyw Ostyngiad Lwfans Milltiroedd.

Os ydych chi'n defnyddio gwahanol gerbydau

Os ydych chi'n defnyddio mwy nag un cerbyd o'r un math, cyfrifwch eich milltiroedd busnes i gyd mewn un cyfrifiad.
Os ydych chi'n defnyddio cerbydau o wahanol fathau, gwnewch gyfrifiadau ar wahân ar gyfer pob un.

Os ydych yn gweithio i wahanol gyflogwyr

Os oes gennych ddau neu fwy o gyflogwyr sy'n annibynnol ar ei gilydd, mae'r gyfradd filltiroedd uwch ar gyfer milltiroedd busnes yn ddyledus i chi yn y ddwy swydd.

Gostyngiad treth ar gyfer tanwydd wrth ddefnyddio cerbyd cwmni

Os byddwch chi'n talu am danwydd wrth ddefnyddio cerbyd cwmni wrth deithio at ddibenion busnes, gallwch gael gostyngiad treth ar gostau tanwydd, ac eithrio unrhyw daliadau a ad-dalwyd gan eich cyflogwr ac a gynhwysir mewn 'caniatâd arbennig'. Rhaid i chi gadw cofnod o'ch milltiroedd busnes er mwyn cyfrifo'ch treuliau.

Sut mae cael gostyngiad treth

I gael gwybod sut gallwch chi gael gostyngiad treth ar gyfer eich milltiroedd busnes neu danwydd, cliciwch ar y ddolen isod 'Sut mae cael gostyngiadau a lwfansau - gweithwyr neu gyfarwyddwyr'.

Os nad ydych chi wedi llenwi ffurflen dreth mae gennych bum mlynedd o 31 Hydref sy'n dilyn diwedd y flwyddyn dreth dan sylw er mwyn cael y gostyngiad. Os ydych chi eisoes wedi cwblhau ffurflen, mae gennych bum mlynedd o 31 Ionawr yn dilyn diwedd y flwyddyn dan sylw.

Allweddumynediad llywodraeth y DU