Os ewch i fyw neu i weithio dramor a rhoi'r gorau i breswylio yn y DU, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu Treth Incwm y DU o hyd - ond dim ond ar eich incwm o'r DU. Os bydd angen i chi dalu, efallai y bydd angen i chi lenwi ffurflen dreth Hunanasesu.
Byddwch yn cael eich trin fel person di-breswyl o'r diwrnod ar ôl i chi adael y DU os gallwch ddangos:
Mae'r un peth yn berthnasol i'ch partner priod, eich partner sifil neu'ch partner.
Cysylltu â'ch Swyddfa Dreth pan fyddwch yn gadael y DU
Os ydych yn gadael y DU rhaid i chi ddweud wrth Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi. Bydd eich Swyddfa Dreth yn rhoi ffurflen P85 'Gadael y Deyrnas Unedig' i chi er mwyn cael unrhyw ad-daliad treth sy'n ddyledus i chi a phennu a fyddwch yn dod yn ddi-breswyl. Os bydd angen i chi lenwi ffurflen dreth ar ôl i chi adael, fe roddant wybod i chi.
Os dowch yn ddi-breswyl, fyddwch chi ddim yn talu treth y DU ar eich incwm o weithio dramor.
Gweithio'n rhannol yn y DU
Os ydych yn ddi-breswyl ond yn gweithio'n rhannol yn y DU, byddwch yn talu treth y DU ar y rhan o'ch enillion a ddyrennir i'r gwaith hwnnw. Fel arfer rydych yn dyrannu'ch enillion drwy edrych ar nifer y dyddiau yr ydych yn gweithio yn y DU a nifer y dyddiau a weithir dramor.
Rheolau arbennig ar gyfer rhai gweithwyr
Mae yna reolau arbennig ar gyfer:
Holwch eich Swyddfa Dreth os ydy un o'r uchod yn berthnasol i chi.
Os nad ydych yn breswylydd, byddwch yn talu treth y DU ar eich pensiynau yn y DU - gan gynnwys Pensiwn y Wladwriaeth. Efallai na fyddwch yn talu treth y DU os oes gan y wlad yr ydych yn byw ynddi gytundeb trethiant dwbl gyda'r DU.
Tax on UK government service and local authority pensions
Wherever you live, you'll usually pay UK tax on a government service or local authority pension. But if you live in Australia, Canada, New Zealand or Cyprus you'll pay tax on it there.
Os ydych yn ddi-breswyl, yr unig dreth yn y DU y byddwch yn ei thalu fel arfer yw'r dreth a ddidynnir cyn i chi gael y llog.
Hefyd, os 'nad ydych yn preswylio'n arferol' (yr ydych yn byw fel arfer y tu allan i'r DU), gallwch dderbyn eich llog heb y didyniad treth drwy roi ffurflen R105 i'ch banc neu gymdeithas adeiladu.
Yn y naill achos neu'r llall, os oes treth wedi'i didynnu o'r llog, efallai y gallwch hawlio ad-daliad yn erbyn lwfansau treth y DU gan ddefnyddio ffurflen R43.
Os ydych yn ddi-breswyl, mae treth y DU yn dal yn ddyledus ar eich incwm arall o fuddsoddiadau yn y DU. Fodd bynnag, os oes gan y wlad yr ydych yn byw ynddi gytundeb trethiant dwbl gyda'r DU, efallai y bydd modd i chi gael gostyngiad neu eithriad. Ond chewch chi byth hawlio'n ôl na gostwng y credyd treth deg y cant ar ddifidendau o gwmnïau yn y DU.
Mae treth y DU yn ddyledus ar eich incwm o eiddo rhent.
Os ydych yn ddi-breswyl ac yn cael rhent o eiddo yn y DU a delir yn uniongyrchol i chi, rhaid i'ch tenant ddidynnu treth y DU ar y gyfradd sylfaenol - 20 y cant ar hyn o bryd. Os ydych yn defnyddio asiant gosod, byddant yn didynnu'r dreth o'r 'rhent net' - ar ôl unrhyw dreuliau sy'n cael eu caniatáu a dalwyd ganddynt.
Gallwch wneud cais i'r rhent gael ei dalu i chi heb ddidynnu treth os ydych chi'n meddwl na fydd yn rhaid i chi dalu unrhyw dreth y DU, neu os yw eich materion treth yn gyfredol. Ond bydd angen i chi ddatgan y rhent o hyd ar ffurflen dreth Hunanasesu os caiff ei hanfon atoch gan Gyllid a Thollau EM.
Os oes gan y wlad yr ydych yn byw ynddi gytundeb trethiant dwbl gyda'r DU, efallai y gallwch gael gostyngiad yno am dreth a dalwyd yn y DU.
Os ydych yn ddi-breswyl ac yn cael incwm tramor, does dim treth yn ddyledus yn y DU. Ond os caiff ei dalu neu ei gasglu gan asiant yn y DU - megis banc - maent fel arfer yn didynnu treth yn y ffynhonnell. Bydd angen i chi lenwi ffurflen PA1 neu CA1 - ar gael gan eich asiant - i atal hyn.
Os cewch eich trethu fel arfer ar incwm a ddygir i mewn i'r DU - sail taliad
Yn y flwyddyn dreth pan fyddwch yn gadael y DU, byddwch yn talu treth yn y DU ar y lleiaf o'r canlynol:
Os ydych yn un o ddinasyddion y Gymanwlad (gan gynnwys Prydeinig) neu Ardal Economaidd Ewrop, neu yn un o weithwyr presennol y Goron neu gyn weithiwr i'r Goron, byddwch yn dal i gael eich lwfansau di-dreth i leihau faint o Dreth Incwm sy'n ddyledus yn y DU. Mae hyn yn berthnasol i aelodau o rai grwpiau arbennig eraill hefyd.
Efallai y bydd y wlad yr ydych yn symud iddi am eich trethu ar eich incwm byd - hyd yn oed os oes treth yn ddyledus yn y DU. Os oes gan y wlad gytundeb trethiant dwbl gyda'r DU, fel arfer ni fydd yn rhaid i chi dalu'r un dreth ddwywaith.